Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Arweinydd (ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd adroddiad byr yn gosod y cyd-destun.
Cyflwynwyd - adroddiadau blynyddol y tri phwyllgor craffu ar gyfer
2015/16.
Pwyllgor Craffu Corfforaethol
Manylodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Corfforaethol, y Cynghorydd Jason
Humphreys, ar gylch gorchwyl a gwaith y pwyllgor yn ystod 2015/16, gan ddiolch
i’r Cyn-gadeirydd, y Cynghorydd Dyfrig Jones, aelodau’r pwyllgor a’r swyddogion
am eu cefnogaeth.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-
·
Nodwyd y gallai mabwysiadu polisi o godi treth
cyngor uwch ar dai haf gael effaith negyddol ar yr economi gan fod nifer o dai
yn y sir na fyddai pobl leol o bosib’ yn dymuno eu prynu. Mewn ymateb, nodwyd y byddai’r mater hwn ar
raglen cyfarfod nesaf y pwyllgor craffu ar yr 20fed o Hydref a diau y byddai’r
aelodau yn edrych i mewn yn fanwl i’r materion.
·
Mynegwyd pryder bod cwmnïau lleol yn aflwyddiannus
wrth dendro am gontractau, megis i gyflenwi bwydydd ysgolion, ac ati, a
phwysleisiwyd pwysigrwydd cadw’r budd yn lleol.
Mewn ymateb, cytunwyd bod angen cadw ar ben y sefyllfa a chadarnhawyd y
byddai sylw’r aelod yn cael ei gymryd i ystyriaeth. Ychwanegwyd bod y pwyllgor craffu yn derbyn
adroddiadau rheolaidd ar reolaeth categori a chadw’r budd yn lleol.
·
Awgrymwyd y byddai’n gamgymeriad llwyr datganoli
trethi busnes i’r cynghorau sir yng Nghymru, fel sy’n digwydd yn Lloegr, gan
fod llawer o lefydd ar eu colled oherwydd hynny a bod Gwynedd yn derbyn setliad
teg o ran trethi busnes.
Pwyllgor Craffu Cymunedau
Manylodd Cyn-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau, y Cynghorydd Angela
Russell, ar gylch gorchwyl a gwaith y pwyllgor yn ystod 2015/16 gan ddiolch i’r
Cadeirydd presennol, y Cynghorydd Caerwyn Roberts, aelodau’r pwyllgor a’r
swyddogion am eu cefnogaeth.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-
·
Nodwyd bod y drefn newydd o gasglu
gwastraff gweddilliol bob tair wythnos yn gweithio’n dda ar y cyfan, ond bod
angen cadw mewn cof yr angen am hyblygrwydd, e.e. mewn ardaloedd dwysedd tai
uchel.
·
Croesawyd y ffaith bod yr Aelod Cabinet wedi derbyn
holl argymhellion yr Ymchwiliad Craffu Digartrefedd.
·
Holwyd
sut ‘roedd y pwyllgor craffu yn teimlo ynglŷn â’r
newidiadau gyda’r biniau brown. Mewn
ymateb, nodwyd nad oedd y canlyniadau’n hysbys eto, ond bod rhaid profi’r drefn
a gweld sut mae pethau’n datblygu.
‘Roedd yn rhaid i’r Cyngor uchafu’r deunydd sy’n cael ei ailgylchu rhag
llygru’r ddaear a rhaid cofio hefyd bod y Cyngor yn wynebu toriadau enfawr.
·
Nodwyd
bod angen atgoffa’r gweithlu i gau’r fflapiau ar ochr y lorïau ailgylchu er
mwyn atal deunydd ailgylchu rhag disgyn ar hyd ochrau’r ffyrdd. Mewn ymateb, nodwyd y gosodwyd seliau newydd
ar y lorïau erbyn hyn.
Pwyllgor Craffu Gwasanaethau
Manylodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau, y Cynghorydd Beth
Lawton, ar gylch gorchwyl a gwaith y pwyllgor yn ystod 2015/16, gan ddiolch i’r
Cyn-gadeirydd, y Cynghorydd Peter Read, aelodau’r pwyllgor a’r swyddogion am eu
cefnogaeth.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-
·
Pryder ynglŷn â goblygiadau Amddifadu o Ryddid
a’r risg ariannol i’r Cyngor. Mewn
ymateb, nodwyd bod aelodau’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau wedi derbyn
hyfforddiant yn y maes ac wedi argymell bod yr un hyfforddiant yn cael ei
gynnig i bob cynghorydd. ‘Roedd y Cyngor
wedi adnabod y risg ac yn gweithio ar hyn a byddai’r pwyllgor craffu hefyd yn
cadw golwg ar yr hyn sy’n digwydd.
·
Pryder ynglŷn â phenderfyniad y Cabinet i
gyfrannu swm o £750,000 tuag at y pwyllgorau ardal yn y maes addysg. Mewn ymateb, nodwyd y byddai cyfle i’r
aelodau ofyn mwy o gwestiynau am hyn yn y Cyfarfod Paratoi nesaf a chredid y
byddai yna gynrychiolaeth o’r pwyllgor craffu ar weithgor yn y maes hwn.
Diolchodd yr Arweinydd i gadeiryddion, is-gadeiryddion ac aelodau’r tri
phwyllgor craffu am eu holl waith.
Dogfennau ategol: