Agenda item

Newid defnydd rhan o'r siop bresennol, gosod blaen siop newydd a chodi estyniad deulawr ar ben yr estyniad cefn presennol i greu 2 siop a llety ar gyfer 65 o fyfyrwyr.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Gwynfor Edwards

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

 

 

Cofnod:

Newid defnydd rhan o'r siop bresennol, gosod blaen siop newydd a chodi estyniad deulawr ar ben yr estyniad cefn presennol i greu 2 siop a llety ar gyfer 64 o fyfyrwyr.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle ar y Stryd Fawr o fewn canol Dinas Bangor gerllaw’r gadeirlan. Nodwyd bod yr adeilad yn adeilad rhestredig gradd II a hefyd wedi ei leoli o fewn Ardal Cadwraeth Bangor.

 

         Eglurwyd er bod yr estyniad arfaethedig yng nghefn y safle a bod y safle yn eithaf cuddiedig o fannau cyhoeddus agos, nid oedd yn cyfiawnhau estyniad o’r raddfa, swmp, ffurf a’r dyluniad yma gan yr ystyrir y byddai’n amharu’n sylweddol ar edrychiad a chymeriad yr adeilad rhestredig. Nodwyd bod Ardal Cadwraeth Bangor yn eang ac yn cynnwys sawl adeilad rhestredig gradd I gyda topograffi Bangor yn golygu fod rhannau o’r ddinas yn weladwy o bellter e.e. golygfeydd o brif adeilad y Brifysgol (sydd yn adeilad rhestredig gradd I) ar draws y ddinas. Ystyrir y byddai’r elfen to fflat yn ymddangos fel nodwedd anghydweddol o olygfeydd ar draws y ddinas na fyddai’n parchu’r adeilad rhestredig o’i flaen, na phatrymau datblygu strydoedd yr ardal o’i gwmpas.

 

         Tynnwyd sylw y derbyniwyd gwrthwynebiadau ar sail gor-edrych o ffenestri a gerddi. Nodwyd yr ystyrir bod y bwriad yn groes i bolisi B23 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd (CDUG) gan y byddai’r datblygiad yn cael effaith niweidiol ar fwynderau preswyl unedau a thai cyfagos ac na fyddai’r datblygiad yn sicrhau safon byw ddigonol i breswylwyr y datblygiad.

 

(b)     Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol:

 

·         Yng nghyswllt asesiad ieithyddol o geisiadau, y dylid asesu’r effaith gronnol yn hytrach na’r cais yn unig;

·         A fyddai’n bosib derbyn gwybodaeth o ran nifer yr unedau myfyrwyr a ganiatawyd yn y flwyddyn ddiwethaf ac am y cyfnod o 2 flynedd?

·         Bod yr argymhelliad i wrthod yn gryf, byddai’r estyniad bwriedig yn dominyddu’r adeilad rhestredig ac yn dirywio golygfeydd yn y Ddinas;

·         Bod angen datblygu’r safle ond byddai’r estyniad yn y cefn yn effeithio’n andwyol ar yr adeilad rhestredig;

·         Pryder o ran gosod amod sy’n atal myfyrwyr rhag iddynt ddod a cherbyd o fewn tair milltir i’r datblygiad a gofyn am gynllun teithio cyn preswylio’r datblygiad yn hytrach na darparu llecynnau parcio ar gyfer y datblygiad gan na fyddai modd ei blismona.

 

(c)       Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:-

 

·         Fel y nodir yn yr adroddiad, ni fyddai’r bwriad yn golygu unrhyw newid ym mhoblogaeth y Ddinas gan fod y myfyrwyr yn bresennol yn barod ac ystyrir na fyddai’n debygol o gael effaith arwyddocaol ar yr Iaith Gymraeg;

·         Bod gwybodaeth o ran nifer unedau myfyrwyr ac asesiad o’r manylion wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ym mharagraffau 5.5 i 5.16;

·         O ran gosod amod sy’n atal myfyrwyr rhag iddynt ddod a cherbyd o fewn tair milltir i’r datblygiad a gofyn am gynllun teithio cyn preswylio’r datblygiad, bod amodau o’r fath yn cael eu rhoi ar ganiatadau yng Nghymru ac yn Lloegr gydag arolygydd yn ogystal wedi gosod amod o’r fath;

·         Bod y rhesymau gwrthod yn rhai cadarn.

 

          PENDERFYNWYD gwrthod y cais.

 

          Rhesymau:

 

1.     Byddai’r bwriad oherwydd ei raddfa, swmp, ffurf a’i ddyluniad yn cael effaith niweidiol sylweddol ar edrychiad a gosodiad yr adeilad rhestredig gradd II a’r ardal Cadwraeth ac felly yn groes i bolisïau B2, B3 B4, B22 a B24 CDUG ac i ofynion Cylchlythyr Swyddfa Gymreig 61/96.

 

2.     Ystyrir fod y bwriad yn groes i bolisi B23 o’r CDUG gan y byddai’r datblygiad yn cael effaith niweidiol ar fwynderau preswyl unedau a thai cyfagos, oherwydd ei raddfa, swmp, ffurf a’i ddyluniad trwy gael effaith ormesol, achosi gor-edrych a cholli preifatrwydd, cysgodi a lleihad sylweddol i golau dydd naturiol ac na fyddai modd i’r datblygiad sicrhau safon byw ddigonol i breswylwyr y datblygiad.

 

Dogfennau ategol: