Agenda item

Codi tri annedd deulawr ar wahan a datblygiadau cysylltiedig.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Elfed W. Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Codi tri annedd deulawr ar wahân a datblygiadau cysylltiedig.

 

(a)     Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod safle’r cais yn dir llwyd o fewn ffin datblygu pentref Clwt y Bont. Nodwyd ei fod yn fwriad codi tri thŷ deulawr gyda phedair llofft ar y safle ar gyfer y farchnad agored gyda mynedfa ar wahân i’r tri eiddo ac fe fyddai pob un yn arwain at ffordd ddi-ddosbarth sy’n gwasanaethu nifer o anheddau.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

          Nodwyd mai’r brif ystyriaeth oedd polisi CH4 o’r CDUG a oedd yn caniatáu cynigion i adeiladu tai newydd ar safleoedd na ddynodwyd ac oedd o fewn ffiniau datblygu pentrefi os gellir cydymffurfio â holl bolisïau perthnasol y CDUG a’r 3 maen prawf a oedd yn ffurfio rhan o’r polisi. Tynnwyd sylw bod maen prawf 1 yn ymwneud gyda chael cyfran o bob uned sydd ar y safle yn rhai fforddiadwy oni bai na fyddai’n briodol darparu tai fforddiadwy ar y safle. Eglura’r Datganiad Cynllunio Cefnogol (wedi ei gefnogi gan y Cyfrifiadau Hyfywdra) nad ydyw’n hyfyw i gynnig elfen fforddiadwy fel rhan o’r cynllun.

 

          Nodwyd bod sawl honiad wedi ei wneud fod y tir wedi ei lygru gan wastraff megis hen geir ac mae polisi B30 yn awgrymu gwrthod ceisiadau ar dir sydd wedi ei lygru heb wybodaeth i dangos triniaeth dderbyniol o’r safle. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw dystiolaeth gadarn wedi ei chyflwyno i gefnogi'r honiadau o ansefydlogrwydd y tir nac o unrhyw beryglon llygredd ac nid oedd unrhyw un o'r asiantaethau swyddogol a ymgynghorwyd a hwy wedi codi'r materion hyn. Pe caniateir y cais argymhellir gosod amod ychwanegol er mwyn sicrhau bod archwiliad desg i asesu risg o lygredd ar y safle yn cymryd lle ac os oes gwir angen gweithrediad pellach bod sicrwydd bod hyn yn digwydd cyn datblygu’r safle. Yn ogystal argymhellir amod i gytuno manylion unrhyw waith peirianyddol a fyddai’n ymwneud efo newid lefelau unrhyw ran o’r safle yn enwedig yr ymdriniaeth o’r ffiniau.

 

          Cadarnhawyd na ystyrir bod y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn gorbwyso’r ystyriaethau polisi na’r materion cynllunio perthnasol. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Ei fod yn ddatblygiad amhriodol ar dir amhriodol;

·         Pryder o ran sefydlogrwydd y tir;

·         Bod nodi nad oedd y safle yn llygredig yn fwriadol gamarweiniol o ystyried bod deunydd megis ceir, batris ac asbestos wedi ei dipio ar y tir;

·         Bod llysiau’r dial yn tyfu ar y safle;

·         Pryder y byddai’r datblygiad yn dinistrio calon y pentref hanesyddol;

·         Bod cwestiwn cyfreithiol yn codi o ran cymdogion yn gyd llofnodwyr i unrhyw gais ar gyfer datblygu’r safle hwn o ystyried bod tipio wedi digwydd ar eu tir yn ogystal.

 

(c)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod yr ymgeisydd wedi derbyn cyngor cyn cyflwyno cais gan swyddogion ac fe roddwyd ystyriaeth i’r sylwadau;

·         Y byddai’r tai wedi eu lleoli mewn pellter addas o dai cyfagos a bod dyluniad a gosodiad y bwriad yn sicrhau na fyddai effaith ar fwynderau cyffredinol a phreswyl;

·         Y byddai’r datblygiad yn creu dim ond ychydig o symudiadau cerbyd ychwanegol ac nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad ar sail diogelwch ffyrdd a strydoedd;

·         Bod pryderon trigolion cyfagos o ran sefydlogrwydd tir yn gysylltiedig ag eiddo cyfagos yn hytrach na’r safle ei hun;

·         Nid oedd unrhyw dystiolaeth o ran ansefydlogrwydd tir a bod camau priodol wedi eu gosod allan yn y dyluniad i ddiogelu’r llethr ar gyrion y safle a fyddai’n cael ei reoli gan y broses Rheolaeth Adeiladu;

·         Nid oedd tystiolaeth bod y tir yn llygredig ond roedd yr ymgeisydd yn barod i dderbyn amod o ran delio ac unrhyw lygredd os oedd angen.

 

(c)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod y bwriad yn groes i bolisi B23 a B28 o’r CDUG;

·         Ni chynhwysir elfen fforddiadwy yn y bwriad ac nid oedd digon o dystiolaeth wedi ei gyflwyno i beidio cynnwys fforddiadwy;

·         Byddai pris y tai yn uwch na’r hyn a all bobl leol ei fforddio;

·         Pryderon o ran diogelwch ffyrdd ac awgrymu y dylid lledu’r ffordd;

·         Bod ceisiadau eraill am dai a ganiatawyd yn yr ardal ddim wedi eu datblygu.

 

(ch)   Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio:-

·         Nid oedd tystiolaeth bod y tir yn ansefydlog;

·         Bu’r ffigyrau a ddarparwyd gan yr ymgeisydd yn destun dadansoddiad gan yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd gan ddefnyddio methodoleg safonol Cyngor Gwynedd ar gyfer asesu hyfywdra datblygiadau tai arfaethedig a daethpwyd i’r casgliad na fyddai'r datblygiad yn hyfyw yn economaidd pe bai'n cynnwys elfen o dai fforddiadwy;

·         Nid oedd yr Uned Drafnidiaeth yn gwrthwynebu’r bwriad.

 

(d)     Cynigwyd ac eiliwyd i gynnal ymweliad safle.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol:

 

·         Bod y lonydd yn gul ac wrth gymryd i ystyriaeth pryderon y bobl leol y dylid ymweld â’r safle;

·         A ellir cadarnhau hygrededd pris y tai?

·         Na fyddai’r tai yn fforddiadwy i bobl leol o ystyried cyfartaledd cyflogau yn lleol;

·         Y dylid cymryd i ystyriaeth bod trafferth gwerthu tai newydd yn Neiniolen.

 

(dd)      Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio:-

·         Bod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi defnyddio pecyn cyfrifiadurol a ddefnyddir yn genedlaethol ar gyfer asesu hyfywdra datblygiadau tai arfaethedig a daethpwyd i’r casgliad na fyddai’r datblygiad yn hyfyw yn economaidd pe bai'n cynnwys elfen o dai fforddiadwy;

·         Bod yr Uned Eiddo wedi nodi bod cost adeiladu a ddangoswyd gan yr ymgeisydd yn briodol yn yr achos hwn ac yn gyson â datblygiadau eraill yn lleol;

·         Y byddai’n anodd iawn cyfiawnhau gwrthod y cais ar sail bod dim angen am dai gan nad oedd tystiolaeth o hynny.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle.

 

Dogfennau ategol: