I ystyried
adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau
Cofnod:
Adroddiad yr Uwch
Swyddog Harbyrau
Cyflwynwyd adroddiad gan yr
Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi
diweddariad cryno ar faterion yr
Harbwr am y cyfnod rhwng Mawrth 2019 a Hydref 2019.
Angorfeydd
Adroddwyd bod nifer yr angorfeydd
yn sefydlog er newid ym
mhatrwm ymddygiad defnyddwyr. Amlygwyd bod cychod pŵer a beiciau dwr bellach
yn fwy poblogaidd
na chychod
hwylio ac yr un yw’r sefyllfa ar
draws y wlad.
Cod Diogelwch
Atgoffwyd yr Aelodau bod yr Asiantaeth Morwrol a Gwylwyr y Glannau wedi cynnal archwiliad
ym Mawrth 2019 ar drefniadau penodol
a system Harbyrau Bwrdeistrefol
Gwynedd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a’r Cod Diogelwch Morol. Yn dilyn ymweliad
pellach i weld sut roedd yr
ychwanegiadau a awgrymwyd wedi ei gweithredu,
adroddwyd bod Capten Quader (archwilydd o’r Asiantaeth) yn fodlon bod y Gwasanaeth yn cydymffurfio
â darpariaethau’r Cod Diogelwch
Morol Porthladdoedd. Atgoffwyd yr Aelodau o’u dyletswydd i gyflwyno sylwadau
ar addasrwydd y Cod Diogelwch a chyfeirio unrhyw bryderon i’r Harbwrfeistr.
Materion Staffio
Adroddwyd bod Harbwrfeistr Cynorthwyol llawn amser wedi
ei benodi ac wedi ei leoli
yn Harbwr Aberdyfi. Bydd y penodiad yn sicrhau cefnogaeth
i’r harbwrfeistr ynghyd a chynorthwyo mewn harbyrau eraill
ar draws y Sir pan fydd angen. Nododd
yr Harbwrfeistr bod penodi Mr Oliver Simmonds i’r tîm eisoes wedi
profi yn werthfawr a bod ei brofiad o weithio gyda’r Clwb Hwylio
yn fanteisiol. Ategodd yr Aelodau bod cydweithio da ymysg y staff a bod
y penodiad yn un da.
Materion Ariannol
Cyflwynwyd cyllideb yr harbwr
i amlygu’r sefyllfa ariannol bresennol hyd at ddiwedd Medi 2019. Amcangyfrifwyd
tanwariant o £4,121. Amlygwyd
bod bwriad o godi ffioedd lansio dyddiol o £10 i £15
Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â beth sydd wedi ei
glustnodi ar gyfer y tanwariant, amlygwyd bod bwriad prynu bwi ynghyd
a gwaith cynnal a chadw dros dymor
y gaeaf.
(b) Adroddiad yr Harbwr
Feistr
Cyflwynwyd adroddiad gan yr Harbwrfeistr yn
manylu ar faterion mordwyo, gweithredol a chynnal a chadw. Tynnwyd sylw at y
materion canlynol:
·
Bod
y gwasanaeth yn parhau i fonitro
llwybr y sianel fordwyo i Aberdyfi. Nodwyd bod y sianel yn newid yn
barhaol gyda symudiad gogleddol. Nodwyd bod hyn yn creu gwaith
addasu i gynorthwyo a sicrhau diogelwch mordwyo.
·
Bod
Ymddiriedolaeth yr Outward
Bound a Chlwb Hwylio Dyfi wedi cynnal
rhaglen brysur o ddigwyddiadau llwyddiannus dros yr Haf
·
Bod
y Gwasanaeth wedi gweld cynnydd mewn
nifer carcasau anifeiliaid wedi eu golchi i
fyny ar y traeth
·
Diolchwyd i’r Ymddiriedolaeth Outward Bound a Chlwb
Hwylio Dyfi am y cymorth a gafodd y Gwasanaeth tra bod gwaith atgyweirio strwythurol ar gwch yr harbwr
·
Bod
ysgolion tywod pren yn galluogi
mynediad ar draws y twyni i’r traeth
yn dilyn gwaredu llwybr pren y clwb golff
·
Bod
sefyllfa’r bont dros y rheilffordd i Fryn Llestair
(Picnic Island) yn cael ei drafod a phryderon
diogelwch yn cael eu hystyried.
·
Bod
y Gwasanaeth wedi bod yn cydweithio gyda’r
physgotwyr masnachol i dacluso lloc
y pysgotwyr. Y bwriad yw cadw offer sydd
ddim yn cael
ei ddefnyddio yn y lloc a chylchdroi'r
offer yn ôl yr angen.
·
Bod
trafodaethau pellach i’w cynnal gyda
Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig i sicrhau diogelwch
cerddwyr ar y cei.
·
Bod
trafodaethau wedi eu cynnal gydag
Uned Eiddo'r Cyngor i gadw’r Swyddfa’r
Harbwr yn ei leoliad presennol
Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â gwaredu anifeiliaid sydd wedi eu golchi
i fyny ar
y traeth nodwyd bod carcasau anifeiliaid (defaid gan amlaf)
yn cael eu
gwaredu yn Nolgellau yn unol
â threfniadau gwaredu anifeiliaid. Bydd anifeiliaid y môr yn cael eu
claddu yn y traeth - os yw
yn anifail prin bydd y gwasanaeth
yn cysylltu gyda gwasanaeth ymchwil mamaliaid môr er mwyn
cofnodi pwysau, math ac ati. Ategwyd bod cydweithio da gyda mudiadau gwirfoddol lleol sydd yn
glanhau’r traeth.
Mewn ymateb i sylw
am sefyllfa’r bont dros y rheilffordd i Fryn Llestair
(Picnic Island) nodwyd:
-
Bod
y penderfyniad i gau’r bont wedi
cael ei gefnogi
gan ddefnyddwyr er efallai wedi
cael effaith ar weithgareddau Outward Bound
-
Bod
Ymgynghoriaeth Gwynedd wedi
cynnal asesiad strwythurol o’r bont
-
Bod
amserlen drafft o 12 – 18 mis wedi ei
osod ar gyfer
symud y bont – bydd angen atgyfnerthu’r
rhwystrau atal mynediad
-
Bod
gan y Cyngor Cymuned gyswllt leol defnyddiol
gyda Network Rail - peiriannydd
wedi cyfarfod cynghorwyr cymuned a staff
Outward Bound ar y safle i drafod y sefyllfa.
Amlygwyd bod y cyfarfod wedi bod yn un
gwerthfawr ar prif bryderon wedi
eu hamlygu.
-
Bod
angen datrysiad tymor hir a chynllun
priodol yn ei le
-
Ymddengys 18mis yn gyfnod hir – yn
ddelfrydol adeiladu pont newydd i’w
gosod mewn un symudiad
-
Bod
cydweithio gyda Network
Rail yn rhan allweddol o’r datrysiad
Mewn ymateb i’r gwaith
sydd wedi ei wneud o gwmpas
Lloc y Pysgotwyr nodwyd bod y ffens sydd wedi ei
godi o amgylch y lloc yn un
o ansawdd da, yn uchel i atal
tipio slei bach ac wedi ei
gloi. Croesawyd y gwaith caled oedd
wedi ei wneud
i dacluso’r ardal a gofynnwyd am gefnogaeth gan y gymuned i gadw’r
ardal yn daclus. Yn dilyn
trafodaethau gyda’r pysgotwyr, amlygwyd bod oddeutu hanner yr offer pysgota wedi ei drosglwyddo
o’r harbwr i’r lloc. Ategwyd
mai’r bwriad yw cylchdroi'r offer sydd yn cael
ei ddefnyddio gan storio unrhyw
offer arall yn y lloc. Bydd offer sydd wedi torri
neu offer diangen yn cael ei
wared.
Sylwadau pellach:
-
Bod
yr harbwr yn un gweithredol, yn denu llawer
o ddiddordeb ymysg ymwelwyr ac yn rhan bwysig i
economi a diwydiant yr ardal
-
Bod
angen sicrhau bod y safle yn cael
ei gynnal a’i gadw yn
rheolaidd
-
Bod
angen cydweithio gyda’r pysgotwyr masnachol - dyma eu bywoliaeth
Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â safle swyddfa’r harbwrfeistr amlygwyd yr angen
i uwchraddio’r swyddfa er lles
y staff. Ategwyd nad oedd y cyfleusterau yn ddigonol. Cytunwyd bod lleoliad y swyddfa yn addas, ond
yn ddelfrydol bod angen swyddfa gydag
ail lawr i wella gwelededd ar draws yr harbwr
a’r aber. Yn y cyfamser cynigwyd
gosod teledu cylch cyfyng fel
datrysiad. Awgrymwyd defnyddio swyddfeydd sydd ar osod
gan Uned Eiddo'r Cyngor sydd wedi eu lleoli
gerllaw yr Harbwr ar gyfer
cyfleusterau toiled.
Mewn ymateb i’r digwyddiadau
a gynhaliwyd, gwnaed sylw bod digwyddiad Nofio Aberdyfi yn un sydd wedi
ei drefnu yn dda gyda’r
trefnwyr yn rhoi ystyriaeth deg i ddiogelwch
yr harbwr. Er bod y trefnwyr yn barod iawn
i gydymffurfio gyda mesurau diogelwch,
teimlwyd bod modd cynnal trafodaethau pellach i wella’r
trefniadau.
Ategwyd bod digwyddiad elusennol ‘Watercrat Blackrock Blast’ wedi codi hyd at £10k ar gyfer Ambiwlans
Awyr. Nodwyd bod oddeutu 100 o feiciau dwr wedi cymryd
rhan a bod gwaith da wedi ei wneud
i hyrwyddo diogelwch yn y dŵr.
Diolchwyd i bawb am eu
hymroddiad i gynnal a threfnu digwyddiadau
PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiadau.
Dogfennau ategol: