Agenda item

I ystyried adroddiad Pennaeth yr Adran Rheoleiddio

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth yr Adran Rheoleiddio yn argymell y Pwyllgor i fabwysiadau Polisi Dosbarthu Ffilm yn ogystal â chymeradwyo codi ffi ar gyfer dosbarthu ffilm a gweinyddu’r broses er pwrpas adennill costau yn unig.

 

Amlygwyd bod Cyngor Gwynedd, fel yr Awdurdod Trwyddedu yn gyfrifol am awdurdodi dangos ffilmiau’n gyhoeddus ac yn unol ag Adran 20 o Ddeddf Trwyddedu 2003. Nodwyd pan fo Trwydded Eiddo neu Dystysgrif Eiddo Clwb yn caniatáu dangos ffilm (Iau), rhaid i’r drwydded gynnwys amod sydd yn nodi y dylid cyfyngu mynediad plant i ffilmiau yn unol â’r argymhellion a wnaed unai gan y British Board of Film Classification (BBFC), neu gan yr Awdurdod Trwyddedu. Pwysleisiwyd bod rhaid i ffilmiau sy'n cael eu dangos yn gyhoeddus ar eiddo trwyddedig gael eu dosbarthu gan y BBFC neu eu hawdurdodi gan yr Awdurdod Trwyddedu dan bwerau Deddf Trwyddedu 2003.

 

Nodwyd mai pwrpas y Polisi Dosbarthu Ffilm yw llunio trefn ffurfiol i’r   Awdurdod Trwyddedu ddosbarthu ffilm. Y prif amcan trwyddedu mwyaf perthnasol yw Amddiffyn Plant Rhag Niwed. Amlygwyd yn yr adroddiad y canllawiau perthnasol ar gyfer dosbarthu ffilm ynghyd â sefyllfaoedd gwahanol y gall cais ddod i law.

 

O ran trefn, nodwyd y byddai'r pŵer i awdurdodi dosbarthiad ffilm yn cael ei ddirprwyo i’r Pennaeth Rheoleiddio gan y Pwyllgor Trwyddedu Canolog. Unwaith bydd ffilm wedi ei hawdurdodi gan yr Awdurdod Trwyddedu, bydd yn cael ei awdurdodi ar gyfer arddangosfa neu ŵyl benodol yn unig, yn amodol ar yr argymhellion a osodwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu (oni bai y gwnaed cais am ailddosbarthiad pellach).

 

Yng nghyd-destun gosod ffioedd, amlygwyd nad oedd unrhyw ffi statudol  wedi ei bennu yn y ddeddfwriaeth ar gyfer pwrpas dosbarthu ffilmiau ac i adennill costau'r broses yn unig mae rhai Awdurdodau lleol yn codi ffioedd. Ystyriwyd y byddai yn rhesymol cyflwyno ffi am y broses fyddai yn adlewyrchu cost amser y swyddog yn gwylio’r ffilm ynghyd a chost cynhyrchu a phrosesu’r dystysgrif.

 

b)    Mewn ymateb i gwestiwn nodwyd y bydd y ffi yn amrywio ac yn cael ei fesur yng  nghyd-destun hyd y ffilm. O ran egwyddor, nid oes angen gosod ffi rhy uchel gan fod angen hybu dangos ffilmiau ond eto rhaid ystyried yr egwyddor o adennill costau. Awgrymwyd codi ffi am £30 am gynhyrchu a phrosesu'r dystysgrif ynghyd ag amser swyddog yn gwylio’r ffilm.

 

c)    Mewn ymateb i gwestiwn nodwyd na fyddai’r polisi yn cael effaith  ar noson ffilmiau mewn neuaddau cymunedol cyn belled a bod trwydded gan y neuadd. Amlygwyd mai cyfrifoldeb deilydd y drwydded fydd sicrhau bod trwydded yn ddilys neu geisio am drwydded digwyddiad dros dro ynghyd a phenderfynu sut fydd y digwyddiad yn cael ei reoli.

 

ch)   Mewn ymateb i sylw bod angen cynnal trafodaeth am reoli ffilmiau / darnau o ffilmiau ar ddyfeisiadau digidol, nodwyd bod cyfrifoldeb moesol ar aelodau a swyddogion i fonitro hyn. Nodwyd  bod y polisi yn caniatáu gwrthod dosbarthu  ffilm (oherwydd rhesymau dadleuol, anaddas i blant neu peri pryder i gymdeithas), hyd yn oed os yw wedi ei ddosbarthu gan y BBFC.

 

d)    Mewn ymateb i awgrym petai penderfyniad yn mynd i apêl a bod  is bwyllgor yn cael ei ffurfio i drafod rhesymau gwrthwynebu i geisio dealltwriaeth, amlygwyd bod hyn yn awgrym digon teg, ond nad oedd cyfundrefn statudol ar gyfer hyn. Amlygodd y Cyfreithiwr petai cais dadleuol yn cael ei gyflwyno byddai  Pennaeth yr Adran Rheoleiddio yn defnyddio disgresiwn i gyflwyno  adroddiad i’r Pwyllgor Trwyddedu  Canolog ynghyd ag  argymhelliad.

 

dd)  Cynigiwyd ac eiliwyd i fabwysiadu’r polisi

 

e)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan aelodau unigol;

·         petai y nifer o geisiadau yn cynyddu bydd rhaid ystyried capasiti yr Adran Trwyddedu

·         petai amryw o geisiadau dadleuol yn cael eu cyflwyno bydd modd addasu'r polisi

·         rhaid sicrhau diogelwch plant

·         angen cyfeirio'r penderfyniad at yr Aelod Cabinet i sicrhau cymeradwyaeth

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r polisi yn ogystal â chymeradwyo codi ffi ar gyfer dosbarthu ffilm er pwrpas addennil costau yn unig

 

 

Dogfennau ategol: