Agenda item

Newid defnydd cyn Eglwys yn uned gwyliau.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Anwen Davies

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Newid defnydd cyn Eglwys yn uned gwyliau.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod yr eglwys yn wag ers peth amser ac eisoes wedi newid dwylo o berchnogaeth yr Eglwys yng Nghymru i berchnogaeth breifat.

 

         Tynnwyd sylw at y manylion ychwanegol a dderbyniwyd gan yr asiant ar gais y swyddogion.

 

         Nodwyd bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt egwyddor ac yn unol â pholisïau B3, C4 a D15 o’r CDUG. Eglurwyd bod y bwriad yn golygu adfer yr adeilad yn bennaf ac oherwydd lleoliad agored cefn gwlad y safle ni ystyrir y byddai’r bwriad yn amharu ar fwynderau’r safle na’r ardal.

 

         Amlygwyd pryder a godwyd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus y byddai’r bwriad yn amharu ar fynediad i’r fynwent. Nodwyd y derbyniwyd cadarnhad gan yr Eglwys yng Nghymru eu bod dal yn berchen y fynwent ac y byddai’n parhau i fod yn agored i’r cyhoedd.

 

         Nodwyd yn dilyn derbyn gwybodaeth ychwanegol gan yr asiant bod yr argymhelliad wedi newid i’r hyn a nodwyd yn yr adroddiad a bellach argymhellir i ddirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn cynlluniau yn ymwneud a’r glwydfan ystlumod ac i dderbyn sylwadau ffafriol yr Uned Bioamrywiaeth i’r cynlluniau hynny, derbyn manylion darparu/gosod y gwasanaethau i’r adeilad ar hyd y llwybr ac i amodau perthnasol.

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod teuluoedd y rhai a gladdwyd yn y fynwent yn pryderu y byddai’r beddi yn cael eu hamharchu;

·         Y dylid gosod ffens o amgylch yr adeilad a gwneud hynny cyn y gellir gosod y tŷ;

·         Bod angen sicrhau cadarnhad swyddogol y byddai mynediad y cyhoedd i’r fynwent  yn parhau.

 

(c)     Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu:-

·         Yr unig sicrwydd a gellir ei dderbyn o ran mynediad i’r fynwent oedd y cadarnhad gan yr Eglwys yng Nghymru y byddai’n parhau;

·         Bod dyletswydd i warchod yr adeilad rhestredig a’i atal rhag dirywio;

·         Pryder o ran gosod ffens solet gan fod yr Eglwys yn adeilad rhestredig gradd II a byddai angen cytundeb CADW o ran sut i wahaniaethu’r ffiniau. Gellir ystyried gosod cadwyni ar bolion i nodi’r ffiniau ac fe ellir amodi hyn.

 

(ch)   Cynigwyd a eiliwyd i ganiatáu’r cais yn unol â’r argymhelliad gan ychwanegu amod i gytuno ar ddull o wahaniaethu’r ffiniau.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol:

 

·         Ni fyddai cadwyni yn stopio plant rhag mynd i’r fynwent felly dylid rhoi ffens a fyddai’n creu rhwystr;

·         Angen bod yn bragmataidd o ran defnydd adeiladau o’r math yma ac fe ddylid gwarchod pensaernïaeth ddeniadol yr Eglwys;

·         Y byddai rhywbeth isel yn dynodi ffiniau yn dderbyniol er mwyn peidio tynnu oddi ar yr elfen gofrestredig;

·         Beth fyddai cyfnod gosod y llety gwyliau?

·         Balch bod gwaith yn cael ei wneud i gadw’r adeilad;

·         Y dylid gofyn i’r ymgeisydd roi enw Cymraeg ar yr adeilad.

 

(d)     Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu:-

·         Bod angen cadw mewn cof ei fod yn fynwent gyhoeddus ac nad oedd dim byd yn bresennol yn atal plant rhag mynd i’r fynwent;

·         Gan fod y cais ar gyfer llety gwyliau un ystafell wely y byddai’n bur annhebyg o ddenu teulu efo plant i aros;

·         Gofynnir i’r Pwyllgor adael i’r swyddogion gytuno ar y driniaeth o’r ffin;

·         Y byddai’r llety gwyliau ar gael i’w osod drwy gydol y flwyddyn gyda chofrestr i’w gadw i brofi’r defnydd a ni fyddai’n brif fan byw unrhyw berson;

·         Gellir gofyn i’r ymgeisydd roi enw Cymraeg ar yr adeilad.

 

PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn cynlluniau yn ymwneud â’r glwydfan ystlumod ac i dderbyn sylwadau ffafriol yr Uned Bioamrywiaeth i’r cynlluniau hynny, derbyn manylion darparu/gosod y gwasanaethau i’r adeilad ar hyd y llwybr ac i amodau perthnasol yn ymwneud â:

 

1.     5 mlynedd

2.    Unol a’r cynlluniau a’r argymhellion yn yr adroddiad ystlumod

3.     Amodau yn ymwneud a’r llawr cyntaf

4.     Amodau yn ymwneud a gwaith ar y to

5.     Drws newydd o wneuthuriad pren

6.    Y drws gwreiddiol i’w gadw o fewn/neu yn rhan o’r adeilad bob amser

7.     Amodau yn ymwneud a’r gwydriad eilradd

8.    Gwaith rendr a phlaster gyda chalch

9.     Rhaid cadw rhai o’r seddi gwreiddiol o fewn yr adeilad bob amser (i’w gytuno gyda’r ACLL cyn dechrau gwaith)

10.  Amodau yn ymwneud a gwaith archeolegol

11.   Cofnod ffotograffig

12.  Amodau ystlumod

          13.  Gwyliau yn unig/cadw cofrestr

         14.  Cytuno ar y driniaeth o’r ffin.

 

Dogfennau ategol: