(copi’n amgaeedig)
Cofnod:
Cyflwynwyd –
adroddiad gan Gyfarwyddwr Arweiniol GwE / Cadeirydd y Bwrdd Rheoli a Rheolwr
Gyfarwyddwr GwE yn diweddaru aelodau’r Cyd-bwyllgor ar yr adroddiad ar ansawdd
y gwasanaethau gwella ysgolion a ddarperir gan Gonsortiwm Gogledd Cymru.
Cyfeiriodd y
Cyfarwyddwr Arweiniol / Cadeirydd y Bwrdd Rheoli at gasgliadau ac argymhellion
arolwg Estyn a gyhoeddwyd ar 30 Mehefin.
Nododd fod angen mynd i’r afael â dau faes yn benodol, sef:-
1) Y gwaith sy’n mynd rhagddo
i hyrwyddo safonau uwch o fewn ysgolion, yn enwedig yng nghyfnod allweddol 4.
2) materion yn ymwneud â
gwerth am arian a phrosesau busnes ac o gwmpas y cwestiwn o effeithiolrwydd
cyflenwi’r rhaglen a chysondeb ar draws y rhanbarth.
Manylodd y
Cyfarwyddwyr Cynorthwyol ar yr argymhellion yn unigol ynghyd â’r gwaith o ddrafftio cynllun gweithredu cychwynnol mewn
ymateb i’r argymhellion hynny.
Nododd y
Cyfarwyddwyr Cynorthwyol ymhellach eu bod yn croesawu’r elfennau positif yn yr
adroddiad ac yn derbyn yr atebolrwydd sydd ar y gwasanaeth.
Nododd y
Cyfarwyddwr Arweiniol / Cadeirydd y Bwrdd Rheoli ei fod yn hyderu y byddai’r
camau gweithredu yn sicrhau bod y llinellau atebolrwydd yn hollol glir.
Diolchodd y
Cyfarwyddwyr Cynorthwyol i’r Cyfarwyddwr Arweiniol / Cadeirydd y Bwrdd Rheoli
am ei gefnogaeth yn ystod cyfnod yr arolwg.
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, nodwyd:-
·
Bod y feirniadaeth ynglŷn â mesur gwerth am
arian yn thema cyffredin yn adroddiadau arolwg Estyn / SAC ar bob un o’r 4 consortiwm
Cymreig, ac yn agwedd bydd y rhanbarthau yn cydweithio arno i’w gyflawni i’r
dyfodol.
·
Bod y camau a amlinellir ym mharagraffau 3.8 a
3.9 o’r adroddiad yn gadael GwE allan o’r darlun ac yn ymdrin ag awdurdodau
lleol yn uniongyrchol. Atebodd y Cyfarwyddwr
Arweiniol / Cadeirydd y Bwrdd Rheoli ei fod yn croesawu’r eglurder o 2017
ymlaen, ond yn y pen draw, yr awdurdod lleol sydd â’r
cyfrifoldeb statudol yn y meysydd hyn.
·
Y byddai wedi bod yn fuddiol i’r aelodau gael
gweld drafft o’r cynllun gweithredu cyn y cyfarfod hwn. Atebodd y Cyfarwyddwyr Cynorthwyol
(Cefnogaeth a Broceru) ei fod yn derbyn y sylw, ond y
gallai sicrhau’r aelod fod y gwaith yn mynd rhagddo ac ychwanegodd y
Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Safonau) y byddai’r drafft yn debygol o fod ar gael cyn
cyfarfod Medi o’r Cyd-bwyllgor.
·
Er bod GwE yn gwbl atebol am wella perfformiad
ar draws y Gogledd, nid yw’n gyfrifol am y rhwydweithiau rhanbarthol (sy’n
gyfrifol am weithredu elfennau penodol o’r Model Cenedlaethol) a phwysleisiwyd
bod angen edrych ar hynny yn ofalus gyda
golwg ar atebolrwydd a gwerth am arian.
Mewn ymateb, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Arweiniol / Cadeirydd y Bwrdd
Rheoli at y gwahanol strwythurau gan nodi y bwriedid cynnal gweithdai ar
ansawdd a’r gwaith o graffu’r rhaglenni gwaith.
Trafodwyd
cyllido yn y tymor canolig. Nododd
Pennaeth Cyllid, Cyngor Gwynedd mai’r penderfyniad am 2016/17 oedd i ariannu
GwE ar yr un toriad â grant y 6 awdurdod, ond erbyn 2017/18 a thu hwnt bod
ansicrwydd bellach ar draws holl adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Ychwanegodd y byddai’n gweithio gyda Rheolwr
Busnes a Chyllid GwE i geisio mwy o sicrwydd cyn
cynllunio ar sail parhad o ariannu GwE ar lefel cymesur â ‘setliad’ y 6 Cyngor.
PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad ac
ystyried y Cynllun Gweithredu Ôl Arolwg yng nghyfarfod mis Medi.
Dogfennau ategol: