Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig
Ystyried adroddiad yr Aelod
Cabinet
Cofnod:
a)
Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet yn adrodd
ar y bwriad i adolygu a diweddaru’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy a chael
mewnbwn dechreuol gan y Pwyllgor ar y broses. Eglurwyd bod Deddf Cefn Gwlad
Hawliau Tramwy 2000 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau i baratoi a chyhoeddi
Cynllun Gwella Hawliau Tramwy. Ategwyd bod
gofyn statudol i adolygu'r cynllun bob 10 mlynedd a bod Gwynedd angen cynnal
adolygiad cyn Tachwedd 2017.
b)
Amlygwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi
canllawiau i Awdurdodau Lleol sydd yn egluro’r drefn a’r camau sydd i’w cymryd
ar gyfer cynnal adolygiad ynghyd â pharatoi cynllun newydd. Rhaid i’r Awdurdod
ystyried pwrpas a defnydd y Cynllun fel dogfen sydd yn cwmpasu dyletswyddau’r
Awdurdod ac yn gosod blaenoriaethau ym maes hawliau tramwy a mynediad ar droed,
beic a marchogaeth.
c)
Ers cyhoeddi’r cynllun yn 2007, adroddwyd bod
newidiadau mawr wedi dylanwadu ar y maes, megis toriadau mewn cyllidebau at
waith cynnal y rhwydwaith o lwybrau, dyfodiad a dylanwad deddfwriaethau newydd
sydd yn gorgyffwrdd a’r maes mynediad, ynghyd a thwf cyffredinol yn y galw am
lwybrau a chyfleusterau mynediad o safon uchel a chydnabyddiaeth o’u
pwysigrwydd i’r diwydiant twristiaeth.
ch) Gofynnwyd i’r Pwyllgor gytuno bod
angen a chyfiawnhad dros baratoi cynllun
newydd ar gyfer Gwynedd ynghyd a bod yn gefnogol i’r bwriad o adolygu’r
cynllun.
d)
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â rhwydwaith y
Sir, nododd Uwch Reolwr Cynllunio ac
Amgylchedd bod y cynllun presennol yn blaenoriaethu'r llwybrau poblogaidd ac felly'r adnoddau yn cael eu rhoi yma. Ategwyd y byddai
adolygiad yn rhoi cyfle i Wynedd ail edrych ar y
blaenoriaethau o safbwynt cynnal y rhwydwaith yn hytrach na blaenoriaethu'r
rhai poblogaidd. Ychwanegodd mai tasg werthfawr fyddai adolygu'r cynllun.
dd)
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â hawliau mynediad
cyfartal i bawb, adroddodd y byddai’r Ddeddf Hawliau Cyfartal yn cael
ystyriaeth fel rhan o’r adolygiad ac y bydd asesiadau cydraddoldeb angen eu
gweithredu.
e)
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r
posibilrwydd o gydweithio gyda’r Parc Cenedlaethol er nad yw’n ofynnol i’r Parc
fod yn rhan o’r adolygiad, nodwyd bod trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda’r
Parc ers tua 18 mis. Er nad yw yn
statudol i’r Parc gynhyrchu cynllun, yn ymarferol byddai yn gwneud synnwyr i
sefydlu cynllun a fydd yn cwrdd ag anghenion y Cyngor a’r Parc. Ychwanegwyd ond
bod y Parc yn cefnogi'r egwyddor o baratoi Cynllun ar y cyd. Cydnabuwyd yr
angen i drafod adnoddau a chyllid, ond gyda’r angen am wybodaeth arbenigol am rwydwaith y Parc, awgrymwyd, drwy
gydweithio, y byddai’r cynllun yn fwy cadarn ac ymarferol.
f)
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â sut bydd llwybrau
yn cael eu blaenoriaethu ac yr angen i ystyried adnoddau lleol i gadw llwybrau
yn agored, adroddwyd na fyddai'r cynllun newydd yn rhoi manylder ar lwybrau
penodol, ond yn edrych ar roi fframwaith yn ei le ar gyfer blaenoriaethu gwaith
gan geisio sicrhau trefniadau gweithredu effeithiol.
ff)
Yn ystod
y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:
·
Beth yw maint y rhwydwaith? A oes modd canolbwyntio
ar y rhai sydd yn cael eu defnyddio fwyaf?
·
Derbyn bod angen
cynnal adolygiad, ond gofal ar
sut i weithredu
·
Nid oedd adnoddau digonol yn 2007, felly beth fydd
y sefyllfa yn 2016?
·
Rhaid buddsoddi mewn adnodd sydd ei angen i’r
dyfodol - pwysig i’r diwydiant twristiaeth
·
A oes modd denu adnoddau o ffynonellau eraill?
·
Angen gweld
Bioamrywiaeth yn cael ei gynnwys
yn y trafodaethau
Amlygwyd y byddai
unrhyw fuddsoddiadau a gwelliannau i’r rhwydwaith
hawliau tramwy yn debygol o fod yn gwbl ddibynnol ar arian grant.
Cynigiwyd
ac eiliwyd i dderbyn yr argymhelliad
PENDERFYNWYD:
a)
bod y Pwyllgor yn gefnogol i’r bwriad o adolygu
a pharatoi Cynllun Gwella Hawliau Tramwy i Wynedd a bod yr Adran Rheoleiddio yn adnabod dulliau
o ddod ac adnoddau ynghyd ar gyfer
y gwaith.
b)
bod yr Adran yn cysylltu gyda
Llywodraeth Cymru i bwyso arnynt i gyllido’r adolygiad.
c)
Bod yr Aelod Cabinet
yn cyflwyno adroddiad cynnydd i’r Pwyllgor Craffu mewn oddeutu
6 mis
Dogfennau ategol: