Agenda item

Derbyn Adroddiad Blynyddol y Gronfa Bensiwn am 2015-2016

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Adroddiad Blynyddol y Cynllun Pensiwn am 2015/16.

Rhoddwyd sylw penodol i brif faterion yr adroddiad sef:

 

·                                     Perfformiad Buddsoddi

 

Gwerth asedau:

 

Adroddwyd cynnydd yng ngwerth asedau’r Gronfa o £1,497m (31/03/2015) i £1,525m (31/03/2016) - cynnydd o £28m yn ystod y flwyddyn. Roedd y meincnod perfformiad safonol yn -0.3% ar gyfer 2015/16, ac felly lle i ddiolch i reolwyr y Gronfa am lwyddo i gael +1.3% mewn blwyddyn.

 

Rhwng 1af o Ebrill 2016 a’r 30 Mehefin 2016, nodwyd bod gwerth marchnad y Gronfa wedi codi £58m arall i £1,583m, ond yn dilyn refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth Undeb Ewropeaidd a chanlyniad y bleidlais i adael, gwelwyd effaith uniongyrchol ar werth y bunt a chyfraddau llog y DU. Bu i’r marchnadoedd byd-eang wella ar ôl y gostyngiad gwreiddiol yn dilyn canlyniad y refferendwm, ond anodd oedd rhagweld effaith hir dymor penderfyniad ‘Brexit’ ar Gronfa Bensiwn Gwynedd.

 

Amlygwyd perfformiad rhagorol gan Veritas (buddsoddwyr mewn ecwiti ar ran y Gronfa) ynghŷd â pherfformiad da iawn gan Threadneedle ac UBS (buddsoddwyr mewn eiddo), a dychweliadau eithriadol o dda gan Partners Group yn 2015/16, wrth i fuddsoddiadau Ecwiti Preifat ddwyn ffrwyth, wedi buddsoddiad tymor hir gan y Gronfa  i’r categori yma.

 

·                                     Cyd-fuddsoddi

 

Adroddwyd bod Llywodraeth San Steffan wedi penderfynu  pŵlio buddsoddiadau y CPLlL yn hytrach nac uno cronfeydd.  Golygai hyn bod Cronfa Bensiwn Gwynedd am barhau ar wahân i gronfeydd fel Clwyd, Powys, ayb, ond bydd buddsoddiadau yn cael eu gwneud trwy strwythur cydweithredol. Ategwyd bod yr 8 Cronfa Gymreig eisoes wedi cychwyn cyd-fuddsoddi.

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (“DCLG”) yn mynnu cyflwyniadau gan holl gronfeydd Lloegr a Chymru, yn esbonio eu cynlluniau cydweithio a’r arbedion y disgwylid i’w cyflawni. Eglurwyd nad oedd prosiect cydweithio Cymru gyfan (gwerth deuddeg biliwn o bunnoedd) yn cyrraedd gofynion safonol y Trysorlys o ran maint (pump ar hugain biliwn), ond cytunodd y Llywodraeth y dylai’r gwaith cydweithio, barhau.  Nodwyd bod strwythur llywodraethol y pŵl yn cael ei ddylunio, a chyfrifoldebau yn cael eu cytuno, cyn i’r strwythur newydd fod yn weithredol yn 2017.  Y gobaith yw sefydlu cydbwyllgor llywodraethu, gydag un bleidlais arno i bob un o’r 8 Cronfa.

 

Bydd y drefn pŵl yn symud penderfyniadau apwyntio, monitro a therfynu rheolwyr buddsoddi unigol oddi wrth pob Cronfa. Fodd bynnag, bydd Pwyllgor Pensiynau Gwynedd yn parhau yn gyfrifol am y strategaeth fuddsoddi, a’r dyraniad asedau rhwng categorïau ecwiti, eiddo, ayb.  sef y gyrrwr mwyaf arwyddocaol ar ddychweliadau buddsoddi.

 

Cyhoeddwyd bod gwybodaeth pellach am y cynlluniau cyd-fuddsoddi ar gael ar wefan y Gronfa.

 

Sicrhaodd y Cadeirydd bod yr atebolrwydd yn parhau yn lleol sydd yn galluogi i’r Gronfa ymateb i anghenion yr aelodau. Nododd mai'r cam nesaf fydd creu Cyd-Bwyllgor Cysgodol. Hyd yma, ategodd bod yr arwyddion yn galonogol gyda chydweithio buddiol rhwng Cadeiryddion yr 8 Cronfa, ac arbedion sylweddol eisoes wedi eu cyflawni ar y ffioedd am fuddsoddiadau ecwiti goddefol.

 

·                                     Bwrdd Pensiwn

 

Adroddwyd bod cyfansoddiad Bwrdd Pensiwn Cronfa Gwynedd wedi ei sefydlu ym Mawrth 2015 a’r cyfarfod cyntaf wedi ei gynnal Gorffennaf 2015 (cyfeiriwyd at  adroddiad blynyddol y Bwrdd Pensiwn oedd wedi ei gynnwys yn adroddiad y Gronfa). Eglurwyd bod gan y Bwrdd sylwebydd yn bresennol yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Pensiynau, tra bod Cadeirydd y Pwyllgor yn mynychu cyfarfodydd y Bwrdd, er mwyn bod yn atebol am benderfyniadau a pherfformiad, ochr yn ochr gyda swyddogion y Gronfa.

 

Ategodd y Cadeirydd ei fod yn croesawu lefel arall o lywodraethu fydd yn sicrhau'r gorau i’r Gronfa. Cadarnhaodd bod y Bwrdd Pensiwn yn herio a chraffu penderfyniadau'r Pwyllgor Pensiynau ac eisoes yn arsylwi cyfarfodydd.

 

·                                     Canlyniad y Prisiad

 

Nodwyd bod canlyniad y prisiad actiwaraidd teirblynyddol 31 Mawrth 2016 i’w gyhoeddi  mewn cyfarfod i’r holl gyflogwyr ar y 10fed o Dachwedd 2016 lle bydd Actiwari’r Gronfa yn cyflwyno’r canlyniadau. Anogwyd pob cyflogwr i fynychu’r cyfarfod hwnnw er mwyn deall y broses a’r tybiaethau a ddefnyddiwyd i gyrraedd cyfraddau cyfraniadau cyflogwyr unigol.

 

Ategwyd bod yr Uned Weinyddu wedi bod yn trin data aelodaeth ar gyfer y prisiad dros gyfnod o fisoedd gydag adnoddau staff y Gronfa wedi cael ei flaenoriaethu er mwyn sicrhau bod y data yn gywir. Gofynnwyd i’r cyflogwyr barhau i anfon data ei gweithwyr yn rheolaidd yn y dyfodol, fel bod yr adroddiadau yn fwy cywir.

 

Gyda sefyllfa pob cyflogwyr unigol o fewn y Gronfa yn wahanol, yn gyffredinol, dylai cryfder y Gronfa alluogi i gymryd dull hyblyg tuag at osod lefel cyfraddau cyfraniadau pensiwn cyflogwyr. Adroddwyd bod y swyddogion a’r actwari yn llwyr ymwybodol fod isafu unrhyw gynnydd mewn cyfraddau cyfraniadau yn bwysig o ystyried y wasgfa barhaus ar wariant cyhoeddus. 

 

Y prif amcan fydd sicrhau bod gan gyflogwyr strategaethau cyfrannu fforddiadwy, teg, a chynaliadwy ar gyfer 2017/18 – 2019/20, ond bydd rhaid i hynny adlewyrchu amgylchiadau unigol y cyflogwr.

 

Adroddwyd bod dwy elfen o fewn cyfraniadau pensiwn cyflogwyr (employer contributions,

ddim yr employee contributions).

 

·   Cyfradd y prif gyfraniad, sef “primary contribution rate”, neu “future service rate”

·   Cyfradd cyfrannu ychwanegol, sef “secondary contribution rate”, neu “deficit

    recovery element”

 

Disgwylir i’r brif gyfradd ar gyfer ymrwymiadau’r dyfodol gynyddu, oherwydd gostyngiad yn y gyfradd disgowntio (“discount rate”). Eglurwyd bod yr actiwari yn disgowntio gwerth y pensiynau fydd yn gorfod talu allan yn y dyfodol er mwyn adnabod gwerth presennol net (NPV) yr ymrwymiadau rheiny. Ategwyd bod y gyfradd disgowntio yn gysylltiedig â dychweliadau bondiau’r Llywodraeth.  Nodwyd fod y  Llywodraeth wedi gostwng cyfraddau llog i lefel echrydus o isel er mwyn hybu’r economi. Un effaith o hynny yw bod gwerth presennol  ymrwymiadau pensiwn yn uwch, oherwydd llai o effaith disgowntio.

 

Er hynny, nodwyd fod disgwyl gostyngiad yn y gyfradd cyfrannu ar gyfer adfer diffygion hanesyddol, oherwydd perfformiad gwell na’r disgwyl wrth fuddsoddi ar y farchnad stoc ers 2013, a bod disgwyl i’r “diffyg” hanesyddol leihau eto.  Ym mhrisiad 2013, roedd lefel ariannu'r Gronfa yn 85%, ar gyfer y gronfa gyfan.  Disgwylir i lefel ariannu 2016 wella i tua 91% gyda chanrannau cyflogwyr unigol yn amrywio o gwmpas y cyfartaledd yma. Yn anffodus, disgwylir i’r cynnydd yn y prif gyfradd (pwysau’r dyfodol) fod ychydig yn fwy na’r gostyngiad yn y gyfradd sydd yn adfer y diffyg hanesyddol.

 

Ni ellid proffwydo lefel diffygion cyflogwyr unigol, na lefel cyfraniadau.  Er hynny, disgwylid y byddai mwyafrif cyflogwyr y Gronfa yn gallu dygymod gyda’r gwasgedd ar i fyny ar eu cyfraniadau pensiwn. Amlygwyd bod staff y Gronfa a chyflogwyr wedi gweithio er mwyn sicrhau bod y wybodaeth ar gyfer y prisiad actiwaraidd mor gywir ac amserol â phosib.

 

Diolchwyd i bawb am eu cefnogaeth yn ystod 2015/16 ynghŷd â’u cyfraniadau positif a chydwybodol yn ystod y flwyddyn

   

 

PENDERFYNWYD DERBYN  ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GRONFA BENSIWN AM 2015/16

 

 

Dogfennau ategol: