Agenda item

I ystyried adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Cofnod:

(A) Darpariaeth Llechen

 

Cyflwynwyd adroddiad yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni a’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn diweddaru’r Aelodau ar faterion technoleg gwybodaeth.

 

Nodwyd bod sesiwn peilot gydag 8 aelod wedi ei drefnu ar gyfer 26 Mehefin 2015 i’w uwchsgilio ar ddefnydd i-Pads.  Yn ddibynnol ar adborth y sesiwn byddir yn bwrw ymlaen i barhau gyda grwpiau bychain.

 

(a)  Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau unigol:

 

(i)            Nad oedd meddalwedd yr i-pad (Apple) a’r sustem gyfrifiadurol gorfforaethol (Microsoft) yn gytûn hefo’i gilydd

(ii)           bod hyfforddiant pellach yn wastraff amser ac y byddai derbyn mwy o feddalwedd arnynt yn fwy buddiol

(iii)          siomedig bod yr hyfforddiant yn y Gymraeg yn unig a bod rhai Aelodau yn ei chael yn anodd dilyn ac nad oedd pob un Aelod mor ddeallus ar ddarpariaeth gyfrifiadurol

(iv)         bod gormod o ddefnydd o’r i-pad yn creu trafferth i’r llygaid

(v)          trafferthion i agor rhai atodiadau

 

Ymatebodd yr  Uwch Reolwr Technoleg Gwybodaeth i’r sylwadau uchod fel a ganlyn:

 

(a)  Bod nifer o aelodau yn ymwybodol o anghenion sylfaenol yr i-pads ond yn awyddus i’w defnyddio yn fwy hyderus.  Nodwyd ymhellach nad oedd unrhyw benderfyniad wedi ei gymryd ynglŷn â meddalwedd ychwanegol arnynt

(b)  Nad oedd yr Uned Technoleg Gwybodaeth yn gallu cefnogi gwahanol fathau o feddalwedd ond yn hytrach y rhai safonol ar yr i-pads

(c)  Bod defnydd y llechen fwy ar gyfer darllen ac ymateb i e-byst, ac os oes angen ymgymryd â gwaith gyda thaenlenni, llythyrau, a.y.b. bod yn rhaid gwneud hyn ar gyfrifiadur personol 

          (ch)y byddai hyfforddiant yn ddefnyddiol ar gyfer unioni pa mor llachar yw’r sgrin, maint y

                ffont, gwirio sefyllfaoedd anffodus o newid geirfa

(d)  Awgrymwyd i Aelodau a oedd yn profi anhawster i agor atodiadau iddynt anfon y wybodaeth ymlaen i’r Uned Technoleg Gwybodaeth er mwyn ymchwilio ymhellach i’r broblem           

 

          Penderfynwyd:                        Cymeradwyo i symud ymlaen hefo’r rhaglen hyfforddiant peilot ac i adrodd yn ôl ar yr adborth i gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

 

(B)  Modern Gov

         

Adroddwyd, er gwybodaeth, gan yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni  o safbwynt y system gweinyddu pwyllgorau electronaidd uchod ei fod yn cynnig mwy o hyblygrwydd ac yn ddull o gyhoeddi deunydd ar wefan newydd y Cyngor.  Bydd y system yn galluogi:

·         gweinyddu pwyllgorau yn fwy effeithiol

·         gosod rhaglenni yn fwy hwylus ar lechi aelodau

·         yn asio yn dda gyda gwe-ddarlledu

·         modd hwylus o gasglu gwybodaeth am bresenoldeb, a.y.b.

 

Hyderir y bydd y system yn cael ei gosod ym mis Gorffennaf gyda hyfforddiant i Aelodau ar 25 Tachwedd 2015.  Fe fyddir yn rhannu gwybodaeth bellach yn Rhaeadr pan fydd y system wedi ei osod.  

 

Addawodd yr Uwch Reolwr Technoleg Gwybodaeth ymchwilio ymhellach i wendid y peiriannau chwilio ar y wefan newydd yn unol â chais Aelod. 

 

Penderfynwyd:                        Derbyn a nodi’r wybodaeth uchod.

 

 

(C) Gwefannau Cynghorau Tref a Chymuned

 

Atgoffwyd yr Aelodau o’r ddarpariaeth grant o £500 a oedd ar gael yn 2013/14 i Gynghorau Tref a Chymuned i sefydlu gwefan a bu i 48 ohonynt drwy Wynedd gymryd mantais o’r grant. Bu i’r Uned Technoleg Gwybodaeth wahodd datganiadau o ddiddordeb gan gwmnïau addas ar gyfer dylunio a sefydlu gwefan ar y cyd i’r Cynghorau Tref a Chymuned ond yn anffodus nid oedd y tri dyfynbris ddaeth i law o fewn £500.   Nodwyd bod y grant bellach wedi dirwyn i ben.

 

Mewn ymateb i ymholiadau gan Aelodau, nododd yr Uwch Reolwr Technoleg Gwybodaeth fel a ganlyn:

 

(i)            Byddai’n ymchwilio ymhellach i ganllawiau'r grant ar gyfer y Cynghorau Tref / Cymuned sydd heb gwblhau i sefydlu gwefan erbyn diwedd mis Mawrth 2015

(ii)           O safbwynt yr union wybodaeth i’w ddarparu ar y wefan, dylid cyfeirio at Unllais Cymru am arweiniad

(iii)          Nid oedd modd i’r Uned Technoleg Gwybodaeth y Cyngor i greu gwefan i’r Cynghorau Tref / Cymuned oherwydd prinder adnoddau ond gellir rhannu’r wybodaeth gyda hwy o’r cwmnïau ar y farchnad 

 

 

Penderfynwyd:                        (a)        Derbyn a nodi’r uchod

 

(b)       Gofyn i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd / Uwch Reolwr Technoleg Gwybodaeth wirio canllawiau’r grant ynglŷn â datgan buddiannau ar y wefan, ac anfon arweiniad ymlaen i Aelodau’r Pwyllgor.

 

Dogfennau ategol: