I ystyried adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
Cofnod:
(a) Cyflwynwyd adroddiad yr Uwch
Reolwr Democratiaeth a Chyflawni a’r Rheolwr
Gwasanaethau Democrataidd yn diweddaru Aelodau ar y gofynion cyhoeddi
ac adrodd ar lwfansau a phresenoldeb.
(b) Nodwyd ei fod yn
ofynnol i’r Cyngor gyhoeddi gwybodaeth am y cyflogau y bwriedir eu talu i Aelodau ar gyfer 2015/16 ynghyd â gwybodaeth am y cyflogau a’u treuliau
a dalwyd iddynt yn ystod 2014/15. Bwriedir ar gyfer eleni
cyhoeddi’r wybodaeth ar wefan y Cyngor ynghyd ag yn Newyddion
Gwynedd.
(c) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol:
(i)
O safbwynt
lwfans gofal, y dylid cynnwys eglurder
ar hawliau aelodau i lwfans gofal boed hyn
yn ofal plant neu ddibynnydd gan bod aelodau wedi derbyn beirniadaeth
o’i dderbyn yn y gorffennol
(ii)
Dylid nodi os nad yw Cadeirydd
/ Is-gadeirydd Pwyllgor yn derbyn lwfans
am y swydd er mwyn rhoi
darlun cyflawn i’r cyhoedd
(iii)
Bod ambell
i Aelod gyda swyddogaeth fel Pencampwr ar feysydd
arbennig a olygai llawer iawn o deithio
ychwanegol ac felly er mwyn creu darlun
cyflawn y dylid bod eglurhad yn cyfleu
eu bod yn teithio milltiroedd ar gyfer y gwaith
ychwanegol o’i gymharu ag aelodau eraill
(iv)
Bod amryw
o Aelodau yn gwasanaethu ar ran y Cyngor ar gyrff allanol eraill
megis y Parc Cenedlaethol, Gwasanaeth Tân, Cartrefi Cymunedol
Gwynedd, a’u bod yn mynychu llawer o gyfarfodydd ac sy’n golygu llawer o oriau teithio
(v)
Bod y dyddiadur
enghreifftiol o waith Aelod a gyhoeddwyd y llynedd yn hynod ddiddorol
ac o fudd i’r cyhoedd lle nodir
dyletswyddau a faint o bwyllgorau
a fynychwyd
(vi)
O safbwynt
presenoldeb Aelodau mewn cyfarfodydd, mynegwyd anfodlonrwydd nad oedd rhai Aelodau yn mynychu yn
rheolaidd a bod hyn yn sarhad ar
y Cyngor a’u hetholwyr ac nad oeddynt yn
cyflawni eu dyletswyddau i’r eithaf
(vii)
Yn dilyn o’r uchod, mynegwyd nad oedd rhai
Aelodau yn teimlo gwerth mewn mynychu
pwyllgorau oherwydd nad oeddynt yn
gallu gwneud penderfyniadau
(viii) Nad oedd canrannau yn adlewyrchiad teg ar bresenoldeb
i rhai hynny sydd yn gwasanaethau
ar lai o bwyllgorau mewn nifer
(ix)
Yng nghyd-destun mynychu
cyrsiau / hyfforddiant, y byddai’n ddefnyddiol cael cynnig y ddarpariaeth
yn ystod fin nosau neu ar
lein er mwyn
hwyluso y rhai sy’n gweithio oriau
9 a.m. – 5 p.m.
(x)
Awgrymwyd efallai y byddai o fudd cynhyrchu taflen oriau er
mwyn i Aelodau ei gwblhau a fyddai’n cyfiawnhau yr oriau
a dreulir mewn cyfarfodydd / gwaith lleol, a.y.b.
(ch) Ymatebodd y swyddogion i’r sylwadau uchod fel a ganlyn:
(a)
gellir cyflwyno esboniad yn wahanol
i flwyddyn diwethaf ynglyn â chyfrifoldebau ychwanegol Aelodau sy’n gorfod teithio llawer iawn fwy
o filltiroedd o’i gymharu ag Aelodau eraill
(b)
o safbwynt y dyddiadur dychmygol, awgrymwyd posibilrwydd i gyflwyno erthygl yn Newyddion
Gwynedd yn seiliedig ar gwestiynau ac atebion i gyfarch materion megis lwfansau teithio, lwfansau gofal a phresenoldeb mewn cyfarfodydd.
(c)
Yn amlwg bod Aelodau
yn awyddus i newid rheoliadau ynglyn â phresenoldeb mewn cyfarfodydd ac awgrymwyd ymhellach y gellir cyhoeddi canrannau presenoldeb pob chwarter yn
Rhaeadr
Penderfynwyd: (a) Derbyn a nodi cynnwys yr
adroddiad.
(b) Gofyn i’r Rheolwr Gwasanaethau
Democrataidd
(i)
gyflwyno gwybodaeth i Newyddion Gwynedd:
·
yn seiliedig ar gwestiwn ac ateb i gyfarch eglurder ar ddyletswyddau
Aelodau fel amlinellir yn (a) a (b) uchod.
·
Yn cyfarch os yw Aelod
wedi cynhyrchu Adroddiad Blynyddol ar ffurf ü / x
(ii)
Gyhoeddi canrannau presenoldeb Aelodau mewn pwyllgorau yn Rhaeadr
(iii)
Nodi’r posibilrwydd o bennu isafswm lefel
presenoldeb ac anfon e-bost at Aelodau sydd yn disgyn o dan
y lefel penodedig er ystyriaeth bellach
Dogfennau ategol: