Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol (ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn argymell i’r Cyngor gymeradwyo’r
ddogfen yn ddarlun cytbwys, teg a chywir o berfformiad y Cyngor yn ystod
2015/16, a’i fabwysiadu.
Diolchodd yr
Arweinydd i’r Prif Weithredwr a’r tîm o swyddogion hynny fu ynghlwm â’r gwaith.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau neu gynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, amlygwyd y prif
faterion a ganlyn:-
·
Cyfeiriwyd
at yr hawliau caniataol yn Lloegr i
droi adeiladau gweigion ar ffermydd yn dai parhaol a holwyd oes posibilrwydd o
gael yr un hawliau yng Nghymru. Mewn
ymateb, nododd yr Arweinydd bod y cyn-weinidog, Jane Davidson wedi mynd â
deddfwriaeth drwy’r Cynulliad ar y pryd i’w wneud yn rhwyddach i gael datblygiadau, megis tŷ annedd, o
gwmpas y fferm. Awgrymodd y gallai wneud
rhywfaint o waith ar y cyd â’r Aelod Cabinet
Cynllunio i weld a yw’r ddeddfwriaeth honno wedi creu cyfleoedd, ac os nad
ydyw, gellid cyflwyno hynny fel tystiolaeth i’r Llywodraeth.
·
Llongyfarchwyd y Cyngor ar gynhyrchu adroddiad
cyfeillgar i’r defnyddiwr, sy’n defnyddio lluniau i amlygu ffeithiau.
·
Gan
gyfeirio at Farn y Panel Trigolion (tudalen 21 yn y
rhaglen), pwysleisiwyd pwysigrwydd canolbwyntio ar y negyddol (e.e. yr 17% sydd
o’r farn nad yw’r Cyngor yn cwrdd â’u
hanghenion yn hytrach na’r 83% sy’n credu i’r gwrthwyneb) gan ddefnyddio unrhyw
gwynion fel adnodd i wella’r gwasanaeth, yn unol â diwylliant Ffordd Gwynedd.
·
Gan
gyfeirio at Fesurau Strategol Cenedlaethol EDU/002i (canran yr holl ddisgyblion
(gan gynnwys y rhai sydd yng ngofal awdurdod lleol) ... sy’n gadael addysg
orfodol, hyfforddiant neu ddysgu seiliedig ar waith heb fod ganddynt gymhwyster
allanol a gymeradwywyd) ac EDU/002ii (canran y disgyblion sydd yng ngofal
awdurdodau lleol, ... sy’n gadael addysg orfodol, hyfforddiant neu ddysgu
seiliedig ar waith heb fod ganddynt gymhwyster allanol a gymeradwywyd) (tudalen
41 yn y rhaglen), nodwyd y byddai’n fuddiol cael ffigur cymharol yn y dyfodol
er mwyn gweld a yw’r sefyllfa’n gwaethygu ar draws yr holl ddisgyblion, neu’r
grŵp yma’n unig.
·
Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn ag effaith colli
arian Ewrop ar gyllid y Cyngor, nodwyd bod Cyngor Gwynedd wedi creu buddsoddiad
o £300,000,000 o arian yn sgil cronfeydd Ewrop dros y blynyddoedd ar ffurf
arian craidd / cyfatebol neu fuddsoddiad sector preifat ac ‘roedd peryg’ na
fyddai’r sir yn gweld y fath symiau byth eto.
‘Roedd sôn nad oedd ardaloedd megis Gorllewin Cymru a’r cymoedd, sydd
wedi bod yn derbyn yr arian craidd yma, yn mynd i gael ystyriaeth na’u dynodi’n
achos arbennig ac ‘roedd yr ardaloedd hyn angen arian sy’n cyfateb i’r hyn oedd
Amcan 1 ac arian Cydgyfeiriant. Holwyd
beth allai’r cynghorwyr wneud i helpu’r Cyngor. Mewn ymateb, nododd yr Arweinydd y bwriadai
ysgrifennu at gynrychiolydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar bwyllgor a
sefydlwyd gan Brif Weinidog Cymru gan ofyn i’r cynrychiolydd gyflwyno’r llythyr
i’r pwyllgor hwnnw. Gellid hefyd
ysgrifennu at y Prif Weinidog ei hun ac at Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’i
Is-ysgrifennydd. Gallai’r
cynghorwyr hefyd godi ymwybyddiaeth o hyn yn eu cymunedau, a phe rhennid yr
ohebiaeth gyda’r aelodau, gallai hyn fod yn sail i gael llythyrau gan gynghorau
tref, grwpiau o gynghorau cymuned, mudiadau ayb. Nododd ymhellach y byddai’n ystyried y ffordd
orau o harneisio hyn ac o gael elfen o gydweithio ar draws fel bod y neges yn
gwbl glir.
·
Sylwyd bod y ganran a holwyd (tudalen 22 o’r
rhaglen) tua 1% o boblogaeth Gwynedd a holwyd oedd yna fwriad i gynyddu’r
ffigur yma. Holwyd hefyd ynglŷn â’r trawsdoriad dynion / merched
ac oedran y rhai a holwyd. Mewn ymateb,
eglurodd yr Arweinydd mai Panel Trigolion Gwynedd, sy’n cynnwys tua 2,000 o
bobl, oedd sail yr holiadur a’r farn ar hyn. Ychwanegodd y gellid ymchwilio i ffyrdd o
ledaenu’r arolwg barn ar yr Adroddiad Perfformiad, yn enwedig dros y We a
Thrydar, gan fynd ar ôl carfanau penodol, megis pobl ifanc, fel y gwnaethpwyd
wrth ymgynghori ar Her Gwynedd.
·
Mynegwyd pryder ynglŷn â’r
tueddiad cynyddol i ddileu cytundebau amod 106 yn y Cyngor hwn ac Awdurdod y
Parc Cenedlaethol. Mewn ymateb, nododd
yr Arweinydd, i atal pobl rhag llwyddo mewn apêl, bod rhaid i’r amod fod yn
gadarn yn y lle cyntaf. Ychwanegodd fod
y Pwyllgor Craffu Cymunedau wedi edrych ar amodau 106 a thai fforddiadwy ac
wedi dod i gasgliad bod y gyfundrefn yn gweithio yn eithaf da.
·
Diolchwyd i staff yr ysgolion a’r Adran Addysg am y
camau bras a gymerwyd i wella safonau addysg yn yr ysgolion a chyfeiriwyd at
enghreifftiau penodol o’r llwyddiant hwnnw, megis y gwelliant o 13.5% yn y
mesurydd TL2+ ers 2012 a’r cynnydd ym mhresenoldeb disgyblion. Cyfeiriwyd hefyd at y buddsoddiad o £56m mewn
adeiladau a nodwyd y cynhelid diwrnod agored ar gyfer yr holl aelodau yn yr
Ysgol Hafod Lon newydd ym Mhenrhyndeudraeth ar ddydd
Sadwrn, y 19eg o Dachwedd.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r
adroddiad yn adlewyrchiad cytbwys, teg a chywir o berfformiad y Cyngor yn ystod
2015/16, a’i fabwysiadu.
Dogfennau ategol: