Agenda item

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Cofnod:

(1)       Cwestiwn gan y Cynghorydd Sian Wyn Hughes

 

Yn ddiweddar mynychais gwrs ardderchog ar gyfer cynghorwyr ar y Ddeddf Llesiant newydd.  ‘Roedd y cwrs yn wych, ond ‘roedd yn siomedig bod cyn lleied o aelodau yn bresennol. 

 

Carwn ofyn i’r Aelod Cabinet ar gyfartaledd faint o gynghorwyr sydd yn mynychu’r cyrsiau sydd yn cael eu trefnu ar ein cyfer ar y dyddiadau sydd yn y calendr cyfarfodydd a oes ystyriaeth wedi ei roi i wneud rhai cyrsiau, fel rhai ynglŷn â deddfwriaeth bwysig yn fandadol er mwyn mynnu presenoldeb Aelodau?”

 

Ateb gan y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Dirprwy Arweinydd

 

(Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

“Mae yna ymateb ysgrifenedig wedi ei baratoi a ffigurau wedi ein cyrraedd ar e-bost yn dangos y canrannau ar gyfer dau fath o hyfforddiant mae’r Cyngor yn ei gynnig i aelodau.  Mae’r ffigurau hynny yn dangos mai canran isel iawn mewn rhai amgylchiadau o gynghorwyr sy’n manteisio ar hyfforddiant.  ‘Roeddwn yn bresennol yn yr hyfforddiant mae Sian yn cyfeirio ato ac ‘roedd yn arbennig iawn ac ‘roedd pob un o’r aelodau yn dod allan o’r cyfarfod hwnnw wedi cael eu hysbrydoli ac ‘roedd safon y cyflwyniadau yn wych iawn.  Ac mae yna elfennau o hyfforddiant o’r math yma sy’n darparu gwybodaeth angenrheidiol i gynghorwyr i ddod i benderfyniadau sydd yn ddeallus, ac anogaeth sydd yna felly i gynghorwyr fynychu’r sesiynau hyn.  Yr unig beth fyddwn yn ychwanegu, fel un oedd yn gweithio’n llawn amser beth amser yn ôl ac ym mhen pella’r sir yma, ‘rydw i’n cydymdeimlo gyda’r rhai hynny sy’n methu mynd i gyfarfodydd hyfforddiant.  Yn wir, ‘roedd yn rheol gen i, os oedd yna unrhyw hyfforddiant y tu hwnt i Borthmadog, nid oeddwn yn mynd iddo, ond chwarae teg, mae’r Cyngor yn cynnig hyfforddiant ym Mhenrhyndeudraeth er mwyn ceisio gwneud yr hyfforddiant yn fwy hygyrch i aelodau.  ‘Rwy’n credu hefyd bod lle i ni edrych ar sut ydym yn darparu hyfforddiant.  Mae modd i ni wneud llawer iawn mwy ar y We a gallwn ddilyn a thracio’r gwaith hwnnw ac ‘rwy’n credu y bydd yn rhaid i ni ddatblygu hynny ymhellach ac ‘rwy’n credu hefyd, fel ‘rydw i wedi dweud sawl tro yn y gorffennol, bod lle i ni ystyried gwneud sesiynau hyfforddiant yn ein fforymau ardal - tameidiau bach o hanner awr hwyrach, ond sy’n berthnasol, a byddwn yn cael cyfle i gael trafodaethau eraill ar yr un pryd felly.”

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Sian Wyn Hughes

 

“A fyddai’r Aelod Cabinet yn cytuno bod y canrannau hyn yn siomedig iawn ac yn fodlon gofyn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd edrych ar ffyrdd o gynyddu presenoldeb aelodau mewn sesiynau hyfforddi, gan gynnwys gwneud rhai cyrsiau yn fandadol a chyhoeddi cofnod presenoldeb aelodau mewn cyrsiau hyfforddi ar wefan y Cyngor?”

 

Ateb gan y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Dirprwy Arweinydd

 

"’Rwy’n cytuno’n llwyr ac ‘rwy’n meddwl ei fod yn fater i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i’w ystyried o ddifri’.  Y trafferth hefo’r gair ‘mandadol’ ydi sut ydych yn cosbi’r aelod os nad ydi o’n mynd i’r hyfforddiant hwnnw?  Mae hynny ychydig bach yn anodd, ond ‘rwy’n sicr yn credu y dylai fod yna ystyriaeth i gyflwyno hyfforddiant mewn ffyrdd gwahanol hefyd fel ei fod ar gael i aelodau yn unrhyw le a’u bod yn gallu cofnodi os ydynt wedi mynd trwy’r hyfforddiant hwnnw ar y We.  Ond yn sicr, ‘rydw i’n hapus iawn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd edrych ar y mater yn drylwyr eto.”

 

(2)       Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“A oes modd i'r aelod cabinet dros adfywio egluro beth fydd dyfodol Cist Gwynedd?”

 

Ateb gan y Cynghorydd Mandy Williams-Davies, Aelod Cabinet Economi a Chymuned

 

(Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

“Mae Cist Gwynedd yn becyn o grantiau sy’n cael ei wireddu gan yr Adran Economi a Chymuned ac mae’n becyn gwerthfawr iawn i gefnogi gwaith cymunedol.  Mae’r ateb wedi ei gylchredeg yn egluro bod swm yr arian yn dod o amryw o gyfeiriadau – o’r Cyngor, o Lywodraeth Cymru, o gwmnïau preifat ac ynni adnewyddol a hefyd yn gynyddol y cymalau buddion cymunedol sy’n cael eu rhoi i mewn.  Felly mae yna sawl ffynhonnell yn bwydo.  Un o’r cronfeydd mwyaf poblogaidd yw’r Gronfa Datblygu Gwirfoddol ac eleni mae £80,000 o gyfalaf a £46,000 o gyllid refeniw ar gael i’w ddosbarthu.  Mae’r cyfalaf yn drefn o fidio yn flynyddol felly mae’n anodd efallai gwarantu parhad hwnnw i’r dyfodol heblaw’r swm sydd ar gael ar hyn o bryd, ond mae’r gyllideb refeniw yn parhau yn 2017/18 fel mae’n sefyll ar hyn o bryd.”

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Oes modd i’r aelod fy sicrhau bod cynnydd yn y gwariant ar Gist Gwynedd yn y flwyddyn nesaf ac efallai eistedd i lawr hefo mi i drafod pwysigrwydd y cyllid yma i gymunedau Gwynedd?”

 

Ateb gan y Cynghorydd Mandy Williams-Davies, Aelod Cabinet Economi a Chymuned

 

“Fel mae wedi ei egluro yn yr ateb, nid yw Cist Gwynedd yn destun arbedion na thoriad Her Gwynedd i 2017/18 a hoffwn atgoffa’r aelod hefyd, ‘roeddem i gyd yn y cyfarfod yma yn pennu toriadau poenus iawn ac yn cael dewis beth oeddem ni’n ei flaenoriaethu yn y gweithdai.  Bu i ni fel Cyngor gymeradwyo’r pecyn.  ‘Roedd toriad o hanner i un darn o gronfa’r gist yma wedi ei gymeradwyo oherwydd ‘rwy’n cofio i’r aelod ddatgan ei bryder yn y fan honno, ond efallai ein bod i gyd yn deall bod yna ddewis wedyn, os oeddem yn arbed rhywbeth bod yna rywbeth arall yn dod yn ôl ac ni chynigiodd yr aelod unrhyw beth arall yn ôl, os cofiaf yn iawn.  Serch hynny, mae hanner y refeniw yn dal ar gael a rhaid i ni gofio hefyd bod arbediad wedi dod i’r swyddogion cefnogi adfywio sy’n helpu i ddenu mwy o grantiau i’r cymunedau gyda help y gronfa yma.”

 

(3)       Cwestiwn gan y Cynghorydd Louise Hughes

 

“A oes modd cael diweddariad o’r sefyllfa bresennol ynglŷn â dyfodol toiledau cyhoeddus yng Ngwynedd?”

 

Ateb gan y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Amgylchedd

 

(Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

“Mae’r cwestiwn ychydig yn gynamserol.  ‘Rydych yn ymwybodol ein bod yn edrych ar doriad o gau 50 allan o 73 o doiledau ond ein bod, ar ôl y penderfyniad a gymerwyd ym mis Mawrth, wedi dod i fyny hefo cynllun amgen ac mae’r cynllun hwnnw’n gwireddu’r arbediad o bron i £250,000.  Aethom â hwnnw i’r pwyllgor craffu cyn iddo fynd i’r Cabinet a bu i’r Cabinet gymeradwyo ein bod yn symud ymlaen hefo’r cynllun amgen.  Mae’r cynllun amgen yn gofyn i gynghorau cymuned gyfrannu at eu toiledau lleol ac ‘rydym wedi bod allan yn siarad hefo cynghorau cymuned a byddwn yn parhau i wneud hynny.  Mi oedd yna ofyn iddynt ddod erbyn diwedd mis Medi hefo’u penderfyniad hwy, os oeddent yn bwriadu cyfrannu ai peidio.  Os oedden nhw’n dweud nad oedden nhw ddim, ‘roeddem wedyn yn gorfod ystyried os oedd y toiledau hynny’n cau.  Mae’n gynamserol i ni ddod i benderfyniad oherwydd dim ond wythnos diwethaf oedd diwedd mis Medi ac felly mae yna waith yn cychwyn ac ‘rydym hefyd wedi cael ceisiadau i ni ymestyn y dyddiad fel bod y cynghorau yn medru cyfarfod a dod i benderfyniad.  ‘Rwy’n falch o ddweud bod yna rai wedi dod yn ychwanegol i’r rhai oedd gennym ar ddiwedd y mis.  ‘Rydym yn bwriadu trafod hefo’r cynghorau yma sy’n fodlon symud ymlaen i edrych ar gymryd y gwasanaeth drosodd a byddwn hefyd yn edrych i mewn i’r toiledau cymunedol – mae yna 36 o’r rheini yn y sir ar hyn o bryd, ond mae’r ateb a ddosbarthwyd yn gynhwysfawr.”

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Louise Hughes

 

“Fedrwch chi gadarnhau bod gweithrediadau Cyngor Gwynedd yn gwbl gyfreithlon ac ydi awdurdodau lleol eraill yng Nghymru yn gwneud yr un peth?”

 

Ateb gan y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Amgylchedd

 

Gallaf gadarnhau bod hyn yn hollol gyfreithlon a hefyd bod yna lawer o awdurdodau eraill yn gweithredu yn yr un ffordd â ni.”