Agenda item

Aelod Cabinet: Cynghorydd John Wynn Jones

 

Ystyried Adroddiad Ymchwiliad Craffu Gorfodaeth Stryd

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad yr ymchwiliad craffu Gorfodaeth Stryd i’r Aelod Cabinet John Wynn Jones. Atgoffwyd pawb beth oedd cefndir y briff a rhoddwyd crynodeb o’r gwaith a wnaed gan y Cynghorydd Angela Russell (gan fod y Cynghorydd Annwen Daniels, Cadeirydd yr ymchwiliad wedi gorfod ymadael a’r cyfarfod yn gynnar)

 

b)    Ategodd yr Aelod Cabinet ei ddiolch i’r aelodau am eu hymchwiliad trylwyr, ac wedi ymgynghori gyda sawl un, cydnabuwyd bod yr adroddiad yn adlewyrchiad teg o’r gwaith.

 

c)    Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

 

·         Bod yr ymchwiliad yn cynnig ymateb creadigol e.e., defnyddio cwmni allanol i osod dirywion fel y gall yr uned fewnol ganolbwyntio ar elfennau megis hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth

·         Awgrym y dylai busnesau gyfrannu at gynnal a chadw cylchfannau drwy noddi

·         Ymgynghori gydag ysgolion yn allweddol - rhaid addysgu pobl i warchod yr amgylchedd

·         Cyfleoedd yma i newid diwylliant

 

ch)       Mewn ymateb, derbyniodd yr Aelod Cabinet yr angen i fod yn greadigol. Adroddwyd bod gwaith codi ymwybyddiaeth da ac ymgyrchoedd llwyddiannus yn cael ei gwneud gan yr Uned Gorfodaeth. Os bydd  penderfyniad i ddefnyddio cwmni allanol i osod dirywion, rhaid sicrhau bod pob Cynghorydd yn gefnogol i’r  penderfyniad a bod cynllun ymgysylltu, effeithiol mewn lle.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, derbyn yr argymhellion ynddo a cheisio adroddiad yn ôl gan yr Aelod Cabinet mewn tua 6 – 9 mis o’r hyn sydd wedi ei gyflawni yn dilyn yr argymhellion.

 

Dogfennau ategol: