The Firecat Country House’, Camlan Uchaf, Mallwyd, SY20 9EP
Ystyried y cais uchod
Cofnod:
CAIS AM AMRYWIAD I DRWYDDED
EIDDO – THE FIRECAT COUNTRY HOUSE B&B, CAMLAN UCHAF, MALLWYD
Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn
bresennol. Llongyfarchwyd y
Cynghorydd Annwen Daniels ar
ei phenodiad fel Is Gadeirydd y Cyngor.
Atgoffwyd pawb bod y gwrandawiad a
gynhaliwyd 21.7.2016 wedi ei ohirio er mwyn i’r Is Bwyllgor Trwyddedu gynnal
ymweliad safle yn dilyn gwrthwynebiadau i’r cais ar sail diogelwch y cyhoedd.
Cadarnhawyd bod Aelodau'r Is Bwyllgor wedi ymweld â’r
safle 28 Gorffennaf 2016 gyda’r Swyddog Trwyddedu.
Ar ran yr
eiddo: Mr
Robin Worgan (ymgeisydd) ac
Amber Worgan
Aelod Lleol: Cynghorydd
John Pughe Roberts
a)
Adroddiad ac
argymhelliad yr Adain Trwyddedu
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn
manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer
The Firecat
Country House Bed and Breakfast, Mallwyd mewn perthynas â chyflenwi alcohol,
cerddoriaeth wedi ei recordio, cerddoriaeth fyw perfformiadau dawns, dangos
ffilmiau a dramâu, unrhyw adloniant arall a chyflenwi lluniaeth hwyr y nos.
Gofynnwyd am hawl i gyflenwi alcohol a chynnal adloniant tu fewn a thu allan
i’r eiddo hyd 1:00 y bore, saith diwrnod yr wythnos. Eglurwyd bod yr eiddo yn
cael ei redeg fel gwesty gwely a brecwast bychan, gyda thair llofft yn cael eu
gosod i westeion.
Tynnwyd sylw at fanylion yr oriau
arfaethedig, ond nodwyd ers cyflwyno y cais bod yr amgylchiadau wedi newid a
bod y cais wedi ei ddiwygio. Amlygwyd bod e-bost wedi ei dderbyn gan yr
ymgeisydd yn cadarnhau’r diwygiadau hyn.
Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd
yn argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu (fel rhan o’r cais gwreiddiol)
ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod yr
Aelod Lleol, y Cyngor Cymuned a phreswylwyr cyfagos yn gwrthwynebu
gweithgareddau trwyddedig ar gyfer rhai nad ydynt yn breswylwyr. Roedd y
gwrthwynebiadau yn gyffredinol yn cael eu gwneud ar sail yr amcanion trwyddedu
o Atal Niwsans Cyhoeddus a Diogelwch y Cyhoedd.
Nodwyd nad oedd yr Heddlu yn gwrthwynebu’r
cais, ac yn dilyn ymweliad i’r safle, nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cytuno i
weithredu Polisi Her 25. Nid oedd y Gwasanaeth Tân yn gwrthwynebu’r cais, ond
rhoddwyd argymhelliad o ran niferoedd y dylid eu caniatáu o fewn ystafelloedd
cyhoeddus yr adeilad.
Cyfeiriwyd at sylwadau ac argymhellion
Swyddog Iechyd yr Amgylchedd a oedd wedi cynnal trafodaethau gyda’r ymgeisydd i
geisio mwy o fanylion am gynnwys y cais. Gohebwyd
ynglŷn ag amlder digwyddiadau ac adroddwyd nad oedd digon o fanylion i
benderfynu os oedd y rhagofalon cywir yn
debygol o gael eu gweithredu i sicrhau na fyddai'r amcan trwyddedu o Atal
Niwsans Cyhoeddus yn cael ei danseilio. Amlygwyd mai gwrthod y cais gwreiddiol
fyddai awgrym y Swyddog, ond yn dilyn trafodaethau pellach a diwygiadau i’r
cais gwreiddiol, cadarnhawyd nad oedd gan y Swyddog unrhyw wrthwynebiad i
werthiant alcohol a darparu lluniaeth hwyr y nos.
Cyfeiriwyd at ohebiaeth a dderbyniwyd gan y
Parc Cenedlaethol (nad oedd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad) lle amlygwyd gan
fod dros 50% o’r ystafelloedd gwely o fewn yr eiddo yn cael eu defnyddio ar
gyfer dibenion gosod, byddai rhaid cael caniatâd cynllunio ar gyfer y busnes.
Ategwyd nad oedd hyn yn fater trwyddedu a bod angen i’r ymgeisydd drafod
ymhellach gyda’r Parc.
Yn dilyn diwygiadau i’r cais gwreiddiol,
amlygodd y Rheolwr Trwyddedu, bod yr ymgeisydd bellach, yn dilyn trafodaethau
gyda’r Swyddogion Trwyddedu ac Iechyd yr Amgylchedd, wedi penderfynu cynnwys
alcohol a lluniaeth hwyr y nos yn unig ac y byddai yn dymuno manteisio ar
eithriadau’r Ddeddf Gerddoriaeth Fyw 2012 ar gyfer dangos ffilmiau,
perfformiadau dawns, cerddoriaeth fyw ac wedi ei recordio tan 11 yr hwyr, yn
unig. Tynnwyd sylw at y manylion llawn yn yr adroddiad.
b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r
ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr
Trwyddedu.
·
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais
·
Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau
·
Gwahoddwyd deilydd y
drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau
·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn
cwestiynau i ddeilydd y drwydded.
·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn
cwestiynau i’r ymgynghorai
c)
Wrth ymhelaethu ar y cais nododd yr ymgeisydd ei
fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei
gyflwyno ac ategodd y sylwadau canlynol:
·
Mai ei unig fwriad oedd cynnig potel o win i’w
gwesteion gyda’u swper
·
Y byddai llai o fynd a dod o’r safle wrth i
westeion aros ar y safle
·
Trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r Heddlu, Y
Gwasanaeth Tân a’r Parc Cenedlaethol
ch) Yn manteisio ar ei hawl i
siarad, nododd y Cynghorydd John Pugh
Roberts (Aelod Lleol a chynrychiolydd Cyngor Cymuned Mawddwy) y sylwadau
canlynol:
·
Ei fod yn gefnogol i fentrau newydd, ond wedi
amlygu pryderon gyda materion trwyddedu mewn ardal wledig
·
Bod yr eiddo o fewn i’r Parc Cenedlaethol – lle i
bobl gael llonydd
·
Wedi gwrthwynebu y cais gwreiddiol, ond bellach
wedi newid i feddwl yn dilyn diwygiad i’r cais
·
Cyngor Cymuned hefyd yn gefnogol i’r cais
diwygiedig
d)
Wrth grynhoi ei gais, nododd yr ymgeisydd
·
Ei fod yn derbyn y sylwadau
·
Amlygodd bod preswylwyr yn darparu eu halcohol eu
hunain, ac os na fydd y drwydded yn cael ei chaniatáu, byddai'r drefn yma yn
parhau
·
Bod bwriad i ddarparu basged picnic i breswylwyr i
gynnwys potel o win
·
Bydd alcohol ar gael i breswylwyr yn unig
·
Bod mwy o fynd a dod gyda gwerthiant wyau drws
nesaf
·
Dim ond tair ystafell wely sydd ar gael i’w gosod
felly mwyafrif o chwe pherson
·
Bwriad efallai i baratoi cinio nos ar gyfer
preswylwyr sydd yn defnyddio bwthyn gwyliau cyfagos
·
Bod y ffordd i’r safle mor llydan â phriffordd
·
Y gwesty wedi bod yn agored ers 12 mis, dim
materion wedi codi yn y cyfnod yma.
dd) Trafodwyd y cais diwygiedig gan aelodau’r Is Bwyllgor ac fe ystyriwyd yr holl dystiolaeth
a gyflwynwyd gan roddi sylw
penodol i egwyddorion Deddf Trwyddedu 2003 sef;
• Trosedd ac Anhrefn
• Diogelwch y
Cyhoedd
• Rhwystro Niwsans Cyhoeddus
• Amddiffyn
Plant rhag Niwed
ynghyd a chanllawiau’r Swyddfa Gartref a pholisi trwyddedu’r Cyngor.
PENDERFYNWYD
caniatáu y cais yn unol â’r cais diwygiedig
Rhoddwyd ystyriaeth i sylwadau’r Cynghorydd
John Pughe Roberts, Cyngor Cymuned Dinas Mawddwy, Mr Boulton,
Mr Negus a Mrs Clarke, a oedd yn codi pryder am y
lefelau sŵn tebygol yn deillio o’r fangre, yn
ogystal â’u heffaith ar y Parc Cenedlaethol,
trigolion lleol, da byw ac ati. Tra bo’r Is-bwyllgor yn derbyn bod y sylwadau
hyn wedi cael eu gwneud gydag ymddiriedaeth a bod sŵn yn gallu bod o bosib
yn berthnasol i’r amcan trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus, nid oedd yr
Is-bwyllgor yn fodlon ar y dystiolaeth o’u blaenau mai canlyniad tebygol rhoi
trwydded alcohol a lluniaeth hwyr nos fyddai problem sŵn sy’n destun
niwsans cyhoeddus. Yn benodol, ni dderbyniwyd unrhyw dystiolaeth o’r lefelau
sŵn disgwyliedig, nifer o ddigwyddiadau sŵn, amledd y digwyddiadau
hynny, pa mor hir fyddai pob digwyddiad yn para na’r nifer o bobl fyddai’n cael
eu heffeithio. Heb y fath ddata gwrthrychol roedd yn amhosib i’r Is-bwyllgor
ddweud yn fwy tebygol na pheidio y byddai’r drwydded, petai’n cael ei roi, yn
arwain at niwsans cyhoeddus. Nodwyd bod y swyddog Iechyd Amgylcheddol wedi codi
pryderon am sŵn, ond bod y rheiny i’w priodoli i’r cais gwreiddiol o ran
adloniant. Nid oeddent yn deillio o’r darnau alcohol a lluniaeth hwyr nos o’r
cais, darnau nad oedd Iechyd Amgylcheddol wedi codi gwrthwynebiadau yn eu
cylch. Am y rhesymau hyn nid oedd yr Is-bwyllgor yn ystyried bod y cais yn
tanseilio’r amcan trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus.
Ystyriodd yr Is-bwyllgor yn ogystal sylwadau
parthed cyflwr y ffordd yn arwain i’r fangre, yr
oeddent wedi cael budd o ymweliad safle yn ei chylch. Daethant i’r casgliad,
fodd bynnag, yn sgil defnydd bwriedig y drwydded fangre - i werthu gwin i drigolion adeg pryd o fwyd neu ar
gyfer bocs bwyd - mai prin oedd y dystiolaeth y byddai rhoi’r drwydded yn
arwain at unrhyw gynnydd sylweddol mewn traffic ac
unrhyw bryder o ran diogelwch cyhoeddus
Yn
yr amgylchiadau, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y drwydded a roddwyd yn
gyson â’r amcanion trwyddedu.
Adroddodd y Cyfreithiwr
y byddai’r penderfyniad yn cael ei
gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn
bresennol. Hysbysebwyd hefyd o’u hawl
i apelio i’r dyfarniad o fewn 21 diwrnod i dderbyn y llythyr hwnnw.
Dogfennau ategol: