Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl i godi 11 tŷ newydd, creu mynedfa cerbydol newydd a ffordd stad, darparu tir agored cyhoeddus
Aelod Lleol:
Cynghorydd Gareth Griffith
Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Cais amlinellol gyda rhai
materion wedi eu cadw yn ôl i godi 11 tŷ newydd, creu mynedfa gerbydol
newydd a ffordd stad, darparu tir agored cyhoeddus.
(a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais amlinellol ydoedd i godi
11 tŷ, creu mynedfa gerbydol a ffordd stad ynghyd a darparu tir agored
cyhoeddus gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl i’w cynnwys oddi fewn i gais
manwl ar faterion a gadwyd yn ôl (pe caniateir y cais amlinellol). Adroddwyd
mai'r unig fater oedd yn ffurfio rhan o’r cais amlinellol oedd y fynedfa
arfaethedig gyda’r materion oedd wedi eu cadw yn ol
yn ymwneud a thirweddu, edrychiadau cynllun a graddfa.
Nodwyd mai’r brif ystyriaeth oedd polisiau C1 -
Lleoli Datblygiad Newydd a pholisi Ch7 - tai fforddiadwy ar safleoedd eithrio
gwledig sy’n union ar gyrion pentrefi a chanolfannau lleol. Eglurwyd bod y
safle yn ymylu’r ffin datblygu sydd yn rhedeg gyda Ffordd Glan y Môr ac wrth
ystyried yr agwedd yma, fe all y safle fod yn safle eithrio gweledig. Er hynny,
mae'r polisi ond yn caniatáu
datblygiadau am dai fforddiadwy yn unig, lle mae’r angen wedi ei brofi, ond amlygywd mai'r bwriad yma yw cynnig 3 tŷ fforddiadwy
yn unig sydd felly yn groes i bolisi CH7.
Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad, amlygwyd bod yr Uned
Trafnidiaeth wedi argymell i’r ymgeisydd gyflwyno Asesiad Effaith Traffig
oherwydd byddai’r bwriad yn ychwanegu yn arwyddocaol at y lefel trafnidiaeth ar
hyd y Ffordd Glan y Môr. Yn ogystal, amlygywd bod yr
Uned wedi mynegi pryder ynglŷn â lleoliad y fynedfa arfaethedig oherwydd
presenoldeb mynedfa i’r feddygfa gerllaw gyda phryder y gallai un fynedfa
amharu ar welededd ddefnydd y llall. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd digon o
wybodaeth na thystiolaeth wedi ei dderbyn gan yr ymgeisydd i gadarnhau bod y
bwriad yn dderbyniol ar sail diogelwch ffyrdd ac felly yn groes i ofynion polisiau.
Tynnwyd sylw bod CADW yn amlygu pryder am ddiffyg asesiad priodol o effaith
y datblygiad ar osodiad heneb gofrestredig
Ystyriwyd nad oedd y bwriad yn dderbyniol ar sail egwyddor o ddarparu tai
marchnad agored tu allan i ffin datblygu a bod diffyg gwybodaeth yn atal
asesiad llawn o’r datblygiad.
(b)
Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad
oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):
·
Ei fod yn gwrthwynebu y cais
·
Bod cais tebyg wedi ei
gyflwyno yn Ebrill 2015 - rhywfaint o newidiadau i’r cais arfaethedig, ond er
yn wahanol, nid yw’r polisiau wedi newid
·
Bod y safle tu allan i’r
ffin datblygu
·
Gwybodaeth ychwanegol, angenrheidiol heb ei gyflwyno
·
Tynnu sylw at y rhesymau gwrthod yn yr adroddiad
(c)
Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y
cais yn unol â’r argymhelliad.
(ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol:
·
Bod y bwriad yn groes i nifer
o bolisïau
·
Bod y safle tu allan i’r
ffin datblygu
·
Dim digon o dai fforddiadwy yn cael eu
cynnig fel rhan o’r bwriad
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol â’r argymhelliad.
Rhesymau:
1.
Mae’r bwriad yn annerbyniol mewn egwyddor gan nad oes bwriad
i ddarparu tai fforddiadwy yn unig ar y safle
sydd yn groes
i ofynion Polisi CH7. Ni ystyrir ychwaith fod y bwriad yn ffurfio
estyniad rhesymol i’r pentref oherwydd
ei lleoliad ac effaith gweledol sydd yn goes i
anghenion polisi CH7 a B23.
Mae’r bwriad hefyd yn groes
i bolisi C1 gan nad oes polisi arall
o fewn y Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd yn caniatáu tai marchnad agored tu allan i’r
ffiniau datblygu.
2.
Mae’r bwriad yn groes i ofynion
Polisi A1 a B7 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd a Chylchlythyr 60/96 y Swyddfa Gymreig gan nad
oes gwybodaeth ddigonol i asesu
effaith y datblygiad ar osodiad yr
heneb gofrestredig gyfagos a adnabyddir fel caer pentir
Dinas ac effaith y datblygiad ar unrhyw
olion archeolegol ar y safle
3.
Mae’r bwriad yn groes i
ofynion Polisi A1 a B19,
B20 a B21 o Gynllun Datblygu
Unedol Gwynedd, gan nad oes asesiadau
a gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno
gyda’r cais a fyddai’n galluogi’r Awdurdod Cynllunio Lleol asesu’n fanwl
effeithiau amgylcheddol ac ecolegol y datblygiad.
4.
Mae’r bwriad yn groes i ofynion
Polisi A1 a CH33 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd gan nad yw’r
fynedfa arfaethedig yn gallu sicrhau
gwelededd digonol trwy gydol yr
amser ac nad oes ddigon o wybodaeth
ar sail asesiad traffig wedi ei
gyflwyno gyda’r cais sy’n dangos
bod y rhwydwaith ffyrdd lleol yn gallu
ymdopi gyda chynnydd mewn traffig
fydd yn deillio
o’r datblygiad.
Dogfennau ategol: