Agenda item

Newid defnydd ty annedd yn dy amlfeddianaeth (HMO) ar gyfer hyd at 5 o bobl.

 

 

AELOD LLEOL:        Y Cynghorydd Lesley Day

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol 

 

Cofnod:

         Newid defnydd tŷ annedd yn amlfeddianaeth (HMO) ar gyfer hyd at 5 o bobl

 

(a)   Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod yr eiddo yn par wedi ei leoli ar Ffordd Garth Uchaf mewn ardal breswyl yn bennaf.  Nodwyd mai defnydd cyfreithlon presennol yr eiddo ydoedd annedd preswyl preifat gyda 5 ystafell wely ar y llawr cyntaf.  Eglurwyd i’r Pwyllgor ddiffiniad aml-feddianaeth a thynnwyd sylw i’r polisiau Cynllunio perthnasol o fewn yr adroddiad.  O safbwynt yr ymgynhgoriadau cyhoeddus derbynwyd gwrthwynebiadau i’r bwriad am resymau cynllunio dilys isod:

 

·         Diffyg gwybodaeth ynglyn a pharcio

·         Pryder bod problemau parcio eisoes ar y stryd

·         Gorddarpariaeth o dai amlfeddiannaeth yn ward Garth

·         Y datblygiad yn niweidiol i fwynderau cymdogion

 

Yn ogystal derbyniwyd sylwadau nad oeddynt yn ystyriaethau cynllunio cyfredol a thynnwyd sylw at y sylwadau hwyr  a dderbyniwyd ar y ffurflen sylwadau ychwanegol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor.

 

Ystyrir bod y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisi CH14 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd ac ni ystyrir y byddai caniatau un uned aml-feddianaeth ychwanegol yn yr ardal yn cael effaith arwyddocaol ar fwynderau cyffredinol na phreswyl yr ardal leol.  O safbwynt materion trafnidiaeth a mynediad, er nad oedd darpariaeth parcio preifat newydd yn rhan o’r bwriad, gan na fyddai cynnydd yn nwysedd defnydd y safle, ni ddisgwylir newid arwyddocaol o safbwynt y galw am barcio a phroblemau trafnidiaeth.   Yn dilyn ystriaeth o’r holl faterion perthnasol credir bod y cais yn dderbyniol ac yn cydymffurfio a pholisiau cynllunio perthnasol ac argymhelliad y swyddogion ydoedd i’w ganiatau gydag amodau.

 

(b)  Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Ei fod yn Gadeirydd Cymdeithas Trigolion Maes Hyfryd ac yn cynrychioli barn trigolion 22 o dai sydd wedi eu lleoli gyferbyn a’r datblygiad arfaethedig

·         Bod llawer o’r preswylwyr yn oedrannus

·         Bod gan yr ardal ei gwota o dai aml-feddiannaeth sef rhifau 52, 54, a 55 yn ychwanegol i Neuaddau Garth a Rathbone sydd wedi eu lleoli oddeutu 200 llath i fyny’r ffordd

·         Ei fod yn ardal o dai teuluoedd 

·         Bod gormodedd o lety myfyrwyr yn yr ardal gyda rhai newydd yn St. Mary, Dean a’r Stryd Fawr ac yn enwedig o ystyried bod ffigyrau myfyrwyr yn gostwng

·         Bod problemau parcio yn bodoli yn yr ardal ac y byddai’r datblygiad arfaethedig yn cynyddu’r broblem gyda staff a myfyrwyr y Brifysgol yn parcio yn yr ardal yn ystod y dydd

·         Bu i Gyngor Gwynedd ychydig o flynyddoedd yn ôl gyfarch y broblem o barcio anghyfrifol yn yr ardal drwy osod llinellau melyn ar hyd un ochr i’r ffordd a rhan o’r ochr arall 

·         Bod oddeutu 139medr rhwng rhifau 42 a 93 cyffordd Love Lane o fannau parcio ar y ffordd ar gyfer 25 cerbyd ond bod 27 o dai ar hyd darn yma o’r ffordd  

·         Gall y datblygiad arfaethedig am 5 llety olygu  5 cerbyd ac ddim darpariaeth parcio ar eu cyfer 

·         Bod unigolyn yn dewis peidio symud ei cherbyd i fynd i siopau oherwydd na fyddai ganddi le i barcio ar ôl cyrraedd yn ôl 

·         Nad oedd y datblygiad yn dderbyniol oni bai bod darpariaeth parcio ar ei gyfer

·         Golygai cael mwy o lety myfyrwyr yn yr ardal leihad mewn incwm treth Cyngor a chynnydd ar wasanaethau’r Cyngor mewn gwaredu ysbwriel, a.y.b.

 

 

(c)  Nododd yr Aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) ei gwrthwynebiad i’r cais am y rhesymau canlynol:

 

·         Bod Garth yn aral breswyl dymunol, ac yn gyrraeddadwy i’r Stryd Fawr a’r Brifysgol  

·         Bod yr ardal yn draddodiadol wedi darparu llety i bobl broffesiynol megis Esgob Bangor, Darlithwyr y Brifysgol a’u teuluoedd  

·         Bod cyfanswm o 11 tŷ aml-feddiannaeth yn Ffordd Garth Uchaf a bod gan llety myfyrwyr dueddiad i glystyru gyda’i gilydd fel mae teuluoedd yn symud allan

·         Tynnwyd sylw bod Rhifau 3, 5, 6, 7, a 9 Ffordd Garth Uchaf wrth y Pier,  37, 39,(yn y canol)  a 52, 54 a 55 oddi ar Love Lane yn lety myfyrwyr

·         Y byddai caniatau ty aml-feddiannaeth arall yn cael effaith negyddol arwyddocaol ar Ffordd Garth Uchaf

·         Cyfeiriwyd at y dystiolaeth fel gwybodaeth gefndirol i’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd sy’n dangos bod 42 allan o 326 uned breswyl yn y ward yn unedau aml-feddiannaeth, ac fe nodwyd bod 3 o’r 22 tŷ ar y ffordd dan sylw yn unedau aml-feddiannaeth yn barod sy’n cyfateb i 13.6%.  Pe byddir yn caniatau’r bwriad gerbron, byddai 18.2% o’r unedau yn dai aml-feddiannaeth. 

·         Noda’r Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd na ddylid cael mwy na 10% yn ardal Garth ac fe ddylid rheoli’r sefyllfa yn fuan os am gael cymdeithas gynhwysol ym Mangor 

·         Bod y datblygiad afraethedig yn creu gor-ddarpariaeth yn yr ardal dan sylw ac yn groes i bolisi CH14 o’r Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd 

·         Y byddai effaith negyddol ar gymeriad cymdeithasol ac amgylcheddol yr ardal yn nhermau sðn, aflonyddwch, ysbwriel ac ail-gylchu

·         Y byddai gan fyfyrwyr geir personol a bod diffyg parcio yn bodoli’n barod ac y byddai ychwanegiad yn creu tensiwn rhwng preswylwyr a chymdogion

·         Gwnaed sylw bod gan ardaloedd Meirionnydd a Dwyfor bryderon gydag ail-gartrefi a bod Bangor gyda’i broblemau hefo llety myfyrwyr 

·         Byddai ei ganiatau yn cael effaith niweidiol arwyddocaol ar fwynderau cyffredinol i’r ardal ac nad oedd y bwriad yn cydymffurfio a pholisi B23 ac y byddai ei gynnig fel cartref teuluol lle mae prinder yn llawer gwell 

 

(d)     Cynigwyd ac eilwyd i ganiatau’r cais.

 

         (dd)  Nodwyd y pwyntiau canlynol o blaid yr argymhelliad i’w ganiatau:

 

·         Anodd derbyn y dadleuon am y rhesymau mathemategol gan bod oddeutu 9,000 o fyfyrwyr sef tua 40% o’r boblogaeth ym Mangor ac nad oedd llety digonol yn bodoli i fyfyrwyr

·         Pawb yn byw yn Bangor yn ddinesydd

·         Gellir ymdrin a phroblemau traffig, ysbwriel drwy wasanaethau’r Cyngor

·         Nad oedd y cais yn cyfeirio y byddai’r tŷ ar gyfer myfyrwyr

 

(e)    Mewn ymateb i ymholiad ynglyn a rhoi cyfyngiad cynllunio i fyryrwyr beidio dod a car i ddinas Bangor, esboniodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio nad oedd y cais yn cael ei gyflwyno fel llety myfyrwyr ac ni fyddai’n rhesymol rhoi amod i gyfyngu defnydd cerbydau.

 

(f)   Nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio ymhellach nad oedd y math yma o ddatblygiad angen caniatad Cynllunio oddeutu 12 mis yn ol ond erbyn hyn bod y polisiau wedi newid yn nehongliad tai amlfeddiannaeth sef unrhyw fath o eiddo i rhwng 3 – 6 person.

 

(ff)  Mewn ymateb i’r pryder parcio, esboniodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu Trafnidiadeth bod y tŷ presennol gydag 5 ystafell wely ac y gallasai bod un cerbyd i bob person sydd yn byw yn yr eiddo ac nid yw o reidrwydd yn golygu y byddai 5 tenant yn dod a cherbyd i’r ddinas.  Yn arferol, nodwyd bod unigolion yn dewis lleoliad sydd gyda chyfleusterau trafnidiaeth cyhoeddus i arbed iddynt orfod cael cerbyd.  Yn ychwanegol, nodwyd nad oedd tystiolaeth o droi y tŷ yn dŷ aml-feddiannaeth yn mynd i fod yn fwy problemus o ran parcio.

        

(g)   Nodwyd y pwyntiau canlynol gan Aelod yn erbyn yr argymhelliad i’w

       ganiatau:

·         Ni ellir cytuno gyda’r ffigyrau ac nad oedd yn cyfleu darlun cywir a chynhwysfawr o Ffordd Garth.

·         Bod ardal yn fwy o lawer na stryd ac nid oedd polisi’r Cyngor yn cyfarch darn bychan o ffordd ac nid oedd yn asesiad cywir o’r sefyllfa.

·         Bod Ffordd Garth Uchaf yn ardal breswyl gydag 11 o dai aml-feddiannaeth yn y rhan uchaf

·         Bod y gofrestr etholiadol diweddar yn nodi 69 tŷ gyda chyplau ac unigolion sengl yn byw ynddynt a’i fod yn ardal sefydlog gyda Chymry enwog o’r byd darlledu a.y.b. wedi byw yno rhan fwyaf o’u bywyd

·         Dyfynwyd polisi CH14 sy’n nodi na ddylai effaith cronnus datblygiadau aml-feddiannaeth gael effaith negyddol ar gymeriad cymdeithasol ac amgylcheddol y stryd neu’r ardal.

·          Bod Ffordd Garth Uchaf ar drobwynt gyda theuluoedd yn symud allan ac fel amlinellir yn y polisi uchod, nid yw’r cyngor yn dymuno gweld hyn yn digwydd ac o’r herwydd roedd yr Aelod o’r farn y dylid gwrthod y cais 

 

(ng)   Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, tynnwyd sylw gan Aelod bod ardaloedd ym

Mangor wedi newid dros gyfnod o flynyddoedd lle roedd tai preswyl ar un adeg, bellach maent yn dai ar gyfer myfyrwyr.  Ychwanegwyd bod un Neuadd Breswyl i fyfyrwyr wedi ei lleoli yn yr ardal dan sylw sydd yn ardal gyda chyswllt naturiol a hynafol gyda’r Brifysgol. 

 

(h)Pleidlesiwyd dros ganiatau’r cais ond fe syrthiodd y cynnig hwn.

 

(i)        Cynigwyd,eilwyd a phleidleiswyd i wrthod y cais oherwydd nad oedd yn cydymffurfio a pholisi C14 o Gynllun Datlbygu Unedol Gwynedd – y byddai’r datblygiad yn cael effaith negyddol cymdeithasol ac amgylcheddol yr ardal.

 

Penderfynwyd: Gwrthod y cais oherwydd ei fod yn groes i bolisi CH14 o Gynllun Dablygu Unedol Gwynedd gan y byddai’r datblygiad yn cael effaith negyddol ar gymeriad cymdeithasol ac amgylcheddol yr ardal dan sylw.

Dogfennau ategol: