Agenda item

Cais amlinellol i godi 18 uned anheddol (gan gynnwys 4 uned fforddiadwy) ynghyd a chreu mynedfa gerbydol newydd, ffordd stad fewnol a llwybr troed ar gyfer cerddwyr (cynllun diwygiedig i’r hyn a ganiatawyd ar apel cyf C13/0766/13/LL – Apel APP/Q6810/A/14/2215839

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Ann Williams

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

 

Cofnod:

Cais amlinellol i godi 18 uned anheddol (gan gynnwys 4 uned fforddiadwy) ynghyd a chreu mynedfa gerbydol newydd, ffordd stad fewnol a  llwybr troed ar gyfer cerddwyr (cynllun diwygiedig i’r hyn a ganiatawyd ar apêl cyf C13/0766/13/LL - Apêl APP/Q6810/A/14/221539).

 

(a)       Adroddwyd bod llythyrau hwyr wedi ei derbyn yn ceisio cyfiawnhau y datblygiad

 

Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan atgoffa'r aelodau bod y safle yn un lle gwrthodwyd cais blaenorol ar gyfer datblygiad preswyl i godi 24 uned byw (gan gynnwys 16 uned fforddiadwy), ond a dderbyniwyd caniatâd yn ddiweddarach o ganlyniad i benderfyniad gan Arolygydd Cynllunio ar Apêl. Derbyniwyd cais diweddarach i amrywio’r cynllun fel bod cyfanswm yr unedau yn lleihau o 24 i 18 gyda 11 o’r tai a ganiatawyd yn dai fforddiadwy. Amlygywd bod y cais cyfredol yn un amlinellol ar gyfer 18 annedd, ond bod y gyfran tai fforddiadwy wedi lleihau o 11 i 4.

 

Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli yn rhannol oddi mewn i ffin datblygu Bethesda sydd wedi ei ddynodi fel Canolfan Lleol yng Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd. Ategwyd bod y safle yn hanesyddol wedi bod fel modurdy/depo loriau. Nodwyd bod y defnydd yma wedi dod i ben a’r safle bellach wedi ei glirio o adeiladau a safai yno yn y gorffennol. Ystyriwyd bod y safle yn dir sydd wedi ei ddatblygu eisoes ac felly yn cael ei ddiffinio fel safle Tir Llwyd.

 

Ategwyd bod angen sylweddol am dai fforddiadwy yn yr ardal ac felly anodd derbyn nad yw hyn yn cael ei gyfarch yn y cais diwygiedig

 

          Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         mai datblygiad preswyl ydoedd am 18 o dai marchnad agored a 4 fforddiadwy

·         cais wedi ei ganiatáu yn dilyn apêl ddilys

·         derbyn bod rhan o’r safle tu allan i’r ffin datblygu

·         cyfiawnhad mai tir sydd yma sydd eisoes wedi ei ddatblygu (tir llwyd) ac felly caniatâd wedi ei gyfarch ar gyfer y safle i gyd

·         nad oedd gan Cyngor Gwynedd gyflenwad tir am 5 mlynedd

·         yn unol â chanllawiau dylunio -  y tai fforddiadwy wedi eu hintegreiddio gyda thai marchnad agored

·         cyfiawnhad digonol ar gyfer y cais arfaethedig

 

(c)       Cynigiwyd i ganiatáu y cais yn groes i’r argymhelliad. Disgynnodd y cynnig

 

(ch)   Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais yn unol â’r argymhelliad

 

(d)       Gwnaed  cais i’r Uwch Reolwr ymateb i sylwadau'r asiant.

 

Amlygodd yr Uwch Reolwr bod angen tystiolaeth bellach  cyn ystyried y cais yn llawn - pam cyfiawnhau tai marchnad agored tu allan i ffin datblygu lleol? Amlygwyd bod materion sylfaenol dros wrthod y cais i) egwyddor y datblygiad, ii) nid yw’r polisiau yn caniatáu datblygu tu allan i’r ffin datblygu ac iii) mae tystiolaeth gadarn i awgrymu bod angen dwys am dai fforddiadwy ym Methesda. Nodwyd bod caniatâd eisoes ar gyfer 11 tŷ fforddiadwy, pam felly cwtogi hyn i 4.

 

(e)       Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylw canlynol:

·         bod angen rhesymau eithriadol i ddatblygu tu allan i’r ffin - nid yw'r bwriad yn rhesymol ac yn ymddangos yn waeth na’r caniatâd sydd eisoes yn bodoli

 

 

          PENDERFYNWYD gwrthod y cais.

 

Rheswm

 

 

Nid yw’r rhan o’r bwriad sy’n golygu datblygu tai ar gyfer y farchnad agored y tu allan i ffin ddatblygu Canolfan Lleol Bethesda yn dderbyniol oherwydd bod datblygu tai marchnad agored y tu allan i ffiniau datblygu dynodedig yn groes i bolisïau mabwysiedig lleol a chenedlaethol,  yn ogystal fe fyddai’r datblygiad hwn yn lleihau’r cyflenwad tai fforddiadwy sydd wedi ei ganiatau ac  mae tystiolaeth gadarn yn bodoli o’r angen am dai fforddiadwy yn yr ardal sydd wedi ei brofi ar apêl. Fe fyddai’r datblygiad felly’n groes i bolisïau C1, C3 ac CH7 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd yn ogystal â’r Canllaw Cynllunio Atodol: Adeiladu Tai Newydd yng Nghefn Gwlad, Polisi Cynllunio Cymru, Pennod 9 (Argraffiad 8, 2016) a Nodyn Cynllunio Technegol 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy (2010).

 

Dogfennau ategol: