Agenda item

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad.

Cofnod:

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“A oes arian yn weddill gan yr Adran Gynllunio wrth weithredu swm cymudol ar ddatblygwyr?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cynllunio, y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“Yn fras, y cwbl ydi hyn yw cyfraniadau gan ddatblygwyr mewn perthynas â datblygiadau mawr lle mae yna gyfraniad tuag at welliannau yn lleol.  Er enghraifft, mae yna £1.2m o gyfraniad gan gwmni Redrow yn ymwneud â stad dai mawr ym Mangor ac mae’r rhan fwyaf o hwnnw yn mynd tuag at addysg yn y ddinas.  Felly, i ateb y cwestiwn, ‘rwy’n credu bod yna tua £1.95m o gyfraniadau wedi dod i mewn dros y blynyddoedd diwethaf yn gyfan gwbl, yn cynnwys yr arian Redrow.  Wedyn, mae yna rywfaint o arian heb ei wario, ond mae hwnnw wedi ei glustnodi a bydd yn cael ei wario’n bwrpasol ac mae’r holl drefn, wrth gwrs, yn cael ei reoli gan gytundebau 106.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Ydi’r Aelod yn cytuno gyda mi bod y Cynllun Datblygu Lleol yn gyfle i osod mwy o symiau cymudol ar ddatblygiadau ar gyfer rhoi’n ôl i’r cymunedau ar draws Gwynedd?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cynllunio, y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“Nid yw’n bosib’ defnyddio’r symiau yma ar gyfer unrhyw beth heblaw am rywbeth sy’n ymwneud â cheisiadau cynllunio.  Dyna ydi ei bwrpas a dyna sy’n rheoli’r drefn yn fan hyn ac ‘rwy’n siŵr bod y drefn gynllunio yn manteisio yn gyfan gwbl ar yr arian yma o fewn beth sy’n cael ei ganiatáu.”

 

(2)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Cai Larsen

 

“Gyda Chanolfannau Hamdden Gwynedd yn cael eu trosglwyddo i Gwmni Cyfyngedig yn yr Hydref, a oes cynnydd wedi bod yn y gwaith o sefydlu’r Cwmni?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Craig ag Iago

 

“Fel ‘rydych chi’n gallu gweld, mae popeth wedi mynd yn iawn felly mae’n bleserus iawn sefyll o flaen pawb heddiw hefo adroddiad positif iawn.  Mae’r cwmni wedi cael ei gofrestru, mae’r Bwrdd Cysgodol yn ei le ac yn weithredol ac ‘rydym yn mynd drwy’r broses TUPE hefo’r staff ar hyn o bryd.  Eto, mae’r ymgynghoriad yma yn bositif iawn ac mae’r undeb wedi bod yn rhan o’r broses o’r cychwyn.  Mae nhw’n ei gefnogi, mae’r staff yn ei gefnogi a hefyd mae’r staff i gyd wedi bod yn rhan o’r broses o ddylunio’r cynlluniau busnes.  ‘Rydym yn dysgu llawer ac mae eu barn hwy yn mynd i fod yn rhan o sut bydd y cynllun yn cael ei redeg.  Mae wedi bod yn ffantastig.  Yr unig beth ‘rydw i’n pryderu amdano ydi’r amserlen, mae’n dynn, mae yna lawer o waith - nid ydw i’n gweld y staff yn cael gwyliau haf.  Os oes yna unrhyw gwestiynau ar ôl y cyfarfod, ‘rydw i’n hapus iawn i drafod.”

 

(3)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd

 

“Faint o adnoddau Cyngor Gwynedd mewn amser y swyddogion ac mewn arian parod sydd wedi’i gyfrannu ac sydd i’w gyfrannu eto tuag at sefydlu a hyfywdra Cynllun Twf y Gogledd?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Mae pob un o gynghorau’r Gogledd wedi cytuno i gyfrannu £50,000 at waith sefydlu swyddfa rhaglen maes o law ac mae’r ddau goleg addysg bellach a dau sefydliad addysg uwch hefyd yn cyfrannu £25,000 yr un at y gwaith hwnnw.  Mi fuaswn i’n mentro dweud ei bod hi’n anodd iawn mesur mewn oriau nac mewn arian faint ‘rydw i wedi rhoi i mewn iddo.  ‘Rydw i wedi ymrwymo i’n partneriaid yn y Gogledd fy mod yn barod i’w cynrychioli hwy yn y gwahanol drafodaethau ‘rydym yn eu cynnal.  ‘Roeddwn yn digwydd bod yn Llundain ddoe yn cael trafodaeth gyda’r gweinidog perthnasol.  Hefyd, wrth gwrs, mae yna staff o’r holl gynghorau wedi cyfrannu at y gwaith cefndir yn y fan hyn.  Mae ein Trysorydd wedi cyfrannu at y gwaith ar yr ochr cyllidol ac mae ein Swyddog Monitro wedi bod yn rhan o dynnu allan y cytundeb llywodraethu, sydd ar y rhaglen heddiw.  Felly mae yna waith sylweddol yn digwydd ac mae pob un cyngor, yn ei dro, yn cyfrannu at y gwaith, ond ‘rydym, ar hyn o bryd, yn cymryd rôl arweiniol, ac ‘rwy’n credu bod hynny’n bwysig.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd

 

“Yn wyneb y ffaith bod chwarter amser y Pennaeth Economi a Chymuned yn mynd tuag at y cynllun yma a hanner gwaith y Cyfarwyddwr Corfforaethol, pwy sy’n gwneud eu gwaith hwy yn eu habsenoldeb?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Mae gennym wasanaeth adfywio’r economi, ac ‘rydym wedi cael cyfarfod hefo’r Prif Weithredwr, er enghraifft, i sicrhau ein bod yn alluog i fedru caniatáu i’n Cyfarwyddwr wneud y gwaith yma, ac mae hwn yn waith pwysig all ddwyn budd sylweddol i’r Cyngor yma i’r dyfodol.  ‘Rydw i’n meddwl ei fod yn werth y buddsoddiad.  Os ydych yn credu fel arall, iawn, ond dyna fy marn i.  ‘Rydw i’n credu ei bod yn bwysig bod ni’n ymrwymo cymaint ag y gallwn fel y medrwn ddweud bod y cais yma yn llwyddo er budd, nid yn unig trigolion Gwynedd, ond holl drigolion Gogledd Cymru.  Mae hynny’n rhan o’n cyfrifoldeb ni i gyd ac mae’n rhan hefyd, wrth gwrs, o waith dydd i ddydd ein swyddogion, ein gwasanaeth economi a’n Cyfarwyddwr hefyd”.