Agenda item

Cais ar gyfer newid defnydd, estynnu a gwneud newidiadau allanol sy'n cynnwys gosod paneli solar o'r cyn Ysgol Gynradd i greu Canolfan Gymunedol, hostel/bunkhouse 16 gwely, caffi, siop, ardal newid allanol, ystafelloedd cyfarfod /uned deori busnes ac ystafell driniaeth.

 

AELOD LLEOL: CYNGHORYDD DILWYN LLOYD

 

Dolen ir dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Cais ar gyfer newid defnydd, estynnu a gwneud newidiadau allanol sydd yn cynnwys gosod paneli solar o’r cyn ysgol gynradd i greu Canolfan Gymunedol, Hostel/Bunkhouse 16 gwely, caffi, siop, ardal newid allanol, ystafelloedd cyfarfod/uned deori busnes ac ystafell driniaeth.

 

a)               Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer newid defnydd yn ymwneud â chynnal newidiadau ac ail ddefnyddio adeilad cyn Ysgol Gynradd Bron y Foel ar gyfer defnydd amrywiol. Nodwyd bod yr adeilad wedi ei leoli yng nghanol pentref gwledig Y Fron. Nid yw’r adeilad yn un rhestredig, ac mae’r prif newidiadau (ar wahân i’r estyniadau) tu mewn i’r adeilad. Bydd y datblygiad yn cynnig defnydd o gyn ysgol ag adeilad cymunedol rhannol wag ac mae’r defnydd yn gyfle i sicrhau defnydd hirdymor o’r adeilad. Ystyriwyd felly fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion perthnasol y polisïau.

 

Mae’r safle yn cynnwys adeilad sylweddol a nodweddiadol, ond ystyriwyd fod y bwriad a’r gwaith arfaethedig, gan gynnwys codi estyniadau a’r gorffeniadau allanol, yn addas, ac nad ydyw yn debygol o achosi effaith andwyol ar y dirwedd sydd wedi ei gwarchod yn ogystal â mwynderau gweledol cyffredinol y pentref. Ystyriwyd hefyd bod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau perthnasol.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd ac amlygwyd bod y Cyngor Cymuned bellach wedi cefnogi’r bwriad.

 

b)               Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y pwyntiau canlynol:

·         Derbyn bod y fenter yn ddefnydd da o gyn ysgol, ond yn pryderu am gynaliadwyedd y fenter

·         Angen ystyried menter fyddai yn creu swyddi i bobl leol e.e, meithrinfa

·         Pryder na fydd gofalwr na rheolwr ar gyfer yr adeilad / ar y safle

·         Effaith ar fwynderau preswylwyr cyfagos

·         Angen ystyried y safle ar gyfer tai lleol ar gyfer pobl leol

 

c)               Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:

·         Cymuned y Fron sydd yn arwain ar y prosiect

·         Cyfle yma i droi dirywiad yn adfywiad

·         Y fenter yn darparu swyddi a phrofiad gwaith i bobl leol

·         Prosiect yn cynnwys mewnbwn lleol – 5 holiadaur a 5 cyfarfod cyhoeddus wedi ei cynnal

·         Ystyriaeth wedi ei roi i’r pryderon sydd wedi eu hamlygu

·         Ni fydd effaith ar yr iaith

·         Hybu bywyd cymunedol

 

ch)         Nododd yr Aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y sylwadau canlynol:

·         Bod y fenter yn atgyfodi’r gymuned ac yn rhoi gobaith i’r gymuned ar ôl i’r ysgol gynradd gael ei chau

·         Yn weithred bositif ac yn fanteisiol i’r gymuned

·         Amser digonol wedi ei ganiatáu i ymateb i’r hyn sydd ei angen

·         Derbyn bod pryderon i unrhyw newid, ond cymell y rhaid sydd yn gwrthwynebu i fod yn rhan o’r trafodaethau

·         Diolchwyd i swyddogion Cyngor Gwynedd am eu cefnogaeth

 

d)               Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais yn unol ar argymhelliad

 

dd)         Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y pwyntiau canlynol gan aelodau unigol:

·         Derbyn bod y fenter yn syniad da

·         Angen ysgogi trafodaethau er mwyn ymateb i’r angen

·         Annog cydweithio

·         Croesawu canolfan gymunedol

·         Mentrau tebyg wedi llwyddo yn ardaloedd Deiniolen a Gerlan

·         Colli ysgol o fewn y  gymuned yn drist ond croesawu menter newydd

 

PENDERFYNWYD:   Yn unfrydol, caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau perthnasol yn ymwneud â:-

 

1. Amser

2. Cydymffurfio gyda chynlluniau

3. Deunyddiau

4. Paneli solar proffil isel

5. Oriau agor y caffi

6. Amodau Dwr Cymru

7. Gwarchod Llwybr Cyhoeddus

8. Dilyn argymhellion yr arolwg ystlumod

9. Nodyn Cyfoeth Naturiol Cymru

Dogfennau ategol: