Agenda item

Cais diwygiedig i ddymchwel annedd presennol ac adeiladu annedd newydd yn ei le ynghyd a gwaith cysylltiol.

 

 

AELOD LLEOL:        Y Cynghorydd Anwen J Davies

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol  

Cofnod:

Cais diwygiedig i ddymchwel annedd presennol ac adeiladu annedd newydd yn ei le ynghyd a gwaith cysylltiol

 

(a)   Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi y gohirwyd y cais hwn ym Mhwyllgor Cynllunio Chwefror 2015 er mwyn derbyn gwybodaeth angenrheidiol o ran ystlumod ac i dderbyn adroddiad technegol i gyfiawnhau pam nad yw’n bosib lleoli’r tŷ yn agosach at leoliad y tŷ presennol.  Golyga’r bwriad i ddymchwel annedd presennol ac adeiladu annedd newydd yn ei le ar leoliad gwahanol o fewn eiddo 1-3 Arddgrach, Llannor, ynghyd a gwaith cysylltiol, a oedd yn cynnwys byngalo gromen gyda thair ystafell wely, gyda’i wyneb blaen yn wynebu’r de ddwyrain.  Byddai’r tŷ wedi ei orffen gyda tho llechi ac wyneb rendr llyfn wedi ei beintio.  Bwriedir creu mynedfa newydd ar safle’r tŷ presennol, gan ymestyn trac o ymyl y gerbydlon i’r tŷ a throi i gyfeiriad giat mynedfa i’r cae cyfochrog.  Gwrthodwyd cais y llynedd i ddymchwel yr annedd a chodi tŷ newydd o’r un dyluniad a’r cais hwn ond ymhellach i mewn i gefn y llain.  Cyfeiriwyd at y polisiau perthnasol o fewn yr adroddiad ynghyd a’r ymatebion i’r ymgynghoriadau cyhoeddus.  O safbwynt egwyddor y datblygiad, nodwyd nad oedd y bwriad yn cydymffurfio a holl meini prawf polisi CH13 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd.  Er bod materion ystlumod wedi ei ddatrys drwy gyflwyno gwybodaeth ychwanegol, ystyrir bod y swyddogion cynllunio o’r farn bod lleoliad a gosodiad y tŷ annedd arfaethedig yn anaddas ac yn groes i egwyddor polisiau tai, dylunio Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd. Er bod potensial i ddatblygu’r safle, ni ystyrir fod yr ail gyflwyniad gerbron yn dderbyniol ac yn seiliedig ar y wybodaeth ychwanegol a’r cynlluniau a gyflwynwyd argymhellir i wrthod y cais.

 

(b)  Nododd yr Aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y prif bwyntiau canlynol o blaid y cais:

 

·         Tra’n derbyn bod y lleoliad wedi newid pwysleiswyd ni ellir adeiladu ar yr un sylfeini oherwydd cyflwr y tir o ran llifogydd o godiad tir y tu ol i’r tai

·         Cefnogwyd yr uchod mewn adroddiad annibynol oddi wrth Mr Phil Jones, arbenigwr mewn rheolaeth draenio a llifogydd, a oedd yn nodi, yn dilyn archwiliad, bod y wal gynnal yn gollwng dwr ac yn arllwys i lawr y ffordd.  Roedd tystiolaeth o  dryddiferiad afreolus mewn sawl lleoliad ac y byddai’n annoeth i ystyried ailosod yr annedd ar safle’r tŷ presennol oherwydd ei agosrwydd i’r wal gynnal a natur gwlyb y tir.  Rhaid i’r tŷ fod wedi ei leoli oddi wrth y wal gynnal a’r problemau draenio cysylltiol.

·         Bod tai cymysg eu mhaint wedi eu hadeiladu ym mhentref Llannor ac yn gweddu o fewn y pentref

·         Bod trigolion y pentref yn gefnogol i’r cais ac y byddai’n welliant aruthrol i’w leoli ar safle hen sied amaethyddol

·         Bod yr ymgeisydd yn lleol – yn nain gyda theulu o’i chwmpas

·         Bod yr holl ymgynghoriadau cyhoeddus yn gefnogol i’r cais

 

(c)  Cynigwyd ac eilwyd i’w ganiatau yn erbyn argymhelliad y swyddogion Cynllunio.

 

         (ch)         Nodwyd y prif bwyntiau canlynol o blaid ei ganiatau:

 

·         Bod y cynllun yn welliant ac nad oedd ei adeiladu ar leoliad y tŷ presennol yn addas o ystyried barn yr arbenigwr annibynnol ar reoli draenio

·         Y dylid bod ychydig yn hyblyg er mwyn cefnogi tai yng nghefn gwlad ar gyfer bobl leol

·         Bod y cais yn cydymffurfio a meini prawf 1, 2 4 a 5 o bolisi CH13 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd ac er nad oedd yn cydymffurfio a maen prawf 3 (sef bod yr uned newydd yn cael ei leoli ar safle’r uned gwreiddiol neu cyn agosed ag sy’n ymarferol bosibl), derbyniwyd tystiolaeth ac eglurhad gan yr ymgeisydd o’r rhesymau pam bod angen ad-leoli’r tŷ ar safle’r sied amaethyddol ac nad oedd yn ymwthiol ar y safle hwn

·         Bod ôl-troed y tŷ presennol yn gul ac na fyddai adeiladu tŷ arno yn ymarferol i ddibenion teulu

 

(d)  Nodwyd y pwyntiau canlynol yn erbyn caniatau’r cais:

 

·         Nad oedd digon o dystiolaeth gerbron pam na ddylid adeiladu’r tŷ arfaethedig ar sylfeini’r annedd presennol

·         Y byddai gwerth y tŷ ar y farchnad agored yn uwch ac y dylid gwarchod cynaldwyedd y tŷ i’r dyfodol 

·         Oherwydd nad oedd y bwriad yn cydymffurfio a pholisi CH13, y byddai’r tŷ araethedig ar safle arall yn cael ei ystyried fel tŷ newydd ac y dylai tai newydd yng nghefn gwlad fod yn rhai fforddiadwy

 

 

         (dd) Pleidleiswyd ar y cynnig i’w ganiatau ac fe gariodd y cynnig hwn.

 

Penderfynwyd:                      Caniatau’r cais yn unol a’r rhesymau amlinellir yn (ch) uchod ac i amodau cynllunio perthnasol a bennir gan yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio.

Dogfennau ategol: