Agenda item

Cais amlinellol i godi ty annedd.

 

 

AELOD LLEOL:        Y Cynghorydd Charles Wyn Jones

 

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Cais amlinellol i godi annedd

        

(a)    Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais amlinellol oedd gerbron ar gyfer codi annedd 11m wrth 6m ar lain o dir sy’n ffurfio rhan o gwrtil Bryn Celyn, LLanrug, wedi ei leoli oddi ar ffordd di-ddosbarth. Byddai cwrtil Bryn Celyn yn cael ei addasu i ddarparu dau lecyn parcio.  O safbwynt yr ymgynghoriadau cyhoeddus, derbyniwyd nifer o wrthwynebiadau yn seiliedig ar:

·         Cylfat yn rhedeg drwy’r safle

·         Achosi risg llifogi i’r tai a’r cae cyfagos

·         Dim lle troi wedi ei ddangos o fewn y cwrtil

·         Angen darparu llefydd parcio newydd i’r presennol a’r araethedig

           

Tynnwyd sylw at y polisiau Cynllunio perthnasol gan nodi bod y bwriad arfaethedig yn cydymffurfio a gofynion y polisiau hynny.  O safbwynt materion isadeiledd a’r gwrthwynebiadau ynglyn a llifogydd, byddai modd gosod amod i sicrhau na ellir cychwyn y datblygiad hyd nes cyflwynir cynllun traeniad dwr ar gyfer y safle sydd yn gwarchod y cwrs dwr ac yn cydymffurfio ag anghenion Dðr Cymru.  Yn dilyn rhoi sylw i’r holl ystyriaethau a’r gwrthwynebiadau, ystyrir bod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig i amodau perthnasol.

 

(b)   Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd gwrthwynebydd tra nad oedd yn wrthwynebus i’r datblygiad roedd yn pryderu am risg o lifogydd gyda’r cylfat wedi blocio ers rhai blynyddoedd ac y dylid ei ddatrys cyn caniatau’r cais.

 

(c)  Ategodd yr Aelod Lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) bryderon y gwrthwynebydd a thrigolion lleol ac y dylid sicrhau amod ynglyn a’r cylfat yn gyntaf cyn dechrau unrhyw ddatblygiad.  Nodwyd ymhellach bod cae yng nghefn yr eiddo yn wlyb gyda ffrwd yn codi yno.  Tra yn eithaf bodlon gyda’r argymhelliad, nodwyd yr angen i sichrau mannau parcio o fewn y safle ynghyd a mannau parcio i Bryn Celyn gan bod y lôn yn gul heb balmentydd.

 

(d)  Cynigwyd ac eilwyd i ganiatau’r cais.

 

(dd)  Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

 

·         Nad oedd y ffurflenni wedi eu cwblhau yn gywir ac oni ddylid gohirio hyd nes y derbynnir rhain yn gywir

·         Yn amlwg mai’r prif bryder ydoedd y cylfat a derbyniwyd sicrwydd y byddai’n cael sylw ac felly nad oedd unrhyw reswm i wrthod y cais

·         Y dylid sicrhau mannau parcio o ystyried bod y ffordd yn brysur ac yn arwain i Ysgol Uwchradd Brynrefail

·         Pan dderbynnir cais llawn gerbron dylai’r ymgeisydd ddangos y bwriadau ynglyn a’r  cylfat

·         Sicrhau bod y cylfat o’r maint mwyaf

 

(e)    Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, esboniwyd mai cais amlinellol oedd gerbron ac nad oedd cyfiawnhad i ohirio cymryd penderfyniad ar y cais, yn wyneb y ffaith bod y bwriad yn dderbyniol gan Dwr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn ddarostyngedig bod y pryderon ynglyn a’r cylfat yn cael eu cyfarch gyda’r amodau priodol. 

 

 

Penderfynwyd:                        Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud â:

1. Amser cychwyn y datblygiad a chyflwyno materion a gadwyd yn ôl

2. Deunyddiau a gorffeniadau.

3. Mynediad a pharcio.

4. Tirweddu.

5. Cyflwyno cynllun draenio tir cyn cychwyn unrhyw waith ar y safle.

6. Dwr Cymru – dwr arwyneb.

7. Datblygiad yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd.

8. Tynnu hawliau a ganiateir.

 

Dogfennau ategol: