skip to main content

Agenda item

Cais i newid amod 3 o ganiatâd cynllunio C13/0028/35/AM er mwyn ymestyn yr amser a roddwyd i gyflwyno'r materion a godwyd yn ôl.

 

 

AELOD LLEOL:        Y Cynghorydd Eirwyn Williams

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol   

Cofnod:

Cais i newid amod 3 o ganiatad cynllunio C13/0028/35/AM er mwyn ymestyn yr amser a roddwyd i gyflwyno'r materion a godwyd yn ôl

 

(a)  Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi y gohirwyd y cais o bwyllgor cynllunio blaenorol er mwyn derbyn gwybodaeth am faterion ieithyddol a chadarnhawyd bod y Datganiad Cymunedol ac Ieithyddol wedi ei gyflwyno ar 1 Gorffennaf 2016 sy’n cynnwys gwybodaeth yn seilieidg ar Gyfrifiad 2011.  Golyga’r bwriad godi 34 uned breswyl i’r henoed, un llety warden a 2 llety staff a chyfleusterau cymunedol ynghyd â 18 llecyn parcio i’r unedau preswyl a 15 llecyn parcio i ddefnydd Gwesty’r George VI.  Cyfeiriwyd at y polisiau perthnasol a nodwyd yn yr adroddiad ynghyd a’r hanes cynllunio perthnasol i ganiatau 37 o unedau preswyl ar apel yn 2010 a chaniatau 34 o unedau yn 2013.   Nodwyd nad oedd unrhyw newid yn y sefyllfa Cynllunio ers 2013 ar sail y polisiau cynllunio lleol na’r cyngor cenedlaethol perthnasol. Nodwyd bod yr Uned Polisi ar y Cyd yn credu y byddai’r datblygiad yn debygol o gynorthwyo i gadw aelwydydd 50+ mlwydd all fod yn siarad Cymraeg yn yr ardal, ac ar sail mai aelwydydd cyfredol fydd yn fwy na thebyg yn symud i’r unedau newydd, gall hyn ryddhau tai i aelwydydd lleol eraill.  Argymhelliad y swyddogion ydoedd i’w ganiatau a derbyniwyd datganiad hwyr gan asiant yr ymgeisydd yn datgan ei fod yn fodlon newid cyfnod o gyflwyno cais materion a gadwyd yn ol o 3 mlynedd i 2 flynedd. 

        

(b)  Siaradodd yr Aelod lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn ond ni gymerodd ran yn y penderfyniad) gan ddatgan  ei fod yn gwrthwynebu’r cais.

 

(c)  Cynigwyd ac eilwyd i ganiatau’r cais.

 

         (ch)   Nodwyd y pwyntiau canlynol o blaid yr argymhelliad i’w ganiatau:

 

·         Mai cais amlinellol oedd gerbron ac y byddai cais llawn i’w gyflwyno maes o law

·         Tra’n cydymdeimlo gyda’r Aelod lleol nad oedd rheswm cynllunio dilys i’w wrthod

·         Sicrhau bod trefniadau i waredu’r llysiau dial mor fuan ag sy’n bosibl

 

(d)    Nodwyd y pwyntiau canlynol o blaid ei wrthod: 

 

·         Gwrthwynebwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 13 Mehefin 2016 oherwydd bod angen mwy o wybodaeth am faterion ieithyddol

·         Mynegwyd bod y sefyllfa ers 2010 wedi newid yn sylweddol gan i nifer o ddatblygiadau cyffelyb  fod wedi eu caniatau ers 2010 ynghyd a chartrefi nyrsio megis y Pines, Bryn Awelon wedi ehangu, a Hafod y Gest ym Mhorthmadog wedi ei ddymchwel ar gyfer adeiladu datblygiad newydd ar gyfer y math yma o ddefnyddwyr gwasanaeth, heb son am y datblygiadau sydd wedi eu cymeradwyo ym Mhwllheli yn ddiweddar

·         Yn sgil yr uchod, cwestiynwyd felly a oedd angen mwy o’r math yma o gyfleusterau yn yr ardal  

·         Darllenwyd llythyr a dderbyniwyd gan Feddyg mewn practis lleol a oedd yn llwyr wrthwynebus i’r bwriad oherwydd fel practis eu bod o dan bwysau aruthrol yn barod wrth delio gyda’r henoed ac yn ychwanegol yn edrych ar ol 123 o gelifion mewn cartrefi nyrsio yng Nghricieth.  Yn ogystal a phwysau gwaith, profir problemau i  recriwtio meddygon teulu i’r feddygfa a rhagwelir na fydd y sefyllfa yn gwella am rhai blynyddoedd.  Erfyniwyd ar y Pwyllgor i ystyried barn y meddygon teulu yng nghyffiniau Cricieth.

·         Bod Cyngor Cymuned Cricieth wedi pleidleisio yn unfrydol i wrthod y cais yn seiliedig ar farn nad oedd yr angen yn bodoli ac y byddai’r datblygiad yn faich ar yr isadeiladwaith lleol gan gynnwys y gwasanaeth iechyd

 

(dd)   Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio mai cais oedd gerbron am dai henoed ar gyfer pobl 55 oed neu fwy ac nid cartref nyrsio / gofal.  Cyfeiriwyd y Pwyllgor at y math o lety a fwriedir a’r strategaeth ar gyfer darpariaeth sydd yn llwyr gydymffurfio gyda’r datblygiad arfaethedig.  

 

(e)   Nododd Aelod ymhellach tra’n cydymdeimlo gyda’r Feddygfa roedd demograffi’r boblogaeth yn newid gyda phobl yn byw yn hŷn a’r Gwasanaeth Iechyd yn hyrwyddo i gadw pobl yn eu cartrefi cyn hirad a phosibl.  Teimlwyd bod y bwriad yn ddatblygiad i’w groesawu ac yn ffordd ymlaen.

 

(f)   Pleidleiswyd ar y cynnig i’w ganiatau.

 

         Penderfynwyd:    Caniatáu’r cais gyda’r amodau cynllunio isod a’r cytundeb 106 gwreiddiol

 

1. 5 mlynedd.

2. Cyflwyno materion a gadwyd yn ôl (edrychiad a thirweddu) o fewn dwy flynedd.

3. Cyfyngu defnydd yr unedau i bobol dros 55.

4. Deunyddiau a gorffeniadau.

5. Mynediad a pharcio.

6. Manylion coed.

7. Tirweddu.

8. Cyflwyno cynllun gwaredu llysiau’r dial.

9. Dwr Cymru

10. Datblygiad yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd.

 

Dogfennau ategol: