Cais llawn i godi 5 tŷ deulawr fforddiadwy, creu safle mwynderol a gwelliannau i'r ffordd stad bresennol
Aelod Lleol: Cynghorydd Ann Lloyd Jones a Cynghorydd Mike Stevens
Dolen
i’r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Cais llawn i godi 5 tŷ deulawr fforddiadwy, creu safle mwynderol a
gwelliannau i’r ffordd stad bresennol
Cadeiriwyd yr eitem gan
yr Is Gadeirydd
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi ei
fod yn gais llawn i godi 5 ty annedd deulawr
fforddiadwy gyda dwy ystafell wely wedi eu gosod allan ar ffurf teras o dair
uned ac yna par o dai. Nodwyd bod y safle yn un
gwastad oddi fewn i ffin datblygu tref Tywyn yng Nghynllun Datblygu Unedol
Gwynedd ac eisoes wedi ei baratoi ar gyfer ei ddatblygu. Eglurwyd bod tai
stadau preswyl eraill yn ffinio’r safle gyda ffordd stad eisoes wedi ei
darparu. Ategwyd bod bwriad darparu gwelliannau i’r ffordd stad bresennol
ynghyd a 12 llecyn parcio a man troi.
Yng nghyd-destun mwynderau gweledol nodwyd bod y bwriad yn golygu
datblygiad o dai sydd yn gymharol draddodiadol o ran eu ffurf a’i osodiad gyda gerddi
i’r blaen a’r cefn sydd yn dilyn ffurf stad Penmorfa yn bresennol. Nodwyd mai
Cartrefi Cymunedol Gwynedd oedd yr ymgeisydd a bod paratoi tai yn rhan o’u
dyletswydd statudol.
Amlygywd bod nifer o lythyrau wedi eu derbyn gan unigolion yn nodi pryderon am
faterion yn ymwneud a diogelwch a thraffig ond ystyriwyd bod y bwriad yn
cynnwys gwelliannau parhaol i’r ffordd stad bresennol. Roedd pryderon hefyd
wedi eu derbyn o safbwynt effaith ar fwynderau preswyl ond eglurwyd nad oedd
hyn yn cael ei ystyried yn annerbyniol yn yr achos hwn.
Ategwyd bod materion llifogydd, bioamrywiaeth a darpariaeth addysgol yn
dderbyniol ac yn dilyn ystyriaeth lawn i’r holl faterion cynllunio perthnasol,
bod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig i amodau.
(b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad
nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Derbyniwyd y byddai
aflonyddwch tebygol yn ystod y cyfnod datblygu ac felly amlygywd
bod cyfnod rheoli traffig yn cael ei gynnig
·
Y byddai addasiadau i’r ffyrdd
yn welliannau hir dymor i bawb
·
Llecyn gwyrdd yn cael ei gadw
·
Gyda thystiolaeth gadarn am yr
angen am dai fforddiadwy yn Nhywyn -
nodwyd bod y bwriad yn ymateb i’r angen.
(c) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r
cais.
PENDERFYNWYD caniatáu y
cais
Amodau:
1.
Amser
2.
Cydymffurfio gyda chynlluniau;
3.
Deunyddiau waliau
allanol i’w cytuno;
4.
Llechi a’r doeau’r
anheddau a samplau i’w cyflwyno cyn cychwyn datblygu;
5.
Cyflwyno manylion
tirlunio i’w cyflwyno er cymeradwyaeth;
6.
Cyfnod gweithredu
cynllun tirlunio;
7.
Amodau Dwr Cymru Dim adeiladu o fewn 3 medr o’r garthffos gyhoeddus;
8.
Gwelliannau i’r ffordd
stad i’w gweithredu cyn cychwyn ar unrhyw waith o adeiladu’r tai, rhaid i’r
gwelliannau gael eu cadw yn barhaol yn dilyn hynny;
9.
Cwblhau'r mannau parcio cyn yr anheddir y datblygiad.
10.
Datblygiad yn unol â Chynllun Rheolaeth Traffig a gyflwynwyd.
11.
Datblygiad yn unol ag argymhellion
Adroddiad Ecolegol diwygiedig dyddiedig Awst 2016 ac unrhyw amod perthnasol yn ymwneud â hyn
gan Cyfoeth Naturiol Cymru/Uned Bioamrywiaeth – i gynnwys Cynllun Gwella
Bioamrywiaeth ac amodau yn ymwnued gyda moch daear
12.
Tynnu PD
13.
Cyfyngu amser gweithio
14.
Cynllun goleuo i’w
gytuno
Nodyn: enw Cymraeg i’r
‘stad
Dogfennau ategol: