Agenda item

Ail gyflwyniad o gais blaenorol i mewnforio deunydd anadweithiol er mwyn codi lefelau tir presennol.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Lesley Day

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Ail gyflwyniad o gais blaenorol i gludo i mewn deunydd anadweithiol er mwyn codi lefelau tir presennol.

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2016 er mwyn derbyn gwybodaeth bellach o ran y pryderon a gyflwynwyd gan yr aelod lleol. Nodwyd yr ail-ymgynghorwyd gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor ar y Cynllun Rheoli Amgylchedd Adeiladu a’r atodlen o fesurau lliniaru amgylcheddol a gyflwynwyd i gefnogi’r cais. Roedd CNC a Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor yn fodlon efo’r hyn a gyflwynwyd.

 

         Pwysleisiwyd bod y cais gerbron ar gyfer gwneud gwaith peirianyddol a chodi lefel tir er mwyn darparu safle ar gyfer datblygiad pellach.

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Adroddwyd y derbyniwyd gwrthwynebiad hwyr heddiw gan Gyfeillion y Ddaear. Nodwyd bod y materion a godwyd wedi eu hasesu yn yr adroddiad.

 

         Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod rhan o’r cais yn ôl-weithredol gan fod lefelau tir wedi eu codi eisoes;

·         Bod ddim cofnod o ran y deunyddiau ar y safle felly nid oes sicrwydd o ran ei strwythur;

·         Bod yr archwiliadau a gynhaliwyd o’r tir yn arwynebol;

·         Bod y safle yn agored i erydiad a’i phryderon o ran sefydlogrwydd y tir;

·         Nad oedd dyluniad y morglawdd yn ddigonol ac ni fyddai’n gwarchod y safle o’r môr;

·         Bod achosion lle bo’r Awdurdod Lleol wedi ei erlyn yn llwyddiannus pan fo pethau’n mynd o’i le ar dir ansefydlog a halogedig lle derbyniwyd caniatâd cynllunio;

·         Y gallai asesiadau geo-amgylcheddol digonol sicrhau y byddai’r safle yn ddiogel;

·         Bod y bwriad yn groes i bolisi B28 a B30 o’r CDUG ynghyd â Nodyn Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru 15;

·         Bod y tir wedi ei halogi er nad oedd wedi ei gofnodi ar gofrestr tir halogedig a pe byddai datblygiad tai ar y safle yn y dyfodol yna fe fyddai risg sylweddol i iechyd dynol;

·         Bod risg i’r deunydd a halogwyd ollwng i’r Fenai. A yw’r amodau a argymhellir yn ddigonol i sicrhau na fyddai llygredd yn dianc o’r safle?

 

(ch)   Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio:-

·         Y byddai unrhyw gais am ddatblygiad yn y dyfodol yn cael ei benderfynu ar ei haeddiant ac mai’r bwriad oedd darparu safle ar gyfer datblygiad;

·         Bod y tir wedi ei ddynodi yn y CDUG fel safle ail-ddatblygu;

·         Y derbyniwyd cadarnhad nad oedd gan CNC na Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd wrthwynebiad i’r cais;

·         Nid oedd tystiolaeth i gyfiawnhau gwrthod o ran llygredd;

·         Bod adroddiadau technegol manwl a oedd wedi eu cyflwyno fel rhan o’r cais wedi eu hasesu gan arbenigwyr.

 

(d)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol:

 

·         Bod yr adroddiad yn gynhwysfawr;

·         Bod rhagdybiaeth y dylid caniatáu ceisiadau os yw’r amodau a osodir yn gwneud datblygiad yn dderbyniol;

·         Nid oedd tystiolaeth gadarn i gyfiawnhau gwrthod y cais;

·         Bod Cyngor Dinas Bangor yn pryderu o ran effaith weledol y datblygiad ar y ddinas a’i hardaloedd preswyl;

·         Aelod wedi cefnogi gohirio’r cais y tro diwethaf ac yn dilyn derbyn barn arbenigol a drwy osod yr amodau a argymhellir bod y bwriad yn dderbyniol;

·         Amser a ddengys o ran pe cyfyd problemau gyda’r safle ac fe roddir ystyriaeth i’r sefyllfa ar yr amser y cyflwynir cais i’w ail-ddatblygu;

·         Bod yr aelod lleol wedi gwneud pwyntiau dilys. A fyddai’r cwmni yn gyfrifol pe byddai problemau’n codi?

·         A allai Cyngor Gwynedd cael eu dal yn atebol pe fyddai problemau’n codi?

·         Y byddai’r datblygiad yn gwella’r safle.

 

(c)       Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:-

·         Ni fyddai’n hawdd cyfiawnhau gwrthod y cais ar sail yr effaith weledol o ystyried cyflwr y safle yn bresennol;

·         Fe fyddai’r perchennog tir yn gyfrifol pe byddai problemau’n codi;

·         Pe caniateir y cais, byddai’n rhaid i’r datblygwr dderbyn trwydded forol gan CNC cyn gellir cychwyn ar y datblygiad sydd yn broses hynod o fanwl a thrylwyr;

·         Nid oedd tystiolaeth o ran ansefydlogrwydd y tir;

·         Y derbyniwyd barn gan arbenigwyr mewnol a statudol a oedd wedi nodi fod y bwriad yn dderbyniol efo amodau. Eglurwyd gan mai cyd-fynd a chyngor yr arbenigwyr y gwna’r cyngor, pe caniateir y cais, bod y cyngor mewn sefyllfa gyfreithiol gadarn.

 

PENDERFYNWYD awdurdodi Uwch Reolwr y Gwasanaethau Cynllunio, Amgylchedd a Gwarchod y Cyhoedd i gymeradwyo’r cais yn amodol ar gwmpas yr amodau a ganlyn a lle nodir hynny, gyflwyno gwybodaeth benodol yn unol â gofynion ynghylch amodau cyn dechrau ar y datblygiad: 

 

      Gwaith dros dro yn cynnwys gweithredu'r cynllun yn llawn a chludo 19,000 tunnell o ddeunydd, i'w weithredu o fewn amserlen naw mis i ddyddiad rhoi gwybod i'r Awdurdod Cynllunio Lleol,

      Gwaith a Ganiateir a Chydymffurfio â’r Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd,

      Cyfyngir ar yr hyn a gludir i 500 tunnell y diwrnod, rhwng yr oriau 08.00 – 17.00 ddydd Llun i ddydd Gwener a 08.00 – 13.00 ar ddydd Sadwrn, neu 25 o lwythi’r dydd,

      Gwaith adfer i gychwyn ymhen 3 blynedd ar ôl cwblhau gweithrediadau codi tir oni roddir caniatâd cynllunio pellach,

      Bod camau lliniaru’n gostwng yr effaith ar y pibydd coesgoch, corhedydd y graig a nodweddion eraill o ddiddordeb yn y fioamrywiaeth leol, gan gynnwys;

      Gwahardd gwaith adeiladu/dympio awr cyn y llanw uchel ac awr wedi hynny h.y. cyfnod o ddim gwaith am dair awr o amgylch y llanw uchel,

      Er mwyn osgoi niwed i adar nythu (corhedydd y graig) dim adeiladu/dympio ar y llethrau arfordirol rhwng 1 Mawrth ac 1 Awst.

      Gwelliannau bioamrywiaeth i gael eu hymgorffori i'r datblygiad gan gynnwys nodweddion i adar hirgoes a chorhedydd y graig. 

      Dylid cynnal arolygon monitro yn ystod y cyfnod adeiladu i wirio a yw adar yn parhau i ddefnyddio’r safle a bod camau’n cael eu gweithredu’n llwyddiannus i leihau tarfu i’r eithaf,

      Bod y gwaith datblygu’n cynnwys darpariaeth ar gyfer gwella’r fioamrywiaeth,

      Cael gwared ar offer a’r strwythurau peirianneg sifil, a’r peiriannau sydd dros ben unwaith y bydd y gwaith datblygu wedi’i gwblhau,

      Rheoli llwch a ryddheir a darparu offer golchi olwynion ar y safle i fod yn destun amod cynllunio,

      Cyfyngu’r defnydd i ollwng deunydd anadweithiol

      Amod i nodi dyluniad manwl y deunydd rip-rap er mwyn nodi isafswm ac uchafswm maint y garreg i'w defnyddio ac unrhyw ofynion cynnal a chadw yn y dyfodol,

      Mesurau rheoli llygredd, monitro safle a lliniaru ecolegol i'w gweithredu yn unol â'r Cynllun Rheoli Amgylchedd Adeiladu,

      Ymgeisydd i weithredu cynllun samplo a dadansoddi dŵr i ganfod a oes unrhyw lygryddion yn bresennol,

      Storio tanwydd ac ireidiau mewn lleoliad y cafwyd caniatâd ysgrifenedig yr Awdurdod Cynllunio Lleol iddo. Dylid gellid dal o leiaf 110% o gapasiti’r tanc tanwydd.

      Nodyn i’r ymgeisydd yn cyfeirio at ymateb ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru a Gwasanaeth Rheoli Risg o Lifogydd ac Erydiad Arfordirol Cyngor Gwynedd,

      Nodyn i’r ymgeisydd mai cyfrifoldeb y datblygwr a/neu'r tirfeddiannwr yw datblygu’r safle’n ddiogel a’i feddiannu’n ddiogel ac mai ef sy’n atebol wedi hynny,

      Nodyn i’r ymgeisydd fod y cais wedi’i asesu’n unol â saith nod cynaliadwyedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Dogfennau ategol: