Agenda item
- Cyfarfod Pwyllgor Cynllunio, Dydd Llun, 5ed Medi, 2016 1.00 y.h. (Item 5.1)
- Datganiadau o fuddiant ar gyfer eitem 5.1
Cais ol-wethredol i gadw pontwn o fewn y cei
Aelod Lleol:
Cynghorydd Gareth Griffith
Dolen
i’r dogfennau cefndirol perthnasol
Cofnod:
Cais ôl weithredol i gadw
pontŵn o fewn y cei
(a)
Adroddodd y Rheolwr Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y cais wedi ei ohirio nifer o weithiau
am amryw o resymau sydd wedi eu rhestru yn yr adroddiad.
Atgoffwyd yr Aelodau mai cais llawn ôl weithredol ydoedd i gadw pontwn o
fewn y cei. Disgrifiwyd bod y pontwn wedi ei
gysylltu â wal yr harbwr mewn tri lleoliad gyda braced haearn a fydd yn
gadael i’r pontwn godi gyda’r llanw. Nodwyd bod y safle yn rhan o’r Marina
presennol yn y Felinheli.
Tynnwyd sylw i’r sylwadau hwyr a dderbyniwyd.
Amlygwyd bod y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn tynnu sylw at gyflwr wal yr
harbwr ac at addasrwydd y wal honno i gynnal pontŵn ble mae rhannau o’r
wal wedi disgyn yn y gorffennol. Nodwyd bod hyn yn codi pryder a yw’r wal yn
strwythurol gadarn i allu cynnal pontŵn a’r llanw. Mynegwyd bod adroddiad
peirianyddol wedi ei gyflwyno gyda’r cais ac yn datgan nad yw gosod y
pontŵn yn debygol o gael unrhyw effaith andwyol o safbwynt strwythur
peirianyddol.
Yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor o ofyn am fwy o wybodaeth ac yn sgil hynny
bod diweddariad i’r asesiad strwythurol gwreiddiol wedi ei dderbyn,
ymgynghorwyd gyda syrfëwr o fewn y Cyngor er mwyn derbyn cadarnhad bod yr
adroddiad a dderbyniwyd yn addas ar gyfer ei bwrpas. Cyfeiriwyd at sylwadau'r
syrfëwr yn paragraff 5.4 o’r adroddiad.
Er yr asesiad, nodwyd o’r ymateb i’r
ail ymgynghori bod y pryderon yn parhau am y sefyllfa a chynnwys yr adroddiad
mwyaf diweddaraf. Fodd bynnag, amlygwyd nad oedd tystiolaeth arbenigol wedi ei
dderbyn yn datgan i’r gwrthwyneb ac felly nid oedd rheswm i beidio derbyn y
casgliadau a'r cyngor a dderbyniwyd gan Richard Broun Associates.
Adroddwyd bod y pontŵn yn gweddu i’r ardal o agwedd dyluniad ac edrychiad
ac o’r safbwynt ei fod o fewn marina weithredol. Ni ystyriwyd bod goblygiadau
ar edrychiad na chymeriad strwythur rhestredig na mwynderau ardal na thrigolion
cyfagos, a amlinellwyd bod yr adroddiad peirianyddol a gyflwynwyd a oedd yn
cynnwys diweddariad yn datgan cryfder y wal i gynnal y pontŵn. Ystyriwyd
bod y bwriad yn dderbyniol ac yn unol â'r polisïau perthnasol.
(b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Nad oedd gan 87 o
wrthwynebwyr wrthwynebiad i’r pontwn, dim ond gwrthwynebiad i osod y pontwn ar
hen wal Fictorianaidd – llawer o wybodaeth briodol gan y trigolion lleol am
effaith y wal a’r llanw
·
Bod y wal yn
derbyn effaith andwyol gwynt, tywydd garw a llanw uchel
·
Bod darn o’r wal wedi disgyn yn 2000
·
Wedi gosod pontwn
yn 2001 ymhen ychydig flynyddoedd dangosodd y wal ychydig o straen. Amlygwyd y
pryderon hyn i’r Cyngor ond ni chafwyd unrhyw weithrediad. Yn 2008 disgynnodd y
wal i’r môr ynghyd a gerddi trigolion
·
Yn Rhagfyr 2015, y
pontwn wedi datgysylltu ac yn arnofio yn yr Harbwr
·
Nid
oes unrhyw gyfeiriad at ‘grac fertigol’ sydd yn y wal yn adroddiad y
Peiriannydd
·
Dim datrysiad wedi
ei gynnig i’r crac yn y wal - hyn wedi
ei ddiystyru - rhaid ystyried pob agwedd
·
Sylwadau
trigolion wedi eu hanwybyddu ac o ganlyniad penderfyniad y trigolion yw
comisiynu adroddiad annibynnol i gyflwyno eu pryderon.
·
Dulliau
posib arall o ddatrys y sefyllfa yma drwy gysylltu’r pontŵn mewn ffordd
wahanol
(c)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau
canlynol:-
·
Bod
y cais wedi ei gyflwyno ers Gorffennaf 2015
·
Ers hynny 4 adroddiad gan
swyddogion wedi eu cyflwyno i’r Pwyllgor gydag argymhelliad i ganiatáu
·
Y penderfyniad wedi ei ohirio
oherwydd pryderon i ddefnydd y wal pontŵn (cwympiad a chrac yn y wal) -
dim tystiolaeth dechnegol wedi ei gyflwyno i gefnogi hyn
·
Derbyn bod pryder ynglŷn
ag ardrawiad y wal, ond nid oes tystiolaeth wedi ei gyflwyno i gefnogi’r
pryderon
·
Adroddiadau strwythurol wedi
eu cyflwyno o fewn 12 mis i’w gilydd – y canlyniadau yn gyson ac yn cadarnhau
nad oes effaith croes. Hyn wedi ei wirio
gan beiriannydd o’r Cyngor
·
Nid yw'r wal yn dangos arwydd
o drallod ac nid oes arwydd fod y cerrig sydd yn dal y pontŵn yn symud
·
Nid yw bodolaeth y crac yn
berthnasol i’r llwytho byddai ar y pontwn
·
Nid oes tystiolaeth bod yna
effaith ar y wal fyddai yn creu unrhyw ansefydlogrwydd strwythurol yn y dyfodol
·
Rhaid ystyried pob cais yn
unigol a rhaid i unrhyw wrthwynebiadau fod yn rhesymau cynllunio dilys
·
Petai y cais yn cael ei ohirio neu ei wrthod, bydd
posib i’r Awdurdod wynebu costau os yw’r ymgeisydd yn apelio
ch) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod
lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):- Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd yr Aelod Lleol:
·
Angen
penderfyniad ar y cais
·
Trigolion
lleol yn amlygu pryder oherwydd trafferthion gyda'r wal
·
Nid yw'r arolwg wedi ystyried
yr adroddiad peirianyddol ac felly amlygu'r angen am adroddiad manylach
·
Angen sicrwydd, petai'r pontŵn
yn dod yn rhydd, y buasai iawndal yn ei le i’r trigolion
·
Cais
i ohirio am fis arall er mwyn rhoi cyfle i’r trigolion lleol gomisiynu
adroddiad peirianyddol y gellid ei ystyried
·
Gwallau
yn yr adroddiad wedi dod i law
·
Gwerthfawr fyddai cael
adroddiad ychwanegol, oherwydd petai rywbeth yn digwydd, buasai pob agwedd wedi
ei ystyried yn llawn
(d)
Mewn ymateb i’r sylwadau,
atgoffodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod y cais wedi bod o flaen
Pwyllgor sawl gwaith yn y 12 mis
diwethaf ac fod digon o amser wedi bod yn ystod y cyfnod yma i drigolion
baratoi tystiolaeth bellach. Ategwyd bod adroddiadau wedi eu cyflwyno ac nad
oedd dim tystiolaeth/gwybodaeth dechengol iwrthddweud yr adroddiadau sydd i
law.Nodwyd hefyd, bod yr ymgeisydd yn ystyried cyflwyno apêl ac felly amlygwyd
hyn fel risg.
Cynigiwyd
ac eiliwyd i ohirio y cais am fis.
Dadleuwyd bod materion sifil yn bodoli ac felly rhaid ystyried pwy sydd â
chyfrifoldeb dros ail adeiladu'r wal petai yn disgyn. Nodwyd y byddai Adroddiad
Strwythurol Annibynnol yn dderbyniol.
Mewn ymateb i’r cynnig, ymatebodd y Cyfreithiwr bod hwn yn gyfle digonol i
wrthwynebwyr gyflwyno adroddiad /
tystiolaeth strwythurol yn unig.
(dd)
Yn
ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol:
·
bod mis ychwanegol yn
dderbyniol i’r gwrthwynebwyr gyflwyno eu sylwadau mewn adroddiad
·
rhesymol fyddai gohirio gan
fod y trigolion / gwrthwynebwyr yn fodlon clymu i mewn i benderfyniad terfynol
yr adroddiad hwnnw
·
Rhaid
i’r Pwyllgor ymddwyn yn gyfrifol
·
Rhaid peidio ag cymhlethu'r
sefyllfa - awgrym y dylai’r adroddiad gael ei gyflwyno i arbenigwyr y Cyngor am
eu barn (angen tracio'r adroddiad)
·
Pryder a fydd yr adroddiad yn
barod o fewn amserlen y Pwyllgor Cynllunio. Nid yw cyfnod o fis yn ddigonol -
angen penderfynu ar ddyddiad penodol
·
Buasai pontwn ar wahân i’r wal
wedi bod yn ddoethach
·
Petai y cais yn cael ei
ganiatáu, angen sicrhau bod arolygiad cyson o’r wal yn cael ei weithredu gan
nodi amod mai'r ymgeisydd fyddai yn gyfrifol am hynny.
·
A oes ystyriaeth wedi ei roi i
sylw Cyfoeth Naturiol Cymru am yr angen am drwydded forol?
(e)
Mewn
ymateb i’r sylwadau, amlygodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio:
·
yng nghyd-destun y drwydded
forwrol, bod hyn yn benodol i drefniadau a chyfundrefnau trwyddedu Cyfoeth
Naturiol Cymru.
·
wrth ymateb i’r awgrym am amod i sicrhau bod yr ymgeisydd
yn gweithredu arolygiad cyson o’r wal, amlygwyd fod canllawiau clir ar
gyfer ystyried gosod amodau cynllunio.Ni
ystyrir fod cyfiawnhad na thystiolaeth dros osod amod yma – mewn sefyllfa o’r
fath byddai rhoi nodyn gwybodaeth i’r ymgeisydd yn briodol. Yn ogystal, nodwyd
bod gofynion arolygu yn debygol o ddod
gyda rôl yr Harbwr ac tu hwnt i’r drefn cynllunio.
·
os mai’r bwriad yw gohirio,
nid yw cyfyngu i gyfnod penodol o fis yn realistig o ran trefniadau gweinyddol
y Pwyllgor Cynllunio. Gwnaed awgrym i
ail-gyflwyno y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor mis Hydref 2016.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais er mwyn rhoi cyfle i’r gwrthwynebwyr
gyflwyno adroddiad peirianyddol eu hunain ac i wneud hynny o fewn 3 wythnos
(sef erbyn 26/9/16) fel bod modd ail-gyflwyno’r cais i’r Pwyllgor Cynllunio ar
Hydref 17 2016.
Dogfennau ategol:
- Menai Marina , Hen Gei Llechi, Y Felinheli, eitem 5.1 PDF 624 KB
- 5.1 C15.0808.20.LL Cynlluniau, eitem 5.1 PDF 1 MB