Cyflwyno adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd (ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynodd
yr Arweinydd
adroddiad yn adolygu cydbwysedd gwleidyddol y Cyngor yn sgil ethol tri aelod
newydd ar y Cyngor a dau aelod yn newid eu grwpiau gwleidyddol.
Eglurwyd:-
·
Nad
oedd yr argymhelliad yn llwyr adlewyrchu’r cydbwysedd gwleidyddol, a hynny yn
sgil penderfyniadau blaenorol gan y Cyngor ar sail trafodaethau yn y Grŵp
Busnes i geisio cadw profiad ac arbenigedd o fewn gwahanol bwyllgorau gyda dim
ond ychydig fisoedd i fynd tan yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai.
·
Yn
unol â’r drefn, y byddai’n rhaid i’r aelodau bleidleisio dros y cynnig yn
ddiwrthwynebiad.
·
Bod y newidiadau mwyaf diweddar i’r cydbwysedd
gwleidyddol yn golygu bod sail i adolygiad a fyddai’n arwain at newid yn
aelodaeth y Cyngor ar Bwyllgor Parc Cenedlaethol Eryri, ond gan mai dim ond
ychydig fisoedd sydd ar ôl tan ddiwedd oes y Cyngor hwn, awgrymid y dylid glynu
at y dyraniad a wnaed ym Mai 2012.
Galwyd am bleidlais gofrestredig ar y cynnig a phleidleisiodd mwy na
chwarter yr aelodau o blaid hynny.
Mynegwyd pryder gan aelod bod Grŵp Llais
Gwynedd yn colli eu hunig sedd ar y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol Lleol. Fel deilydd y sedd honno, oedd hefyd yn
Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Corfforaethol, sy’n ymdrin â materion staff, nododd
mai drwy’r Cyd-bwyllgor mae’n cael gwybodaeth ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd
yn y maes. Mewn ymateb, eglurodd yr
Arweinydd mai mathemateg oedd hyn a chan fod Grŵp Llais Gwynedd wedi colli
sedd ar y Cyngor a’r Grŵp Annibynnol wedi ennill sedd, ‘roedd yn rhaid i
hynny gael ei adlewyrchu yn y seddi sy’n cael eu dyrannu. Rhybuddiodd, petai’r aelod yn pleidleisio yn
erbyn yr argymhelliad, y byddai Grŵp Llais Gwynedd yn colli’r sedd beth
bynnag a hefyd yn colli sedd ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Nododd hefyd na chynhelir cyfarfod o’r
Cyd-bwyllgor Ymgynghorol Lleol rhwng hyn a’r etholiadau ym mis Mai.
Mynegwyd cefnogaeth i’r argymhelliad gan sawl aelod.
Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar y
cynnig:-
O blaid y cynnig: (54) Y Cynghorwyr:- Stephen Churchman, Annwen Daniels, Lesley
Day, Gwynfor Edwards, Dyfed Edwards, Elwyn Edwards, Thomas Ellis, Alan Jones
Evans, Dylan Fernley, Jean Forsyth, Gareth Wyn Griffith, Gwen Griffith, Selwyn
Griffiths, Alwyn Gruffydd, Annwen Hughes, John Brynmor Hughes, Louise Hughes,
Sian Wyn Hughes, Peredur Jenkins, Aeron M.Jones, Aled Wyn Jones, Brian Jones,
Charles W. Jones, Elin Walker Jones, Eric Merfyn Jones, John Wynn Jones, Eryl
Jones-Williams, Beth Lawton, Dilwyn Lloyd, June Marshall, Dafydd Meurig, Dilwyn
Morgan, Linda Morgan, Dewi Owen, Edgar Wyn Owen, Michael Sol Owen, Nigel
Pickavance, Caerwyn Roberts, Gareth A.Roberts, John Pughe Roberts, W. Gareth
Roberts, Mair Rowlands, Angela Russell, Dyfrig Siencyn, Mike Stevens, Gareth
Thomas, Ioan Thomas, Hefin Underwood, Eirwyn Williams, Elfed Williams, Gethin
Glyn Williams, Gruffydd Williams, R. H. Wyn Williams a Mandy Williams-Davies.
Atal: (0)
Yn erbyn: (0)
PENDERFYNWYD
(a) Mabwysiadu dyraniad seddau ar bwyllgorau’r
Cyngor yn unol â’r tabl isod:-
PWYLLGORAU
CRAFFU
|
Plaid Cymru |
Annibynnol |
Llais Gwynedd |
Llafur |
Democratiaid Rhyddfrydol |
Aelod Unigol |
Corfforaethol |
9 |
5 |
2 |
0 |
1 |
1 |
Cymunedau |
10 |
5 |
1 |
1 |
1 |
|
Gwasanaethau |
10 |
4 |
2 |
1 |
|
1 |
Archwilio |
10 |
5 |
2 |
1 |
|
|
PWYLLGORAU ERAILL
|
Plaid Cymru |
Annibynnol |
Llais Gwynedd |
Llafur |
Democratiaid Rhyddfrydol |
Aelod Unigol |
|
Gwasanaethau Democratiaeth |
8 |
5 |
1 |
1 |
|
|
|
Iaith |
8 |
4 |
2 |
1 |
|
|
|
Cynllunio |
8 |
4 |
1 |
1 |
1 |
|
|
Trwyddedu Canolog |
8 |
5 |
2 |
|
|
|
|
Apelau Cyflogaeth |
3 |
1 |
1 |
1 |
|
1 |
|
Penodi Prif Swyddogion |
8 |
4 |
1 |
1 |
1 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Nifer y seddau |
82 |
42 |
15 |
8 |
4 |
3 |
154 |
|
Plaid Cymru |
Annibynnol |
Llais Gwynedd |
Llafur |
Democratiaid Rhyddfrydol |
Aelod Unigol |
|
||||
Pensiynau |
3 |
2 |
0 |
1 |
1 |
|
|
||||
Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol |
6 |
3 |
0 |
1 |
|
1 |
|
||||
Cydbwyllgor Addysg Anghenion Arbennig |
3 |
2 |
1 |
|
|
1 |
|
||||
Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd |
4 (3 sedd ac un eilydd) |
2 |
1 |
1 |
|
|
|
||||
CYSAG |
4 |
2 |
1 |
|
|
|
|
||||
|
|
|
|
|
|
|
|
||||
Cyfanswm y Seddau |
102 |
53 |
18 |
11 |
5 |
5 |
194 |
||||
ATODIAD
B
Corff |
Plaid Cymru |
Annibynnol |
Llais Gwynedd |
Llafur |
Democratiaid
rhyddfrydol |
Aelod unigol |
Parc Cenedlaethol Eryri (rŵan) |
4 |
2 |
2 |
1 |
0 |
0 |
Newid yn unol
â’r cydbwysedd |
5 |
2 |
1 |
1 |
0 |
0 |
Tân |
3 |
1 |
1 |
0 |
0 |
0 |
Gofynnodd yr Arweinydd i neges fynd i
Raymond Harvey, Swyddog Cofrestru a’r tîm yn diolch iddynt am eu gwaith
aruthrol dros y misoedd diwethaf yn gweinyddu tri is-etholiad, etholiad y
Cynulliad a Refferendwm Ewrop ac yn nodi y bu eu cyfraniad yn amhrisiadwy.
Dogfennau ategol: