Creu 16 llety gwyliau deulawr gyda parcio cysylltiedig ac ardal amwynderol
Aelod Lleol: Cynghorydd Angela Russell
Dolen
i’r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Creu 16 llety gwyliau deulawr
gyda pharcio cysylltiedig ag ardal amwynderol
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan mai cais amlinellol ydoedd gyda’r holl
faterion wedi eu cadw yn ol. Dengys y cynlluniau y
byddai’r unedau arfaethedig yn ddeulawr ac oddeutu 6.8m mewn uchder wedi eu
rhannu rhwng pedwar teras. Amlygywd bod y safle wedi
ei leoli ar gyrion Llanbedrog, gryn bellter tu allan i’r ffin datblygu. Saif
mewn dyffryn coediog o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, Tirwedd
Hanesyddol Gofrestredig Llyn, a rhwng dwy heneb Gofrestredig Pen y Gaer a Nant
y Castell. Nodwyd hefyd bod coed aeddfed ar ochr orllewinol y safle sydd yn
destun Gorchymyn Gwarchod Coed ac mae’r llethrau sydd i’r dwyrain wedi eu
hadnabod fel Safle Bywyd Gwyllt Lleol. Ymddengys hefyd o waith LANDMAP fod
cyffiniau y cais wedi ei adnabod fel ardal weledol Mynydd Tir y Cwmwd sydd o
safon weledol ‘uchel’ ac felly'r safle yn cael ei
ystyried yn dirlun sensitif iawn.
Nodwyd nad oedd ymateb Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd wedi ei
dderbyn wrth ysgrifennu'r adroddiad, ond tynnwyd sylw at y sylwadau hwyr a
dderbyniwyd.
Er mai cais amlinellodd oedd yn cael ei gyflwyno, nid oedd manylion llawn o
ddyluniad yr unedau wedi ei gynnwys, fodd bynnag, ystyriwyd y byddai'r
datblygiad o faint a graddfa fyddai yn sicr o gael ardrawiad gweledol
annerbyniol gan arwain at ddatblygiad trefol ei naws mewn dyffryn tawel.
Mewn ymateb i faterion trafnidiaeth a mynediad, amlygywd
bod y datblygiad yn dangos bwriad i ddefnyddio’r fynedfa bresennol i
wasanaethu’r unedau gwyliau ynghyd a’r eiddo presennol. Nodwyd bod y Cyngor
Cymuned wedi datgan pryder am sefyllfa’r fynedfa bresennol gan fod nifer o
ddamweiniau wedi digwydd yn y gorffennol oherwydd diffyg gwelededd. Ar sail
diffyg gwelededd, ni ystyriwyd bod y bwriad yn cwrdd â gofynion polisi CH33 gan
na ellid darparu mynedfa gerbydol ddiogel i wasanaethu’r datblygiad. Cydnabuwyd
bod modd datrys rhai manylion gan mai cais amlinellol oedd wedi ei gyflwyno,
fodd bynnag ystyriwyd na ellid goresgyn y mater o ddiffyg gwelededd o’r fynedfa
ac y byddai gofyn am newidiadau eraill yn ychwanegu at y ffaith y byddai’r
bwriad yn creu edrychiad trefol annerbyniol o’r safle cefn gwlad yma.
Wrth bwyso a mesur y bwriad yn erbyn gofynion y polisiau
lleol a chenedlaethol perthnasol, ystyriwyd nad oedd y bwriad, sydd ar safle
mewn cefn gwlad agored yn dderbyniol mewn egwyddor ac yn groes i bolisïau
lleoli sydd yn ymwneud a lleoli datblygiadau a chreu unedau hunanwasanaeth
newydd. Ail fynegwyd y byddai’r datblygiad tu allan i’r ffin datblygu, yn
drefol ei naws ac yn gwbl anaddas i’w osodiad o fewn tirlun sensitif. Nodwyd
bod y farn wedi ei rannu mewn ymholiad cyn cais ar
gyfer datblygiad tebyg o ran lleoliad a graddfa, fodd bynnag dewis yr ymgeisydd
oedd parhau i gyflwyno cais er gwaethaf derbyn cyngor anffafriol.
(b)
Amlygwyd bod yr Aelod Lleol,
er wedi ymddiheuro nad oedd yn bresennol, yn gefnogol i’r argymhelliad ac i
sylwadau'r Cyngor Cymuned.
(c)
Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod
y cais yn unol â’r argymhelliad
PENDERFYNWYD gwrthod
y cais yn unol a’r argymhelliad
1. Mae'r bwriad yn groes i ofynion Canllaw Cynllunio
Atodol: Llety Gwyliau, Cyngor Gwynedd (2011) a Pholisïau C1, C3 a D15 o Gynllun
Datblygu Unedol Gwynedd parthed lleoli datblygiadau a chreu llety gwyliau hunan
wasanaethol newydd, gan nad yw'r bwriad wedi ei leoli oddi fewn i ffin datblygu
nac yn cael ei ystyried yn safle a ddatblygwyd o'r blaen addas.
2.
Byddai’r
datblygiad hwn, oherwydd ei osodiad trefol, ei faint a’i raddfa fawr yn
ddatblygiad gwbl anaddas yng nghefn gwlad o fewn safle sensitif gan achosi
niwed arwyddocaol i dirwedd yr AHNE a mwynderau gweledol yr ardal, felly yn
groes i Bolisi B8 o
Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd.
3. Mae’r bwriad yn groes i ofynion polisi CH33
Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd gan na ellir darparu mynedfa gerbydol ddiogel
i’r bwriad oherwydd bod gwelededd o’r fynedfa bresennol yn is-safonol ac
anaddas i wasanaethu datblygiad sylweddol o 16 uned wyliau.
4. Ni chyflwynwyd adroddiad coed gyda’r cais i’r
Awdurdod Cynllunio Lleol allu asesu’n fanwl effaith y datblygiad ar goed sydd
wedi eu gwarchod gyda Gorchymyn Gwarchod Coed. O ganlyniad credir fod y bwriad
yn groes i ofynion polisi B19 ac A1 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd a Nodyn
Cyngor Technegol 10: Gorchmynion Cadw Coed.
5. Nid yw’r Adroddiad Ecolegol gyflwynwyd yn cynnig
mesurau lliniaru penodol na gwybodaeth ddigonol i allu asesu effaith tebygol y
bwriad ar fioamrywiaeth a rhywogaethau gwarchodedig felly nid yw’n cwrdd â
gofynion polisi B20 ac A1 Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd.
6. Mae’r wybodaeth a gyflwynwyd gyda’r cais yn
annigonol i asesu effaith y datblygiad ar osodiad henebion rhestredig, felly yn
groes i bolisi B7 ac A1 Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd a Chylchlythyr y
Swyddfa Gymreig 60/96.
Dogfennau ategol: