skip to main content

Agenda item

Estyniad i safle carafanau teithiol yn cynnwys ymestyn tir a chynyddu nifer o 8 i 22 uned deithiol ynghyd a chodi bloc cyfleusterau newydd.

 

AELOD LLEOL: CYNGHORYDD SIMON GLYN

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

Estyniad i safle carafanau teithiol yn cynnwys ymestyn tir a chynyddu nifer i 8 i 22 uned deithiol ynghyd a chodi bloc cyfleusterau newydd.

 

a)            Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd  ar gyfer ymgymryd â gwelliannau i safle carafanau teithiol presennol ynghyd ac ymestyn y safle i’r caeau tua’r gorllewin a’r gogledd orllewin o’r safle presennol. Roedd y gwelliannau yn cynnwys:

           Cynyddu nifer o unedau teithiol o 8 i 22

           Ail leoli man chwarae a chreu man chwarae newydd

           Dymchwel bloc toiledau presennol a chodi adeilad newydd i gynnwys toiledau a chawodydd

           Creu ardal gwastraff / ailgylchu a sychu

           Gwaith tirlunio.

 

Nodwyd bod y safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad ac o fewn Ardal Gwarchod y Dirwedd a’r Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol.  Saif y safle  tu ôl i eiddo Penclawdd a Sŵn y Wylan sydd wedi eu lleoli ger ffordd sirol dosbarth 2 y B4417 rhwng Tudweiliog a Penygroeslon.  Mae mynedfa i’r safle gan drac cerbydol sengl.

 

Amlygwyd bod rhai agweddau o’r bwriad yn dderbyniol fel ffordd i uwchraddio’r safle, ond nid oedd y Cyngor yn fodlon fod y bwriad yn ei gyfanrwydd,  yn arbennig y cynnydd sylweddol o fynedfa is-safonol, yn dderbyniol.  Nodwyd nad oedd y tir naill ochr i’r fynedfa ym mherchnogaeth yr ymgeisydd ac felly nad yw’n bosibl rhoddi amodau i wneud gwelliannau i’r fynedfa hynny (gwelir o hanes y safle mae methiant fu ymgais o’r fath ar y cais blaenorol C12/0438/46/LL).  Ystyriwyd felly nad oedd dewis ond argymell gwrthod y cais ar sail diogelwch ffyrdd yn sgil y defnydd cynyddol o fynedfa is-safonol ac nad oedd modd ei wneud yn ddigonol i gwrdd â gofynion priffyrdd a pholisi CH33 o GDUG.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd

 

b)               Nododd yr Aelod lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y sylwadau canlynol:

·         Ei fod yn cytuno gyda chynnwys yr adroddiad

·         Bod y cais yn cydymffurfio a holl agweddau cynllunio gyda bwriad o wella safonau a chreu cyfleusterau -  y maen tramgwydd yw’r fynedfa

·         A oedd modd gosod amodau caeth i reoli defnydd o’r fynedfa - cynnig bod cyfrifoldeb ar y perchennog i fod yn bresennol wrth i garafanau fynd a dod

·         Drych wedi ei osod ar y clawdd i wella gwelededd

·         Annog trafodaethau gyda phriffyrdd a gorfodaeth cynllunio

·         Derbyn nad yw'r fynedfa yn ddelfrydol, ond os mae derbyn 8 yn dderbyniol a fuasai modd rheoli'r sefyllfa i geisio mwy.

·         Awgrym bod modd rheoli cyfeiriad ‘mewn ac allan’ i’r safle

·         Y fenter yn fywoliaeth i deulu ifanc

 

c)               Mewn ymateb i’r sylw, amlygodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu bod pryderon lleol wedi nodi damweiniau ar y ffordd gul. Nodwyd hefyd mai amhosib fyddai rheoli amod ‘cyfeiriad’ a ‘phresenoldeb’ a bod pryderon priffyrdd yn rhai dilys.

 

ch)         Mewn ymateb i’r sylw ynglŷn â'r fynedfa, nododd Uwch Beiriannydd Rheolaeth Datblygu bod angen troad derbyniol ar gyfer y safle. Y bwriad yw treblu'r niferoedd o garafanau teithio fydd yn golygu mwy o symudiadau gan greu mwy o broblemau.

 

d)               Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais

 

dd)            Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y pwyntiau canlynol gan aelodau unigol:

·         Bod y fynedfa yn is-safonol

·         Rhaid ystyried diogelwch ffyrdd – rhaid ymddwyn yn gyfrifol

 

·         A yw caniatáu 8 carafán yn teilyngu gwneud gwelliannau sylweddol

·         Awgrymwyd lleihau'r nifer i 15 carafán

·         Awgrym cynnal trafodaeth bellach gyda’r ymgeisydd

 

e)               Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y Cyfreithiwr bod rhaid ystyried y cais gerbron ac mai'r ateb gorau fyddai i’r ymgeisydd ddod i ddealltwriaeth gyda’r perchennog tir. Awgrymwyd cynghori trafodaethau

 

f)                Cynnigwiyd ac eiliwyd gwelliant i’r cynnig a threfnu ymweliad safle

 

PENDERFYNWYD trefnu ymweliad safle

Dogfennau ategol: