Agenda item

Addasu rhan o'r adeilad amaethyddol presennol ar gyfer 11 cybiau cwn ynghyd â lleoli tanc storio carthion gerllaw

 

AELOD LLEOL: CYNGHORYDD IOAN CEREDIG THOMAS

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

 

 

 

Cofnod:

         Addasu'r rhan o'r adeilad amaethyddol presennol ar gyfer 11 cybiau cwn ynghyd a lleoli tanc storio carthion gerllaw Parcia Bach, Bangor Road, Caernarfon, LL55 1TP

 

         Roedd Aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â’r safle

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,  gan nodi bod y   cais wedi ei ohirio yn y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 16.05.16 er mwyn cynnal ymweliad safle. Amlygwyd bod yr adroddiad wedi ei ddiwygio i amlygu

·         bod aelodau’r Pwyllgor yn pryderu ynglŷn ag effaith y bwriad ar fwynderau preswyl trigolion cyfagos ar sail sŵn ag aflonyddwch ac addasrwydd y fynedfa bresennol i’r safle

·         cyfeiriad at anheddau unigol yn hytrach nag yn cyffredinoli'r anheddau sydd wedi eu lleoli o fewn ardal Parciau sydd i dde ddwyrain y safle

 

Nodwyd mai cais llawn ydoedd i addasu rhan o’r adeilad amaethyddol presennol ar gyfer 11 o gytiau cŵn ynghyd a lleoli tanc storio carthion gerllaw, creu uned arwahan i gadw cŵn pe byddent yn dioddef o haint neu salwch ynghyd a lolfa/swyddfa ac ystafell paratoi bwyd.  Lleolir y safle ar gyrion gorllewinol Caernarfon mewn ardal rhannol wledig sy’n cynnwys anheddau preswyl wedi eu lleoli ar wasgar i’r gogledd, gorllewin ac i’r de-ddwyrain o safle’r cais.

 

(b)          Cydnabyddai  Swyddog yr Amgylchedd y gallai cytiau cŵn fod â photensial i gynhyrchu lefelau uchel o sŵn a hynny yn effeithio mwynderau preswylwyr cyfagos ac yn niwsans statudol. Nodwyd yr angen i ystyried ffactorau megis, agosatrwydd at anheddau sensitif sŵn, insiwleiddio'r adeilad, dyluniad y cytiau a maint yr ardal ymarfer.

 

Nodwyd yn ddelfrydol byddai asesiad sŵn yn amlygu sŵn derbyniol, sŵn disgwyliedig i’r annedd agosaf a mesuriadau i wanhau sŵn. Argymhellwyd y dylai cynllun rheoli sŵn ffurfiol gael ei  gynhyrchu gan yr ymgeisydd a’i gytuno gyda Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd. Awgrymwyd y dylai cynllun rheoli sŵn ystyried sut y gellid gwanhau sŵn pellach a sut i reoli'r cytiau cŵn er mwyn atal lefelau annerbyniol o sŵn e.e., presenoldeb 24 awr ac amseroedd penodol o ymarfer a bwydo. Nodwyd  bod digon o wybodaeth i brofi y gellid rheoli sŵn i lefelau derbyniol a cynigiwyd amodau i adlewyrchu hyn.

 

(c)          Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y pwyntiau canlynol:

·         Bod problemau gyda chyflenwad dŵr i’r safle. Y broblem yn anodd ei datrys gan mai anodd yw cael at y cyflenwad dŵr. Y broblem yn debygol o gynyddu wrth olchi'r cytiau cŵn

·         Cytiau cŵn sydd yma ac nid parlwr – newid mawr i ddefnydd sied amaethyddol

·         Dim cymwysterau amlwg

·         Y bwriad yn agos at fusnes Gwely a Brecwast  - pryder bod un busnes yn mynd i gael effaith ar y llall ac y bydd profiadau gwael yn cael eu rhannu ar safleoedd megis Trip Advisor

·         Y bwriad yn debygol o greu llygredd sŵn mewn ardal breswyl

 

(ch)        Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:-

·         Siomedig iawn gyda sylwadau'r gwrthwynebwyr

·         Y bwriad yw casglu'r cŵn a’u dychwelyd er mwyn lleihau traffig i’r safle

·         Y fynedfa wedi ei moderneiddio

·         Bydd y cytiau cŵn o safon uchel

·         Bydd yr amser ymweld yn cael ei reoli

·         Bydd y cytiau yn cael eu hinsiwleiddio i leihau sŵn

·         Bydd coed a phlanhigion yn cael eu plannu i  leihau effaith sŵn

·         Nid oedd bwriad creu unrhyw anghydfod gyda chymdogion

·         Yn mwynhau byw mewn tawelwch a heddwch yr ardal

 

(d)          Nododd yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y sylwadau canlynol:

·      Cydnabyddai bod angen arall gyfeirio ac edrych am opsiynau eraill gyda’r weledigaeth yn cynnig darpariaeth newydd o safon uchel

·      Cyfeiriwyd at wrthwynebiadau gan berchnogion y tai cyfagos a oedd yn bennaf yn bryderon am  sŵn, y fynedfa, cwt heintiau, cyflenwad dŵr a gofynion trwyddedu. Derbyniwyd bod y cwt heintiau a'r gofynion trwyddedu wedi eu cyfarch gan amodau a bod sylwadau'r adran priffyrdd yn dderbyniol am y fynedfa

·      Angen cydnabod  problemau cyflenwad dŵr

·      Angen ystyried y goblygiadau fydd y busnes yn  cael ar fusnes cyfagos

·      Y lleoliad yn ddelfrydol a siom fuasai i’r bwriad effeithio ar fwynderau trigolion lleol

·      Derbyniwyd sylwadau Swyddog yr Amgylchedd

·      Os yw’r ymgeisydd wedi cyflwyno digon o dystiolaeth i reoli sŵn bydd angen i’r Pwyllgor ystyried hyn

 

dd)         Mewn ymateb i’r sylw ynglŷn â phryderon cyflenwad dŵr, nodwyd mai mater i’r preswylwyr fyddai cysylltu gyda Dŵr Cymru i ddatrys y broblem ac nid drwy drefn cynllunio.

 

e)            Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

f)             Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y pwyntiau canlynol gan aelodau unigol:

·         Pryder ynglŷn â’r fynedfa o ystyried cynnydd yn y drafnidiaeth i’r safle

·         Y bwriad yn cynnig gwasanaeth i’r cyhoedd ac felly rhagweld y byddai trafferthion yn codi gyda mynediad i’r safle - angen rheoli'r oriau ymweld

·         Pryder bod y bwriad yn creu busnes ar draul busnes arall

·         Angen camau priodol i gyfyngu sŵn. Os bydd sŵn yn amharu ar drigolion cyfagos yna angen ystyried lleihau'r niferoedd, gwella'r strwythur neu roi cosb benodol

 

·         Yr ymgeisydd sydd agosaf i’r bwriad ac felly yn debygol o sicrhau bod y gwaith insiwleiddio ac ôl leihau sŵn o safon

·         gosod amodau priodol i fonitro'r sefyllfa

·         petai'r eiddo yn fferm ni fyddai unrhyw rwystrau cadw cŵn

 

ff)          Mewn ymateb i’r sylwadau nodwyd nad oedd amheuaeth mai sŵn oedd y pryder mwyaf a bod modd rheoli hynny drwy gyfyngiadau lefelau sŵn a rheolaeth drwy reoliadau niwsans statudol.

 

g)           Mewn ymateb i sylwadau am y fynedfa, amlygwyd mai swyddogion Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am y sylwadau oherwydd Llywodraeth Cymru sydd yn berchen ar y ffordd. Derbyniwyd nad oedd y sefyllfa yn ddelfrydol ond bod y llinell weledol yn dderbyniol.

 

PENDERFYNWYD caniatáu y cais   

 

            1.         5 mlynedd.

            2.         Yn unol â’r cynlluniau.

3.         Amod parthed gweithredu’r caniatâd yn unol â’r wybodaeth a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd ar 13.05.15 ynghyd â chyfyngu’r oriau agor i’r cyhoedd rhwng 15:00 a 18:00 ar ddydd Sul yn unig.

4.         Cyfyngu ar nifer o gŵn i 13 yn unig ar y safle ac unrhyw adeg ac i 3 ci yn unig yn yr ardal ymarfer ar unrhyw un adeg.

5.         Amod manylion insiwleiddio i’w cytuno gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol ac i fod yn eu lle cyn derbyn unrhyw gwn ar y safle.

6.         Y cwt heintiau i’w gyfyngu ar gyfer y diben arbennig hwn yn unig ac nid i’w ddefnyddio ar gyfer cwt arferol.

7.         Cyfyngu ar lefelau sŵn i lefelau sŵn cefndir presennol.

8.         Cyflwyno cynllun rheoli cŵn i’w gytuno gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

Dogfennau ategol: