skip to main content

Agenda item

Cais i newid amod 3 o ganiatad cynllunio C13/0028/35/AM er mwyn ymestyn yr amser a roddwyd i gyflwyno'r materion a gadwyd yn ôl.

 

AELOD LLEOL: CYNGHORYDD EIRWYN WILLIAMS

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

   Cais i newid amod 3 o ganiatâd cynllunio C13/0028/35/AM er mwyn ymestyn amser a roddwyd i gyflwyno’r materion a godwyd yn ôl.

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd  i ddiwygio amod 3 o ganiatâd cynllunio amlinellol C13/0028/35/AM er mwyn ymestyn yr amser a roddwyd i gyflwyno’r materion a gadwyd yn ôl. Mae’r datblygiad yn golygu codi 34 uned breswyl i’r henoed, un llety warden a 2 llety staff a chyfleusterau cymunedol. Byddai’r bwriad hefyd yn darparu 18 llecyn parcio ar gyfer defnydd yr unedau preswyl a 15 llecyn parcio i ddefnydd Gwesty’r George IV yr ochr arall i’r Stryd Fawr. Mae’r safle yn gorwedd o fewn y ffin datblygu a hefyd o fewn yr Ardal Gadwraeth.

 

Amlygwyd nad oedd unrhyw newid i’r cynllun, nac i’r cynllun a ganiatawyd drwy apêl yn flaenorol. Amlygwyd bod egwyddor y bwriad wedi ei dderbyn ac eisoes wedi ei sefydlu gan Arolygydd mewn penderfyniad apêl, a thrwy’r caniatâd cynllunio amlinellol pellach er mwyn ymestyn amser. Gyda cheisiadau o’r fath, nodwyd fod gofyn ystyried  os yw amgylchiadau neu sefyllfa polisi cynllunio wedi newid ers caniatáu’r cais hwn yn wreiddiol. Dim ond os oedd tystiolaeth o newid sylweddol mewn sefyllfa y gellid cysidro’r bwriad yn wahanol yng nghyd destun y polisïau hyn. Nodwyd bod datblygiad o’r math yma yn parhau i gyd fynd a Strategaeth Partneriaeth Tai Gwynedd a  Strategaeth Comisiynu Pobl Hŷn.

 

Nodwyd bod Datganiad Ieithyddol cyfredol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais yn cynnwys gwybodaeth benodol ynglŷn â’r ardal, y boblogaeth leol ag effaith y datblygiad ar faterion perthnasol. Roedd yr  adroddiad yn cydnabod pwysigrwydd yr iaith Gymraeg a’r ystyriaeth y dylid ei rhoi i’r holl ystyriaethau perthnasol.

 

Nodwyd bod yr holl faterion perthnasol gan gynnwys y gwrthwynebiadau wedi eu hystyried ac nad oedd y bwriad o ymestyn yr amser a roddwyd ar ganiatâd amlinellol C13/0028/35/AM er mwyn cyflwyno’r materion a gadwyd yn ôl,  yn groes i’r polisïau na’r canllawiau lleol a chenedlaethol a nodir o fewn yr asesiad. Nodwyd nad oedd unrhyw faterion cynllunio perthnasol eraill sy’n datgan i’r gwrthwyneb ac ystyriwyd bod y bwriad yn parhau i fod yn dderbyniol yn ddarostyngedig i amodau perthnasol ac fel y rhoddwyd ar y cais amlinellol a ganiatawyd yn flaenorol.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd      

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y pwyntiau canlynol:

·         Y cais wedi ei gyflwyno yn wreiddiol yn 2009 am 38 o fflatiau.

·         Y datblygiad tu allan i ffin datblygu Criccieth ac nad oedd galw am  y bwriad

·         Cyngor Gwynedd wedi gwrthod yn wreiddiol ond y cynlluniau wedi eu caniatáu yn dilyn apêl

·         Nid oedd dim datblygiad i'r safle ers 7 mlynedd ac felly hyn yn profi nad oedd galw am ddatblygiad o’r fath

·         Caniatawyd estyniad amser eisoes yn 2013 - dim rhesymau digonol i ganiatáu estyniad amser pellach

·         Nid oedd bwriad i ddatblygu'r safle ond cadw'r tir a’i werthu am y pris uchaf

·         Cariad at arian sydd yma ac nid cariad at iaith

 

(c)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol a’r rhesymau dilys dros ddiffyg datblygiad ar y safle:

·         Perchnogion gwahanol i’r gwreiddiol

·         Y perchennog wedi gorfod ymdrin â phroblemau  llysiau’r dial

·         Cais gerbron am estyniad amser - y polisïau yn aros yr unfath

·         Tystiolaeth fanwl wedi ei gynnwys dros yr angen sydd hefyd wedi ei gydnabod yn yr adroddiad

·         Bod y perchennog yn cadw at ei air o roi cyfraniad o £134k at dai fforddiadwy yn yr ardal - hwn yn daliad swmpus

·         Y perchennog yn awyddus i symud ymlaen

 

ch)    Nododd yr Aelod lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) ei fod yn gwrthwynebu’r cais am estyniad amser. Nid oedd Gwynedd ar werth.

 

(d)       Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais

 

(dd)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y pwyntiau canlynol gan aelodau unigol:

·         Dim gwaith wedi ei wneud ar y safle felly a yw’r datblygiad yn ‘dal yn fyw’?

·         Angen tystiolaeth gyfredol o’r angen? A oes darpariaeth arall yng Nghricieth ar gyfer Pobl Hŷn?

·         Y datblygwr wedi cael amser digonol i weithredu

·         Awgrym i gyflwyno cais o’r newydd gyda thystiolaeth briodol o’r angen

·         Hen gais = hen hanes

·         Rhaid derbyn sylwadau Cyngor Tref Criccieth dros wrthod y cais

·         Sefyllfa wedi newid yn sylweddol mewn 7 mlynedd

·         Nid yw llysiau’r dial yn cymryd hyd at 3 blynedd i’w waredu

·         Pryder dros ardrawiad ar yr iaith Gymraeg - angen asesiad iaith ddiweddar

 

·         Sylwadau'r Uned Strategol Tai yn ddilys ac felly angen ystyried rhesymau cynllunio dros wrthod

·         Y cais yn un amlinellol

·         Nid oes unrhyw addasiadau i’r cynllun ac felly anodd fuasai gwrthwynebu estyniad amser

 

e)      Mewn ymateb i’r sylwadau nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio nad oedd yr amgylchiadau wedi newid ac nad oedd y polisïau wedi newid. Pwysleisiwyd bod yr adroddiad yn amlygu sefyllfa gyfredol gyda gwybodaeth fanwl yn egluro bod angen y math yma o ddatblygiad yng Nghriccieth. Amlygwyd bod yr asiant wedi cyflwyno rhesymau dilys dros yr oedi. Erfyniwyd ar yr aelodau i edrych ar y dystiolaeth gerbron a bod yr argymhelliad sydd yn cael ei nodi yn yr adroddiad yn un cadarn. Ar y sail yma, amlygwyd fod risgiau sylweddol i’r Cyngor pe bai’r cais yn cael ei wrthod, gan gynnwys y risg o gostau pe bai apêl. O ganlyniad, pe bai’r Pwyllgor yn gwrthod y cais yna ni fyddai opsiwn ond cyfeirio’r cais i gyfnod cnoi cil.

 

f)          Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol i ganiatáu y cais:

              

O blaid y cynnig i ganiatáu y cais, (5) Y Cynghorwyr: Gwen Griffith, Anne Lloyd Jones, June E Marshall, Michael Sol Owen a John Wyn Williams

 

Yn erbyn y cynnig i ganiatáu y cais, (6) Y Cynghorwyr: Simon Glyn, Eric Merfyn Jones, W Tudor Owen, John Pughe Roberts, Gruffydd Williams ac Owain Williams

 

Atal, (0)

 

ff)        Nododd Aelod ei fod yn cynnig gwrthod ar sail diffyg tystiolaeth gyfredol o’r angen am y math yma o ddatblygiad, ynghyd a’r angen i ystyried ardrawiad iaith newydd.

 

g)         Mewn ymateb, nododd y Cyfreithiwr bod tystiolaeth gyfredol o’r angen wedi ei gyflwyno yn yr adroddiad  ac wedi ei asesu gan Gwasanaeth Tai y Cyngor.  Amlygwyd  bod y ffeithiau hynny yn gywir.

 

ng)    Tynnwyd y cynnig yn ei ôl.

h)         Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais ar sail bod angen cyflwyno mwy o wybodaeth yn ymwneud gyda’r materion ieithyddol.

 

i)          Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i’r cynnig i ohirio'r penderfyniad ar sail bod angen mwy o wybodaeth am faterion ieithyddol

 

PENDERFYNWYD gohirio'r penderfyniad ar sail bod angen mwy o wybodaeth am faterion ieithyddol.

 

Dogfennau ategol: