Cyflwyno adroddiad yr Arweinydd (ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn gwahodd y Cyngor i gymeradwyo’r
trefniadau craffu ar gyfer gweithgaredd y Cyd-bwyllgor Prosiect Twf (“Bwrdd
Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru”) i’w ymgorffori yn y Cytundeb Llywodraethu
cam cyntaf.
Ar gychwyn y drafodaeth, diolchwyd i’r Arweinydd a’r Cyfarwyddwr
Corfforaethol am eu gwaith yn y maes hwn ac am fod yn llais cryf dros
Wynedd. Nodwyd mai dyma’r cynllun
pwysicaf a ddeuai gerbron y Cyngor hwn, ac o lwyddo, byddai’n creu swyddi lawer
i bobl ifanc ein hardaloedd. Gan hynny,
‘roedd yn bwysig bod pawb yn cefnogi hyn, waeth beth fyddai’r gost i’r Cyngor
hwn.
I’r gwrthwyneb,
mynegwyd amheuon dybryd am y cynllun ar sail nifer o risgiau ariannol a
gwleidyddol. ‘Roedd Llywodraethau San
Steffan a Chymru yn hapus i glymu Gogledd Cymru gyda Gogledd Orllewin Lloegr,
er y byddai’n llawer mwy synhwyrol a naturiol i Wynedd gydweithio gyda siroedd
Gorllewin Cymru, a byddai siroedd fel Wrecsam a Fflint yn cysylltu a Phwerdy’r
Gogledd. Pryderid am yr effaith ar yr
economi wledig a’r ffaith y byddai’r cynllun yn boddi Gwynedd yn economaidd, yn
ddiwylliannol ac yn ieithyddol. Hefyd,
‘roedd risg sylweddol ynghlwm â dirprwyo’r hawl i un person arwain ar y gwaith
yng Ngwynedd, waeth pwy fyddai yn y swydd honno i’r dyfodol. Ar sail hyn i gyd, erfyniwyd ar yr aelodau i
beidio â chefnogi’r cynllun. Mewn
ymateb, nododd yr Arweinydd ei fod yn gwrthod y syniadaeth o gilio, codi
amddiffynfeydd a gwrthod gwneud dim â phawb arall, ac i fod yn ffyniannus yn y
byd modern, ‘roedd rhaid i Wynedd fod yn hyderus ac yn barod i gydweithio gyda
holl siroedd y Gogledd.
Mewn ymateb i sylwadau pellach a chwestiynau gan aelodau, nododd yr
Arweinydd:-
·
Iddo atgoffa’r Ysgrifennydd Gwladol o’i fethiannau diweddar
i ddenu buddsoddiad i Gymru a bod dyfodol yr Ysgrifennydd Gwladol yn ddibynnol
ar lwyddiant y cynllun hwn.
·
Nad oedd y cwestiwn o drethi busnes yn rhan o’r
mater dan sylw, ond ei fod yn ymwybodol o’r pryderon a bod y sector breifat yn
rhan ganolog o’r holl drafodaethau.
·
Ei fod yn ymwybodol iawn o broblemau economaidd yr
ardaloedd gwledig ac er na allai’r Cynllun Twf fod yn ateb i bopeth, y byddai
ef, ynghyd â’r arweinwyr eraill, yn lleisio barn gref dros brosiectau fydd yn
cael effaith ar draws cefn gwlad.
·
Mai nod y Cynllun Twf a strategaeth y Cyngor hwn
oedd cynyddu sgiliau pobl Gwynedd yn hytrach na bod yr arian yn mynd allan o’r
ardal i’r cwmnïau mawr.
·
Er nad oedd yna gynllun yn ymwneud ag
amaethyddiaeth yn uniongyrchol, y cydnabyddid pwysigrwydd sicrhau mewnbwn y
ddwy undeb amaethyddol i’r prosiect, yn enwedig o ystyried goblygiadau Brexit.
·
Nad
oedd cymeradwyo’r trefniadau yn golygu arwyddo unrhyw siec wag. Er ei fod yn deall bod yna elfen o sinigiaeth
am y cynllun hwn, o gofio am aflwyddiant rhai o gynlluniau’r gorffennol, ni
olygai hynny na ddylid ceisio manteisio ar yr hyn sy’n cael ei gynnig y tro
hwn.
·
Na allai wneud penderfyniad ar nifer o faterion heb
gymeradwyaeth y Cyngor llawn.
·
Bod y Cynllun Twf wedi arwain at gytundeb
gwleidyddol ar draws y Gogledd.
PENDERFYNWYD
cymeradwyo’r trefniadau craffu ar gyfer gweithgaredd y Cyd-bwyllgor Prosiect
Twf (“Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru”) i’w ymgorffori yn y Cytundeb
Llywodraethu cam cyntaf.
Dogfennau ategol: