Codi annedd
deulawr gyda tair llofft
AELOD LLEOL: CYNGHORYDD TREVOR EDWARDS
Cofnod:
Codi annedd deulawr gyda thair llofft
(a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd i godi tŷ
deulawr ar lecyn o dir y tu cefn i Stryd Newton ac i’r de o Stryd y Dŵr a
Stryd y Ffynnon o fewn pentref Llanberis ac oddi fewn i ffin datblygu fel y’i cynhwysir yng
Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd (CDUG) . Eglurwyd bod y tŷ ar ffurf “L”
er mwyn gwneud y gorau o’r safle o safbwynt dyluniad a mwynderau. Byddai hyn
hefyd yn lleihau effaith ac ad-drawiad y strwythur ar y tirlun gan dorri i fyny edrychiadau allanol y tŷ Adroddwyd bod y
safle yn cael ei wasanaethu oddi ar rodfa breifat
sydd â chysylltiad gyda ffordd sirol ddi-ddosbarth ymhellach ymlaen. Mae’r
ffordd hefyd yn gwasanaethu nifer o fodurdai preifat ynghyd a chefnau tai Stryd
Newton.
Saif y safle ar lwyfandir uwchben anheddau a strydoedd
cyfagos. Yn dilyn pryderon gan yr Awdurdod
Cynllunio Lleol ynglŷn ag effaith cynllun y tŷ gwreiddiol ar fwynderau preswyl trigolion cyfagos ynghyd
a’i effaith ar fwynderau gweledol a’r tirlun lleol, cyflwynwyd cynlluniau
diwygiedig i suddo’r tŷ 1m yn is i mewn i’r tir, diwygiadau i’r rhai o’r
ffenestri ac ail leoli’r tŷ 1m ymhellach i ffwrdd o dalcen tŷ rhif 13
Stryd y Ffynnon.
Yn unol â pholisi CH4 mae’r egwyddor o godi tŷ
newydd oddi fewn i ffin datblygu yn cymeradwyo cynigion am dai newydd ar
safleoedd sydd heb eu dynodi o fewn ffiniau datblygu pentrefi a chanolfannau
lleol os gellid cydymffurfio a’r meini prawf perthnasol. Yn unol â pholisi C1
credir bod yr egwyddor o godi tŷ ar y safle hwn yn dderbyniol oherwydd bod
y tir o fewn ffiniau trefi a phentrefi sydd yn brif ffocws ar gyfer datblygiadau
newydd.
Er amlygrwydd y safle yn y tirlun lleol credir mai dim ond golygfeydd
ysbeidiol ceir o’r tŷ ei hun gan ystyried gosodiad a dyluniad y tai a’r
strydoedd o’i amgylch ac na fydd ei effaith ar fwynderau gweledol yn fwy nag
effaith anheddau cyffelyb o fewn y
pentref ac sydd wedi eu lleoli ar dir uchel. Dyma, yn wir, yw natur a chymeriad
pentref Llanberis. Ni ystyriwyd felly y
bydd y bwriad, fel mae wedi ei ddiwygio, yn cael effaith sylweddol annerbyniol
ar fwynderau preswyl a chyffredinol deiliaid sy’n byw yn nalgylch safle’r cais.
Adroddwyd bod y gwrthwynebiadau cynllunio perthnasol wedi derbyn ystyriaeth
lawn yn yr asesiad ac nad oedd unrhyw fater yn gorbwyso’r ystyriaethau polisi
a’r cyngor perthnasol a nodwyd. Nodwyd bod y bwriad fel y mae wedi ei ddiwygio
yn dderbyniol ac yn cydymffurfio a’r polisïau a chanllawiau cynllunio lleol a
chenedlaethol perthnasol fel y nodwyd yn yr adroddiad ac nad oedd unrhyw
ystyriaeth cynllunio faterol yn gwrth-ddweud hyn.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd
(b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:-
·
Ei fod yn derbyn
adroddiad y swyddog
·
Ei fod yn derbyn
bod ffenestri'r llofftydd yn goredrych, ond hyn fel
pob ystafell llofft arall yn y stryd
·
Bod lefel y tir
wedi ei ostwng yn unol â’r gofynion
·
Bod cynllun y
datblygiad wedi ei addasu - y strwythur yn gymhleth a phob ymdrech wedi ei
wneud i leihau'r effaith ar fwynderau trigolion cyfagos
(c)
Nododd yr aelod
lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y sylwadau canlynol:
·
Bod yr ymgeisydd
yn derbyn yr amodau ac wedi cytuno gyda sylwadau'r swyddogion cynllunio
ch) Cynigwyd ac
eiliwyd i ganiatáu’r cais.
PENDERFYNWYD: Yn unfrydol, caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau perthnasol yn ymwneud â:-
1.5 mlynedd.
2. Yn unol â’r cynlluniau diwygiedig.
3. Llechi naturiol.
4. Deunyddiau allanol.
5. Tynnu hawliau datblygiadau a ganiateir.
6. Cyfyngu ar amseroedd gweithio.
7. Parcio a lle troi.
Dogfennau ategol: