Ail gyflwyniad o gais blaenorol i mewnforio deunydd anadweithiol er mwyn codi lefelau tir presennol.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Lesley Day
Cofnod:
Ail gyflwyniad o gais blaenorol i gludo
i mewn deunydd
anadweithiol er mwyn codi lefelau
tir presennol.
(a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais, gan
nodi bod y safle wedi ei ddynodi ar gyfer datblygiad yng Nghynllun Datblygu
Unedol Gwynedd (CDUG). Eglurwyd bod datblygiad preswyl ar fin cael ei gwblhau
ar dir cyfagos a bod y cais yma ar gyfer gwneud gwaith peirianyddol a chodi
lefel tir er mwyn darparu safle ar gyfer datblygiad pellach. Nodwyd y bwriedir
codi lefel y tir gan roi sgil-gynhyrchion cloddio sy’n deillio o’r datblygiad
ar dir cyfagos a chludo 19,000 tunnell arall o ddeunydd anadweithiol i mewn er
mwyn codi lefel y tir.
Nodwyd y derbyniwyd nifer o asesiadau arbenigol fel rhan o’r
cais.
Adroddwyd y cynhaliwyd trafodaethau efo Cyfoeth Naturiol
Cymru (CNC), Uned Bioamrywiaeth ac Uned Gwarchod y Cyhoedd ac nid oedd ganddynt
wrthwynebiad i’r cais. Nodwyd y byddai cynnydd dros dro mewn symudiadau traffig
ond nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad os rhoddir
amodau perthnasol.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan nodi
bod yr RSPB wedi tynnu eu gwrthwynebiad yn ôl cyn belled
a bod y mesuriadau lliniaru yn cael eu gweithredu.
Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad.
(b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Ei fod yn siarad ar ran
Cymdeithas Ddinesig Bangor;
·
Nid oeddent yn gwrthwynebu’r
egwyddor o ddatblygu’r safle;
·
Y byddai’r tir yn parhau i fod
wrth ymyl parth llifogydd hydynoed wedi codi lefel y
tir;
·
Nad oedd y cynllun gerbron ar
gyfer amddiffyn rhag llifogydd yn Ardal Bae Hirael ond yn hytrach ar gyfer
paratoi’r safle i’w ddatblygu;
·
Y dylid datrys materion
ynghylch halogi tir a natur y deunydd a ollyngwyd yn flaenorol ar y safle cyn
cysidro datblygu’r tir o ystyried y risgiau cyfreithiol o adeiladu ar dir
halogedig;
·
Pryder o ran sefydlogrwydd tir
a’r effaith ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Traeth Lafan;
·
Os caniateir y cais gofynnir
am gyfundrefn rheoleiddio llawer llymach.
(c) Yn manteisio
ar yr hawl
i siarad nododd asiant yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod datblygu’r safle wedi ei
gyfyngu gan fod y safle o fewn
Parth Llifogydd C2;
·
Mai gwaith paratoadol ar gyfer
datblygu’r safle ymhellach oedd dan sylw;
·
Byddai’r bwriad yn golygu gwella amddiffynfeydd
y môr a galluogi newid categori llifogydd y safle;
·
Ni fyddai’r bwriad yn cael
effaith andwyol ar y dynodiadau;
·
Y byddai’r
bwriad yn cyfrannu at ail-ddatblygu’r safle gwag yma.
(ch) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol
gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Bod ganddi, y gymuned leol a
chyrff arbenigol bryderon yng nghyswllt y bwriad;
·
Y hysbyswyd swyddogion bod
gwastraff eisoes wedi ei dipio ar y safle a bod rhan o’r cais felly yn
ôl-weithredol;
·
Bod y safle yn agored i
erydiad a’i phryderon o ran sefydlogrwydd y tir;
·
Bod y bwriad yn groes i bolisi
B28, B29 a B30 o’r CDUG;
·
Bod y tir wedi ei halogi a bod
risg i’r deunydd a halogwyd symud i Fae Hirael;
·
Pryder o ran effaith y
datblygiad ar ddyfroedd pysgod cregyn dynodedig;
·
Os caniateir y cais bod angen
sicrhau dyluniad priodol a bod trefn monitro gryf
mewn lle gyda llwybr archwilio annibynnol clir;
·
Ni fyddai’r bwriad yn atal
llifogydd ym Mae Hirael;
·
Bod risg i iechyd dynol gan
fod y safle’n cynnwys asbestos, arian byw, plwm a Hydrocarbonau Aromatig
Polysyclig ar grynodiadau a allai fod yn beryglus.
Felly, dylid gosod amod i ddelio efo’r tir sydd wedi ei lygru rŵan yn
hytrach na pan ystyrir cais am dŷ
yn y dyfodol;
·
Y dylid diwygio’r amod oriau
loriau i rhwng 09.00 – 16:00 dydd Llun i ddydd Gwener i osgoi oriau brig;
·
Bod angen tacluso safle Hen Iard Gychod Dickies.
(d) Mewn ymateb i sylwadau’r Aelod Lleol, nododd yr
Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff:-
·
Y bwriedir amgáu gwastraff ar y safle i
atal y llygredd rhag dianc o’r
safle;
·
Nid yw’r tir wedi ei
gofnodi ar gofrestr tir halogedig;
·
Y bwriedir creu arglawdd o amgylch y safle gan roi deunydd
rip-rap ar ei ben i amddiffyn y safle;
·
Y byddai unrhyw gais am ddatblygiad yn y dyfodol yn cael
ei benderfynu ar ei haeddiant
ac mai’r bwriad oedd darparu safle
ar gyfer datblygiad.
(dd)
Nododd aelod y dylid gwrthod y cais oherwydd bod CNC angen fwy o wybodaeth.
Mewn ymateb, tynnodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio sylw’r aelodau at y sylwadau hwyr a dderbyniwyd gan CNC yn nodi
eu bod yn fodlon i ddelio
a’r materion o ran manylder y mesuriadau amgylcheddol ymarferol a’r morglawdd drwy
amod cynllunio.
Cynigwyd i ohirio’r cais
er mwyn derbyn
gwybodaeth bellach o ran y pryderon a gyflwynwyd gan yr aelod
lleol. Eiliwyd y cynnig.
(e) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol:
·
Pryder o ran risg llygredd yn dianc
o’r safle gyda gwlâu cregyn
gleision gerllaw a fyddai’n cael effaith
ar y gadwyn fwyd;
·
Sylwadau CNC ddim yn argyhoeddi
aelod nad oes peryglon yn
deillio o’r bwriad;
·
Ydi’r gwastraff sydd yn cael
ei dipio ar y safle wedi
derbyn caniatâd yn barod ynteu
ydyw’n ymestyn safle?
·
Ydy’r ymgeisydd wedi cysylltu efo
Tir y Goron?
·
Bod cryn wybodaeth wedi ei gyflwyno fel
rhan o’r cais;
·
Pryder o ran y gwastraff
a dipiwyd ar y safle;
·
A fyddai’r datblygwr yn gallu
apelio ar sail methiant i benderfynu
os byddai'r cais yn cael
ei ohirio?
·
Bod angen sicrhau bod y wybodaeth a gyflwynir yn dystiolaeth
gadarn wyddonol.
(f)
Mewn
ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:-
·
Bod adroddiadau technegol manwl wedi eu cyflwyno
fel rhan o’r cais gan
gynnwys asesiad amgylcheddol yn unol â rheoliadau cynefinoedd;
·
Gofynnir am gadarnhad pellach gan CNC eu bod yn argyhoeddedig bod y bwriad yn dderbyniol
yn sgil y pryderon;
·
Gofynnir yn ogystal i
Uned Gwarchod y Cyhoedd gadarnhau eu safbwynt;
·
Bod hawliau datblygu efo unrhyw
safle adeiladu, gan gynnwys, iard
adeiladu a storio deunyddiau dros dro. Bwriad y cais
oedd derbyn caniatâd i gadw’r
deunyddiau ar y safle ac ychwanegu deunydd er mwyn
codi lefel y tir ac i ymestyn
y safle;
·
Bod y cais gerbron yn ail-gyflwyniad o gais a dynnwyd yn ôl
a bod yr ymgeisydd wedi rhoi rhybudd
i Dir y Goron, Stad Penrhyn, ar
y safle ac yn y wasg cyn cyflwyno’r
cais;
·
Byddai cario’r deunydd o’r safle
yn codi llwch
a gallai tarfu ar y deunydd achosi
llygredd. Yr un ymyrraeth y byddai
hyn yn creu
i drigolion o ran traffig loriau.
·
Y bwriad oedd cario deunydd
anadweithiol i gapio’r deunydd sydd yn bresennol
ar y safle;
·
O ran y gwlâu cregyn gleision, nid oedd gan
yr Uned Gwarchod
y Cyhoedd bryderon o ran y fethodoleg a ni dderbyniwyd gwrthwynebiad gan Gymdeithas Gorchmynion Pysgodfeydd y Fenai;
·
Bod CNC wedi gofyn am fanylion Cynllun Rheoli Amgylchedd Adeiladu drwy amod;
·
Bod risg y gallai’r ymgeisydd apelio ar sail methiant i benderfynu,
ond bod rhaid i’r ymgeisydd ddarparu
mwy o wybodaeth, a thu allan
i’r drefn cynllunio, yn gorfod
derbyn trwydded amgylcheddol gan CNC a thrwydded forwrol cyn gellir cychwyn
ar y datblygiad. Felly, yn annhebygol yr
anghytunir i estyniad amser;
·
Y byddai’r wybodaeth a dderbynnir yn ategu’r wybodaeth
wyddonol a oedd yn yr
adroddiad gerbron.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais.
Dogfennau ategol: