Newid defnydd adeilad presennol i greu caffi a bwyty a chreu 29 unedau byw hunan gynhaliol myfyrwyr, ynghyd a dymchwel rhan o'r adeiladau cefn a chodi adeilad newydd i greu 116 unedau byw hunan gynhaliol myfyrwyr gyda chyfleusterau cysylltiol.
AELOD LLEOL: Y Cynghorydd David Gwynfor Edwards
Cofnod:
Newid defnydd adeilad
presennol i greu caffi a bwyty a chreu 29 unedau byw hunan gynhaliol myfyrwyr,
ynghyd a dymchwel rhan o'r adeiladau cefn a chodi adeilad newydd i greu 116
unedau byw hunan gynhaliol myfyrwyr gyda chyfleusterau cysylltiol
Roedd 6 Aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio wedi ymweld a’r safle.
(a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais gan nodi y gohirwyd y cais o Bwyllgor Cynllunio ym
mis Gorffennaf 2016 er cynnal ymweliad safle a chywiro ffigyrau yn yr
adroddiad. Golyga’r bwriad newid defnydd
ac addasu adeilad presennol i greu caffi a bwyty a chreu 29 uned hunan
cynhaliol ar gyfer myfyrwyr o fewn yr adeilad presennol, ynghyd a dymchwel rhan
o’r adeiladau cefn presennol a chodi adeilad newydd I greu 116 o unedau hunan
cynhaliol newydd, sef cyfanswm o 145 o unedau byw hunan cynhaliol ar gyfer
myfyrwyr. Nodwyd bod y datblygiad yn cynnwys ardal biniau ac ailgylchu wrth
ochr yr adeilad a fydd yn guddiedig tu ol i wal ynghyd a chreu 2 ardal storio
beics ond nid oedd unrhyw ddarpariaeth parcio yn rhan o’r bwriad. Nodwyd bod sawl adeilad wedi eu codi dros y
blynyddoedd ar gefn yr adeilad a bwriedir eu dymchwel er mwyn bodi adeilad
newydd pum llawr. Byddai’r adeilad
newydd yn un ar wahan i’r prif adeilad ond yn gysylltiedig drwy linc gwydr ar
yr ochr, a llecyn agored rhwng yr adeilad gwreiddiol a’r adeilad hwn.
Cyflwynir cais adeilad
rhestredig ond byddai’n rhaid ymdrin a’r cais hwn ar wahan sef yr eitem nesaf
ar y rhaglen.
Tynnwyd sylw at y sylwadau
hwyr a dderbyniwyd gan asiant yr ymgeisydd a hefyd derbyniwyd sylwadau gan yr
Aelod Lleol yn datgan ei gefnogaeth i’r bwriad arfaethedig.
Nodwyd bod yr adeilad yn
rhestredig ac wedi ei leoli o fewn Ardal Cadwraeth Bangor. Ychwanegwyd bod yr adeilad yn wag yn dilyn
defnydd fel clwb nos a deintyddfa. Ceir
adeilad sylweddol mewn maint o amgylch yr adeilad ond nodwyd bod nifer o
adeiladau rhestredig sy’n cynnwys y Llyfrgell sydd wedi ei leoli tu ôl i’r
safle. Cyfeirwyd at y polisiau perthnasol
ynghyd a’r ymatebion i’r ymgynghoriadau cyhoeddus o fewn yr adroddiad.
O safbwynt egwyddor yng
nghyswllt llety myfyrwyr ym Mangor, esboniwyd nad oedd un polisi penodol yn
ymwneud a math yma o lety ond pwysleiswyd nad oedd y Cynllun Dablygu Unedol yn
rhwystro y math yma o lety.
Nodwyd bod y safle o fewn
ffin datblygu gan nodi bod y math yma o ddatblygiadau yn dderbyniol a bod y
safbwynt wedi ei gadarnhau gan Arolygwyr mewn penderfyniad apel yn Lon
Bopty. Cydnabyddir bod y safle mewn
ardal hygyrch, yn agos i siopau, cludiant cyhoeddus ac adeiladau y
Brifysgol. Felly o ran safle, roedd y
swyddogion cynllunio o’r farn bod y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor.
Nodwyd bod y bwriad o
ddarparu caffi a bwyty yn dderbyniol yn ddarostyngedig i ychwanegu amod
ychwanegol sef A3 yn cyfyngu’r bwriad i’w hatal i’w newid i ddefnydd A1 sef
siopau heb ganiatad cynllunio oherwydd bod y safle tu allan i ffin diffiniedig
Bangor.
Ystyrir bod y bwriad o
ail-ddefnyddio ac addasu adeilad rhestredig i’w groesawu ac yn fodd o sicrhau
defnydd i’r dyfodol ond bod gwarchod edrychiad adeiladau rhestredig yn
ddyletswydd statudol ac felly byddai’n rhaid pwyso a mesur yn ofalus rhwng yr
anghenion hyn.
Nodwyd bod yr adeilad cefn
yn sylweddol o ran maint ac yn fodern ond ni chredir ei fod yn amharu’n
niwedidiol ar edrychiad, cymeriad na gosodiad yr adeilad rhestredig na’r ardal
gadwraeth oherwydd ei leoliad yn y cefn fel estyniad is-wasanaethol. Bydd yr
adeilad gwreiddiol a’r Llyfrgell yn aros fel prif ffocws o’r strwythur gyda’r
estyniad yn y cefn yn gweddu i’r cefndir. Ni ystyrir felly y byddai’r
datblygiad yn niweidiol i osodiad yr adeiladau rhestredig. Tynnwyd sylw at y rhestr amodau sy’n gofyn am
gytundeb ar y gorffeniadau ac nad oedd y swyddogion cynllunio yn hollol gyfforddus
gyda’r lliwiau a deunyddiau sydd wedi eu cynnig ond byddai modd cytuno arnynt
drwy amodau priodol.
Nodwyd bod yr Uned
Trafnidiaeth wedi codi pryder ynglyn a diffyg llecynnau parcio ac yn crybwyll y
dylid rhwystro tenantiaid llety rhag defnyddio ceir yn ystod eu hamser ym
Mangor ac y byddai modd sicrhau hyn drwy amod cynllunio.
Derbyniwyd asesiad
ieithyddol a chymunedol gyda’r cais ac fe nodwyd bod Uned Bolisi Cynllunio ar y
Cyd o’r farn na fyddai’r datblygiad yn debygol o achosi tyfiant sylweddol yn y
boblogaeth a all effeithio’n andwyol ar yr iaith Gymraeg.
Derbyniwyd gwrthwynebiadau
cychwynnol gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Dwr Cymru ond bellach maent wedi eu
tynnu’n ôl yn seiliedig ar amodau perthnasol I lefel llawr gorffenedig a
chytuno cynllun delio gyda draenio’r safle.
Argymhelliad y swyddogion
Cynllunio ydoedd caniatau yn ddarostyngedig i amodau perthnasol ynghyd ag amod
ychwanegol A3 i gyfyngu defnydd y bwyty.
(b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd y
gwrthwynebydd y prif bwyntiau isod:
·
Pryderon am y cynnig ar ran Cyngor Dinas Bangor sydd yn gwrthwynebu'n
ddieithriad ar y sail ei fod yn or-ddatblygiad o'r safle
• Bod y safle yn anaddas oherwydd ei fod yn adeilad canolog o fewn y ddinas
• Bod gan yr hen swyddfa bost ansawdd ei hun ac wedi ei restru ac ni fyddai'r
datblygiad arfaethedig yn ddefnydd gorau o adeilad rhestredig
• Mae'r adeilad o ddyluniad pensaernïol arbennig ac mae ei harddwch yn weladwy
iawn wrth fynd i mewn i'r ddinas
·
Nad oedd angen llety arall i fyfyrwyr oherwydd diffyg galw amdano
• Bod y LLyfrgell wedi ei leoli yng nghefn y safle sydd yn adeilad arall deniadol rhestredig yn
ogystal â chyn Amgueddfa y Cyngor Sir a'r hen neuadd y dref
• Pe byddir yn caniatau’r datblygiad hwn, byddai yn cael effaith andwyol ar yr
ardal oherwydd ei gymeriad, maint a sŵn posibl
• Bod y datblygiad arfaethedig yn ormesol ac allan o gymeriad o fewn yr ardal
·
Nad oedd darpariaeth parcio yn y cyffiniau - ei bod yn ardal brysur
iawn, yn agos at y safle tacsi a'r orsaf bysiau ac yn sicr yn achosi cynnydd
mewn traffig a fydd yn broblem sylweddol yn enwedig o ystyried datblygiad o 145
o unedau a chaffi
• Ymddengys nad oedd polisi cynllunio cydlynol ar ddyrannu llety myfyrwyr ac yn
arwain at fanylebau achlysurol fel y cais hwn ac nad ydynt yn cydweddu â'r
amgylchedd
(c) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd
asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau isod:
·
Tra’n
cydnabod ei fod yn safle arbennig ac yn rhestredig, sicrhawyd bod trafodaeth
helaeth wedi digwydd gyda’r swyddogion Cynllunio a’r trafodaethau yn
parhau
·
Bod
swyddog CADW wedi bod yn rhan o’r drafodaeth a chadarnhawyd eu bod yn gefnogol i’r datblygiad
·
Tra’n
ymwybodol bod pryder am y nifer o safleoedd ar gyfer llety myfyrwyr, sicrhawyd
bod ymchwiliad trylwyr wedi ei wneud i’r angen a chydnabyddwyd hyn drwy
ystadegau gan y swyddogion cynllunio
·
Yn
sicr fe fydd amser pan fydd gormodedd o lety myfyrwyr ond ar hyn o bryd roedd
angen y math yma o ddatblygiad
·
Ers
i’r swyddfa bost symud nodwyd bod amryw o ddefnydd i’r adeilad sef clwb nos a
lle bwyta, meddygfa deintyddol, tŷ bwyta a swyddfeydd ac nid oedd run wedi
llwyddo ac felly angen cael adeilad cynaliadwy a dichonadwy
·
Bod
y datblyiad arfaethedig yn gyfle i groesawu’r angen ac i greu a chodi safonau byw sydd yn diogelu dyfodol y safle
hwn.
(ch) Cynigwyd ac eilwyd i
ganiatau’r cais.
(d) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, nodwyd y pwyntiau canlynol o blaid caniatau’r cais:
·
Yn
dilyn ymweld a’r safle ymddengys bod y datblygiad tu cefn yn addasu i fewn i’r
cynllun rhestredig
·
Bod
adroddiad cynhwysfawr gerbron gyda llawer o amser wedi ei dreulio gan y swyddogion cynllunio I sicrhau bod y
datblygiad yn cydymffurfio a gofynion ond yn cwestiynu
pam nad oedd sylwadau Cadw yn ffurfio rhan o’r adroddiad.
·
Yn
aml ceir honiadau bod darpariaeth digonol ar gyfer llety myfyrwyr ym Mangor ond
yn anffodus nid oedd tystiolaeth a bron yn ddi-eithriad bod Cyngor Dinas Bangor
yn gwrthod datblygiadau o’r fath
·
Pwysleiswyd
bod Bangor yn ddibynnol ar fuddsoddiad myfyrwyr o ran yr economi a bod yn rhaid
darparu llety iddynt
·
Pwysigrwydd
i ddiogelu beth sydd yna’n barod
·
Pe
byddir yn gosod amodau perthnasol, ni welir y gellir gwrthod y datblygiad
(dd) Nodwyd y
pwyntiau canlynol yn erbyn yr argymhelliad i’w ganiatau :
·
Tra’n
gefnogol i’r bwriad o drosi’r cyn Swyddfa Bost, byddai caniatau’r adeilad
newydd a’r estyniad yn weithred o fandaleiddio adeilad hanesyddol
rhestredig ym Mangor
·
Pryder
ynglyn a’r deunyddiau sef y paneli sinc a’r defnydd o brics
·
Pryder
ynglyn a diffyg llefydd parcio a chwestiynwyd a fyddai rhwystro tenantiaid
llety rhag defnyddio ceir
yn ystod eu hamser ym Mangor yn ddadl wan ac y byddent yn parcio ceir ar
strydoedd eraill
·
Dyfynnwyd
polisiau y polisiau canlynol: B2 sydd yn
nodi y dylid sicrhau nad yw
cynigion yn achosi niwed
arwyddocaol i gymeriad pensaerniol neu hanesyddol arbennig Adeiladau
Rhestredig; B3 sy’n nodi y dylid sicrhau nad yw cynigion yn cael effaith ar
osodiad Adeiladau Rhestredig oni bai eu bod yn cydymffurfio a chyfres o feini
prawf sydd yn anelu i warchod cymeriad arbennig yr Adeilad Rhestredig a’r
amgylchedd lleol; B4 sy’n nodi y dylid sicrhau nad yw cynigion o fewn neu sy’n
effeithio ar osodiad ardaloedd cadwraeth yn cael eu caniatau oni bai eu bod yn
anelu i gynnal neu gyfoethogi cymeriad neu olwg yr ardal gadwraeth a’i gosodiad
·
Pryder
nad oedd ystyriaeth wedi ei roi i’r Ardal Gadwraeth ac y byddai’r datblygiad
arfaethedig nid yn unig yn
effeithio ar y Llyfrgell ond hefyd yr adeiladau rhestredig eraill sydd wedi eu
lleoli’n agos i’r datblygiad arfaethedig sef y Brifysgol, Y Gadeirlan, Canolfan
yr Esgobaeth, a’r Neuadd Goffa
·
Ni
ellir cefnogi’r cais oherwydd nad yw yn cydymffurfio a pholisiau B2, B3, a B4 o
bolisiau’r Cyngor I ddiogelu adeiladau hynafol
(e) Mewn ymateb, cydnabuwyd y
sylwadau gan yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio gan nodi mai dyluniad sydd
wastad yn hollti barn a bod llawer o bryderon wedi eu codi gan Aelodau yng
nghyd-destun polisiau. Cadarnhawyd ni dderbyniwyd sylwadau ffurifol gan CADW. Nodwyd bod rhwydd hynt i’r Pwyllgor
fynegi barn ond bod argymhelliad y
swyddogion cynllunio yn gadarn. Derbyniwyd bod y pryderon yn ymwneud a’r
dyluniad ac ddim yn cyfeirio at y defnydd nac ychwaith yr angen. Atgoffwyd y
Pwyllgor y caniatwyd tri penderfyniad apêl yn ddiweddar gyda chostau yn erbyn y
Cyngor ar ddau ohonynt, sef yn Lon Bopty, Three Crowns a’r Railway Institute,
gyda’r tri cais yn ymwneud a’r math yma o ddatblygiadau llety ar gyfer
myfyrwyr. Pwysleiswyd felly i’r
Pwyllgor y dylid sicrhau rhesymau dilys dros wrthod fel y gellir eu hamddifffyn mewn apêl. Nodwyd ymhellach bod risg o ran costau hefo’r
math yma o reswm yn isel oherwydd profiadau blaenorol.
(f)
Pleidleiswyd
ar y cynnig i’w ganiatau ond fe syrthiodd y cynnig hwn.
(ff) Cynigwyd, eilwyd a pleidleiswyd i’w wrthod
oherwydd y byddai’r elfennau o’r adeilad newydd a’r estyniad yn cael effaith ar
raddfa, maint, deunyddiau, gosodiad yr adeilad rhestredig presennol ac effaith
niweidiol ar ardal gadwraeth sydd yn
groes i bolisiau B2, B3 A B4 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd.
Penderfynwyd: Gwrthod y cais oherwydd byddai’r elfennau
o’r adeilad newydd a’r estyniad yn cael effaith ar raddfa, maint, deunyddiau,
gosodiad yr adeilad rhestredig presennol ac effaith niweidiol ar ardal
gadwraeth sydd yn groes i bolisiau B2,
B3 A B4 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd.
Dogfennau ategol: