Codi tri tŷ annedd deulawr ar wahân a datblygiadau cysylltiedig
Aelod Lleol:
Cynghorydd Elfed Williams
Cofnod:
Codi tri tŷ annedd deulawr
ar wahân a datblygiadau cysylltiedig
Roedd yr Aelodau wedi ymweld
â’r safle
(a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y cais wedi cael ei ohirio yn
y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 4 Gorffennaf 2016 er mwyn cynnal ymweliad safle
ac i’r swyddogion wirio ffigyrau a gyflwynwyd i’r Pwyllgor.
Atgoffwyd yr aelodau mai cais ydoedd i godi tri tŷ deulawr ar wahân ar
safle tir llwyd o fewn ffin datblygu pentref Clwt y Bont. Amlygwyd y byddai’r
tai pedair llofft ar gyfer y farchnad agored gyda mynedfa ar wahân i’r tri
eiddo ac fe fyddai pob un yn arwain at ffordd ddi-ddosbarth sy’n gwasanaethu
nifer o anheddau.
Nodwyd mai’r brif ystyriaeth oedd polisi CH4 o’r CDUG a oedd
yn caniatáu cynigion i adeiladu tai newydd ar safleoedd na ddynodwyd ac oedd o
fewn ffiniau datblygu pentrefi os gellir cydymffurfio â holl bolisïau
perthnasol y CDUG a’r 3 maen prawf a oedd yn ffurfio rhan o’r polisi. Tynnwyd
sylw bod maen prawf 1 yn ymwneud gyda chael cyfran o bob uned sydd ar y safle yn
rhai fforddiadwy oni bai na fyddai’n briodol darparu tai fforddiadwy ar y
safle. Eglura’r Datganiad Cynllunio Cefnogol (wedi ei gefnogi gan y Cyfrifiadau
Hyfywdra) nad ydyw’n hyfyw i gynnig elfen fforddiadwy fel rhan o’r cynllun.
Amlygwyd bod yr ymgeiswyr wedi dangos gwerth y farchnad o hyd at £200,000 am
bob annedd ac yn unol ag Astudiaeth Hyfywdra Tai Fforddiadwy Cynghorau Sir
Gwynedd ac Ynys Môn Ionawr 2013, derbynnir bod y ffigwr yma o £200,000 yn
rhesymol a phriodol ar gyfer Clwt y Bont.
Roedd pryderon hefyd wedi eu derbyn o safbwynt effaith ar fwynderau preswyl
ond eglurwyd nad oedd hyn yn cael ei ystyried yn annerbyniol yn ddarostyngedig
i amodau cynllunio priodol.
Nodwyd bod sawl gwrthwynebydd
wedi honni fod y tir yn ansefydlog ac wedi ei lygru gan wastraff megis hen
geir. Adroddwyd bod polisi B30 yn awgrymu gwrthod ceisiadau ar dir sydd wedi ei
lygru heb wybodaeth i dangos triniaeth dderbyniol o’r safle. Fodd bynnag, nid
oedd unrhyw dystiolaeth gadarn wedi ei chyflwyno i gefnogi'r honiadau o ansefydlogrwydd
y tir nac o unrhyw beryglon llygredd ac nid oedd unrhyw un o'r asiantaethau
swyddogol a ymgynghorwyd a hwy wedi codi'r materion hyn. Pe caniateir y cais
argymhellir gosod amod ychwanegol er mwyn sicrhau bod archwiliad desg i asesu
risg o lygredd ar y safle yn cymryd lle ac os oes gwir angen gweithrediad
pellach bod sicrwydd bod hyn yn digwydd cyn datblygu’r safle.
(b)
Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn):- Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol:
·
Bod gosodiad y safle yn golygu
effaith ar fwynderau trigolion cyfagos
·
Bod y tir wedi ei godi ac nid
yn addas ar gyfer datblygu – hyn yn groes i B28 o’r CDUG;
·
Ni chynhwysir elfen fforddiadwy yn y
bwriad ac nid oedd digon o dystiolaeth wedi ei gyflwyno i beidio cynnwys
tŷ fforddiadwy;
·
Bod prisiau'r tai
yn rhy ddrud ar gyfer bobl leol - nid yw hyn yn dderbyniol ac yn groes i bolisi
CH4
·
Pryderon o ran
diogelwch ffyrdd - awgrymu bod y ffordd tuag ar y safle yn rhy gul ac y byddai
codi tri tŷ yma yn debygol o waethygu’r sefyllfa
·
Byddai codi ffens 2 medr o amgylch y
safle yn effeithio ar olygfa cymdogion cyfagos
·
Awgrym mai'r
Cyngor sydd yn berchen y tir?
·
Angen cydnabod problemau Llysiau’r Dial
ar y safle
(c)
Cynigiwyd ac eiliwyd i
ganiatáu y cais
(ch) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol:
· Amlwg bod ansawdd y tir yn amlygu pryderon, ond amlygwyd y byddai Rheolaeth
Adeiladu yn sicrhau mai cyfrifoldeb y datblygwr fyddai profi bod y safle yn
saff cyn dechrau adeiladu.
·
Ni fyddai codi tri tŷ yn debygol o greu
problemau ychwanegol
·
Bod ceisiadau agored am 13 tŷ fforddiadwy
eisoes yn bodoli yn yr ardal
·
Tynnwyd sylw at sylwadau'r
Uned Strategol Tai am yr angen i un o’r tri tŷ fod yn fforddiadwy
·
Bod tir y safle yn eistedd
llawer yn uwch na gardd y tŷ agosaf ac felly buasai gor-edrych amlwg yma.
Ni fyddai plannu coed yn datrys hyn ac felly awgrym i newid gosodiad y tai i
osgoi gor-edrychiad.
·
Safle anodd ei ddatblygu, ond
rhaid ystyried amodau i ymdrin â’r problemau
(d)
Mewn ymateb i’r sylwadau
nodwyd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth
Cynllunio nad oedd y safle yn un hawdd i’w ddatblygu ac os byddai cyfiawnhad
dros beidio a datblygu, byddai'r polisïau perthnasol yn rhoi eithriad yn
seiliedig ar dystiolaeth. Ategwyd bod y costau adeiladu tu hwnt i gostau
arferol. O ran cynnig un tŷ fforddiadwy fel rhan o’r datblygiad, nodwyd
bod y cais wedi ei asesu gan yr adran Eiddo ac yr Adran Polisi Cynllunio ar y
Cyd sydd wedi cadarnhau na fyddai datblygu ar y safle yma yn hyfyw. Ategwyd bod
y datblygiad yn cyfrannu at yr amrywiaeth o dai sydd ei angen yn yr ardal ac
nad oedd sail i wrthod y cais oherwydd materion tai fforddiadwy.
(dd)
Wedi pleidlais, syrthiodd y cynnig
(e)
Cynigiwyd ac eiliwyd i
ganiatáu y cais gydag amod bod un tŷ allan o’r tri yn dŷ fforddiadwy
(f)
Ymatebodd yr Uwch Reolwr
Gwasanaeth Cynllunio nad oedd tystiolaeth i brofi nad oedd y safle yn hyfyw ar
gyfer tai fforddiadwy a bod costau sylweddol i ddatblygu’r safle.
(ff). Ymatebodd y Cyfreithiwr bod rhaid profi bod
y dystiolaeth ariannol ddim yn gywir (er bod y dystiolaeth eisoes wedi ei wirio
gan yr Uned Polisi ar y Cyd a Syrfëwr Siartredig Cydnabyddedig).
(g) Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio'r penderfyniad er mwyn derbyn adroddiad
manylach pam nad yw’n bosibl darparu tai fforddiadwy fel rhan o’r datblygiad.
PENDERFYNWYD
gohirio’r cais er mwyn derbyn adroddiad manylach pam nad yw’n bosibl darparu
tai fforddiadwy fel rhan o’r datblygiad
Dogfennau ategol: