Agenda item

D H CONVENIENCE STORE, 109 STRYD FAWR,  BANGOR, LL57 1NS

 

Ysytried y cais uchod

Cofnod:

CAIS AM AMRYWIAD I DRWYDDED EIDDO – D H Convenience Store, 109 Stryd Fawr Bangor, LL57 1NS.

 

Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn bresennol a cyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10 munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais.

 

Ar ran yr eiddo:                     Mr David James Hughes a Carla Cordeiro

 

Eraill a wahoddwyd:             Donna Evans (Swyddog Masnachu Teg – Cyngor Gwynedd)

                                               Ian Williams (Heddlu Gogledd Cymru)

 

a)    Adroddiad ac argymhelliad yr Adain Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer

D H Convenience Store, 109 Stryd Fawr, Bangor mewn perthynas â gwerthu alcohol i’w yfed oddi ar yr eiddo, cerddoriaeth wedi ei  recordio (cefndirol yn y siop), a dangos ffilmiau. Gofynnwyd ar yr hawl i gyflenwi alcohol rhwng 8:00 y bore a 23:00 yr hwyr, 7 diwrnod yr wythnos.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd nad oedd yr Heddlu na Safonau Masnach Cyngor Gwynedd yn gwrthwynebu’r cais, ond wedi cyflwyno sylwadau. Adroddwyd bod yr ymgeisydd wedi cytuno, yn dilyn ymweliad i’r safle gan yr Heddlu,  nad oedd angen gofyn am weithgareddau trwyddedig o ddangos ffilmiau a cherddoriaeth wedi ei recordio ar y cais. Roedd yr ymgeisydd hefyd wedi cytuno i weithredu Her 25 ynghyd â derbyn amodau teledu cylch cyfyng ar y drwydded. Yng nghyd-destun sylwadau ac argymhellion Safonau Masnach Cyngor Gwynedd, nodwyd bod yr ymgeisydd yn destun ymchwiliad cyfredol gan y gwasanaeth a bod hyn yn berthnasol i’r amcan trwyddedu o atal trosedd ac anrhefn.

 

b)    Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·         Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu.

·         Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·         Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·         Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·         Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·         Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

 

c)    Wrth ymhelaethu ar y cais nododd Ms Cordeiro, ar ran yr ymgeisydd ei bod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei  gyflwyno ac ategodd y sylwadau canlynol:

·         Eu bod yn cytuno gyda sylwadau ac argymhellion yr Heddlu ac am weithredu Her 25 a gosod teledu cylch cyfyng

·         Eu bwriad yw gwerthu alcohol i’w yfed tu allan i’r eiddo

·         Bod ymchwiliad y gwasanaeth safonau masnach yn ymwneud a thybaco anghyfreithlon

·         Ni fuasai unrhyw ymddygiad o niwsans yn cael ei ganiatáu ar y safle

·         Byddai unrhyw un o dan ddylanwad alcohol yn cael ei hel allan - dim goddefiant

·         Yn fodlon gyda chynnwys y cais

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd eu bod yn dileu chwarae ffilmiau a cherddoriaeth o’r cais. Mewn ymateb i sylw am sut i atal gwerthu alcohol i unigolion o dan oed, nodwyd y byddant yn monitro cwsmeriaid rheolaidd gyda phatrymau prynu gwahanol ac yn gofyn am weld cerdyn adnabod yn amlygu dyddiad geni.

 

ch)   Yn manteisio ar ei hawl i siarad, nododd Swyddog Trwyddedu ar ran yr Heddlu y sylwadau canlynol:

·         Yn cadarnhau ei fod wedi trafod y cais gyda’r ymgeisydd a bod yr ymgeisydd wedi derbyn yr amodau Her 25 a Theledu Cylch Cyfyng gan sicrhau y byddai delweddau / recordiau o’r teledu cylch cyfyng ar gael petai angen.

·         Bod y gerddoriaeth ar ffilmiau cefndir yn achlysurol ac felly nad oedd angen trwydded

·         Bod gwerthiant alcohol o 8am bellach yn gyffredin, o ran oriau

·         Bod yr ymchwiliad, a oedd yn ymwneud a thybaco anghyfreithlon, wedi dod i sylw’r Heddlu yn Nhachwedd 2015. Roedd yn ymwneud a sŵm sylweddol o dybaco anghyfreithlon

 

Mewn ymateb i gwestiwn, nododd y Swyddog bod yr Heddlu wedi ymchwilio i’r cyhuddiad o feddiant tybaco anghyfreithlon heb rybudd mewn Saesneg ar y pacedi, ac wedi penderfynu peidio mynd ymlaen gyda’r achos ac felly, o safbwynt yr Heddlu, yr achos wedi cau.

 

Mewn ymateb, nododd yr ymgeisydd bod y tybaco wedi ei brynu o Farchnad Pwllheli yn anwybod iddynt ei fod yn anghyfreithlon. Nid oedd y tybaco wedi cael ei werthu ymlaen ac nad oedd gwerthu sigaréts a thybaco yn fwriad yn y siop ar hyn o bryd oherwydd costau uchel. Byddai hyn yn cael ei adolygu yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Swyddog Masnach bod eu hymchwiliad hwy yn parhau gan fod Deddfau Gorfodaeth Safonau Masnach yn wahanol i  Ddeddfau’r Heddlu. Amlygwyd bod cyfarfod wedi ei gynnal gyda Mr Hughes a bod penderfyniad yn debygol o gael ei wneud o fewn yr wythnosau nesaf.

 

d)    Wrth grynhoi y cais, nododd yr ymgeisydd

·         Ei bod yn hapus gyda’r sylwadau

·         Bod bwriad ganddynt i gadw tu allan i’r siop yn lân a thaclus

·         Eu gobaith yw adeiladu busnes llwyddiannus

 

dd)    Trafodwyd y cais diwygiedig gan aelodau’r Is Bwyllgor ac fe  ystyriwyd yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd  gan roddi sylw penodol i egwyddorion Deddf Trwyddedu 2003 sef;

 

           Trosedd ac Anhrefn

           Diogelwch y Cyhoedd

           Rhwystro Niwsans Cyhoeddus

           Amddiffyn Plant rhag Niwed

ynghyd a chanllawiau’r Swyddfa Gartref a pholisi trwyddedu’r Cyngor.

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu y cais diwygiedig ar gyfer gwerthiant alcohol yn unig ac i gynnwys amodau teledu fel yr argymhellwyd gan yr Heddlu.

 

Ystyriwyd sylwadau’r Gwasaneth Safonau Masnach bod ymchwiliad yn mynd rhagddo i honiadau bod yr ymgeisydd wedi gwerthu tybaco ffug a bod tybaco yn cael ei werthu heb rybudd mewn Saesneg ar y pacedi. Tra bo’r Is-bwyllgor yn derbyn bod y materion hyn o bosib yn gallu bod yn berthnasol i’r amcanion o atal trosedd ac anhrefn a diogelu diogelwch cyhoeddus, nid oeddynt dim mwy na chyhuddiadau ar hyn o bryd. Roedd yr Is-bwyllgor o’r farn, petai'r ymgeisydd yn cael ei ganfod yn euog o’r fath gyhuddiadau, ni fyddai hynny o reidrwydd yn berthnasol i werthiant alcohol. O dan yr amgylchiadau hyn, nid oedd yr Is-bwyllgor o’r farn bod yr ymchwiliad a oedd yn mynd rhagddo i droseddau o werthu tybaco ffug yn cyfiawnhau gwrthod cais i werthu alcohol. Nodwyd, fodd bynnag, petai collfarn o’r fath yn  erbyn yr ymgeisydd gan Lys, roedd yn agored i unrhyw un wneud cais i adolygu’r drwydded.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy  lythyr i bawb oedd yn bresennol. Hysbysebwyd hefyd o’u hawl i apelio i’r dyfarniad o fewn 21 diwrnod i dderbyn y llythyr hwnnw.

 

Nodwyd nad yw darpariaethau apêl yn gymwys i Safonau Masnach gan eu bod yn rhan o’r un corff â’r awdurdod trwyddedu.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: