Agenda item

Adeiladu sied i storio deunyddiau a pheiriannau mewn cysylltiad a busnes adeiladu.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Anwen Davies

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Adeiladu sied i storio deunyddiau a pheiriannau mewn cysylltiad â busnes adeiladu.

 

(a)     Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod safle’r cais wedi ei leoli yng nghefn gwlad ac o fewn dynodiad Ardal Gwarchod y Tirlun a gerllaw Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn (AHNE).

 

         Cyfeiriwyd at gais blaenorol am sied amaethyddol a wrthodwyd, nodwyd nad oedd swyddogion wedi eu hargyhoeddi bod gwir angen amaethyddol yn bodoli am sied newydd ar y safle, o ystyried y gweithgarwch a’r defnydd adeiladydd a wneir o’r sied amaethyddol a’r iard bresennol. Nodwyd pe sefydlir ac awdurdodir y sied a’r iard bresennol, trwy dystysgrif defnydd presennol fel iard adeiladydd (fel sydd wedi ei awgrymu mewn gohebiaeth a chyngor cyn cyflwyno cais) yna byddai cais am sied newydd yn cael ei ystyried dan bolisi gwahanol sef polisi B8 Ehangu Mentrau Presennol y CDUG. O dan yr amgylchiadau presennol byddai’n anodd cyfiawnhau sied newydd ar y safle ar hyn o bryd.

 

Nodwyd yr argymhellir gwrthod y cais gan fod y bwriad cyfystyr a chodi adeilad diwydiannol newydd yng nghefn gwlad, ble nad oes cyfiawnhad nac anghenion lleoli arbennig yn bodoli i gyfiawnhau sied adeiladydd newydd ar y safle. Roedd y bwriad yn groes i bolisïau D5, D7 a C1 o’r CDUG.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Ei fod yn dod o gefndir amaethyddol ond bod y busnes adeiladydd wedi cymryd drosodd yn y 15 mlynedd diwethaf;

·         Ei fod yn cyflogi pobl leol;

·         Bod angen lle addas i gadw peiriannau;

·         Bod y busnes yn dibynnu ar sied wrth law ei gartref;

·         Byddai ail-leoli’r busnes yn cael effaith negyddol arno a’r rhai a gyflogir.

 

(c)     Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), a gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddi:

·         Bod y busnes yn bodoli ers blynyddoedd a bod y gweithgaredd amaethyddol wedi mynd yn llai dros y blynyddoedd;

·         Ei fod yn cyflogi pobl leol;

·         Byddai symud y busnes i leoliad arall ddim yn addas ac yn cynyddu traffig;

·         Bod angen lle addas i gadw peiriannau;

·         Y byddai’r bwriad yn caniatáu i’r busnes cefn gwlad barhau yn ei gynefin ac yn cadw arian yn lleol.

 

(ch)   Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio, yn unol â’r cyngor a roddwyd cyn cyflwyno’r cais, y dylai’r ymgeisydd gymryd camau i gyfreithloni defnydd y sied bresennol.

 

(d)     Cynigwyd ac eiliwyd i ohirio’r cais er mwyn i’r ymgeisydd wneud cais i gyfreithloni defnydd y sied bresennol.

 

          Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu bod yr ymgeisydd yn nodi y gallai brofi’r defnydd am gyfnod o 9 mlynedd ac y byddai hyn yn ddigon agos i’r angen i gyfiawnhau defnydd am 10 mlynedd i allu ystyried cais am gyfreithloni defnydd.

 

          Nododd aelod ei fod yn bwysig i’r busnes aros yn y lleoliad yma.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais.

 

Dogfennau ategol: