I dderbyn adroddiad / cyflwyniad gan Miss Bethan James ar y canlynol:
(a) Addoli ar y Cyd
(b) Datblygu Llythrennedd a Rhifedd mewn Addysg Grefyddol yng Nghyfnod Allweddol 3
(c) Diweddariad ar ymgynghoriad Yr Athro Donaldson ar Gwricwlwm i Gymru
Cofnod:
(a) Addoli ar y Cyd
Adroddodd yr Ymgynghorydd Her bod ymdrech
wedi ei wneud i adnabod ffordd i ymgymryd â monitro safonau addoli ar y
cyd. Atgoffwyd y pwyllgor bod holiadur
wedi cael ei ddosbarthu oddeutu blwyddyn yn ôl er mwyn adnabod ffyrdd i
ymgymryd â chyfrifoldebau unigol dros fonitro safonau Addysg Grefyddol neu
addoli ar y cyd gyda’r ymatebion hynny yn llywio’r gwaith a’r bwriad bellach
ydoedd rhoi trefniadau mewn lle i fonitro. Cyfeiriwyd at arweiniad ESTYN i’w
harolygwyr ar yr hyn i’w fonitro wrth iddynt arolygu addoli ar y cyd. Cyfeiria’r arweiniad at y gofynion
cyfreithiol sef bod addoli ar y cyd yn digwydd yn ddyddiol ar unrhyw bryd yn
ystod y dydd a bod hawl gan rieni i dynnu eu plant o’r addoliad. Tra’n derbyn nad oedd Aelodau CYSAG yn hoff o
arolygu addoli ar y cyd gwnaed awgrym iddynt ymweld ag ysgolion i gael blas ar
addoli ar y cyd. Cyfeiriwyd ymhellach at
arweiniad gan Gymdeithas CYSAGau Cymru yn nodi pam bod addoli ar y cyd yn
fuddiol i blant a’i fod yn hybu
datblygiad ysbrydol disgyblion ac yn cyfrannu at ddatblygiad personol ac yn
fuddiol i gael ymdeimlad bod ysgolion yn gymuned ac yn cysylltu’r ysgolion â’r
gymuned leol. Hefyd, fe graffir ar
adroddiadau ysgolion ac yn gofyn a ydynt yn diwallu gofynion statudol.
Cyflwynwyd ffurflen i Aelodau yn ystod y
cyfarfod i helpu cofnodi wrth iddynt fynychu sesiynau addoli ar y cyd ac fe’i
tywyswyd drwy gynnwys y ffurflen.
Yn ystod y drafodaeth, amlygwyd y pwyntiau
canlynol:
(a) Bod angen bod yn wyliadwrus
o ran cadw at yr hyn sy’n statudol o safbwynt Addysg Grefyddol oherwydd mewn
rhai ysgolion erbyn hyn bod gofynion eraill ar athrawon yn ystod cyfnodau
cofrestru megis cyflwyno llythrennedd, darllen, a’i fod yn anoddach cynnal
gwasanaeth dosbarth oherwydd hyn.
(b) Bod rhai
llywodraethwyr yn cael ei dynodi yn bencampwyr i roi rhagolwg ar Addysg
Grefyddol a/ neu bynciau eraill ac a
fyddai modd defnyddio’r llywodraethwyr hyn i’r eithaf ar gyfer monitro rhag
dyblygu’r gwaith.
Mewn ymateb, nodwyd bod gan CYSAG rôl statudol i
fonitro drwy samplo ac arsylwi bod yr hyn mae ysgolion yn nodi yn yr hunan
arfarniadau yn cyd-fynd â’r hyn sy’n digwydd yn yr ysgol.
(c) Croesawyd y ffurflen gan
ychwanegu y byddai’n ddefnyddiol ac o gymorth i’r ysgolion a llywodraethwyr
hefyd.
(d) Mewn ymateb i ymholiad
ynglŷn â rhwystredigaeth mewn addoli ar y cyd lle ceir nifer o wahanol
grefyddau, ni ragwelir y byddai hyn yn broblem gan fod rhieni yn eithaf hapus
i’w plant gymryd rhan mewn gwasanaeth / gweithgareddau ysgol a bod hwythau fel
rhieni yn cymryd cyfrifoldeb dros y ffydd.
(e) Bod Aelodau CYSAG Ynys
Môn eisoes yn ymweld ag ysgolion i fonitro addoli ar y cyd a’r trefniadau wedi
bod yn llwyddiannus gydag ymateb ysgolion yn bositif iawn.
Penderfynwyd: Derbyn y ffurflen monitro a chymeradwyo i
arbrofi’r defnydd ohoni wrth ymweld â’r ysgolion gan bwysleisio bod y broses ar
gyfer cefnogi ysgolion ac nid i’w harolygu.
(b) Datblygu Llythrennedd a Rhifedd mewn Addysg
Grefyddol yng Nghyfnod Allweddol 3
Derbyniwyd cyflwyniad ar ffurf sleidiau o
adnoddau a ddarparwyd gan Mary Parry, Ymgynghorydd Cysylltiol Addysg Grefyddol
gyda Sir Gaerfyrddin, ar gyfer datblygu llythrennedd a rhifedd mewn Addysg
Grefyddol yng Nghyfnod Allweddol 3 yn seiliedig ar beldroedwyr o’r un ffydd.
Gwelwyd enghreifftiau o dasgau penodol ar weithgareddau megis ysgrifennu
llythyr ynglyn â chredoau sy’n cynnwys sgiliau llythrennedd a rhifedd ac yn
cynnwys unedau yn ymwneud â gweddi, bwyd a diod, Ramadan, a.y.b.
Cyflwynwyd yr uchod i gyfarfod o Gymdeithas
CYSAGau Cymru yn ddiweddar a oedd o’r farn ei fod yn adnodd defnyddiol dros ben
Amlygwyd y pwyntiau canlynol gan aelodau
CYSAG:
(a) Ei fod yn adnodd
da ar gyfer denu diddordeb bechgyn.
(b) Y byddai ysgolion
yn ei weld yn werthfawr fel adnodd
(c) Croesawyd y pecyn
fel adnodd da hefyd ar gyfer datblygu llythrennedd a’i wneud mewn cyd-destun
ystyrlon ac yn ychwanegol bod cyfle i ddefnyddio sgil i drawsieithu a fyddai’n
werthfawr yng nghyd-destun addysg ddwyieithog yng Nghymru
Penderfynwyd: Derbyn a chymeradwyo’r pecyn
a chytunwyd y byddai Aelodau CYSAG a’r Ymgynghorydd Her GwE yn eu rhannu i’r 14
ysgol uwchradd y Sir.
(c) Diweddariad ar ymgynghoriad Yr Athro Donaldson ar
Gwricwlwm i Gymru
Adroddodd Ymgynghorydd Her GwE bod
Llywodraeth Cymru wedi gofyn i’r Athro Donaldson gynnal ymgynghoriad gyda
gwahanol fudiadau ar gyfer llunio cwricwlwm newydd i Gymru. Atgoffwyd y pwyllgor yn ystod yr 80au bod
maes llafur CYTÛN wedi ei lunio ar gyfer ysgolion Gwynedd a Môn ond ers 2007
cytunwyd bod CYSAG Gwynedd wedi cytuno i ddefnyddio fframwaith cenedlaethol ar
gyfer y cwricwlwm ac roedd Addysg Grefyddol ar draws Cymru yn debyg i’w
gilydd. Pe bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion Yr Athro Donaldson
gall olygu newidiadau radical. Roedd
Ymgynghorydd Her GwE wedi llunio ymateb
ar ran CYSAG i’r argymhellion fel a ganlyn:
(1) Ym mha ffyrdd
rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno nad yw’r cwricwlwm cenedlaethol presennol
yn addas bellach i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc yng Nghymru?
Bod Aelodau CYSAG Gwynedd yn cydnabod nad yw rhai
agweddau o’r cwricwlwm cenedlaethol presennol yn diwallu anghenion plant a
phobl ifanc Cymru mewn oes ddigidol.
Fodd bynnag, mae egwyddorion sylfaenol addysg yn ddigyfnewid, sef
datblygu plant a phobl ifanc wybodus, ddeallus, chwilfrydig a sensitif sy’n
dangos parch tuag at gyd-ddyn a’r amgylchfyd mewn byd sy’n newid. Mae addysg grefyddol eisoes yn cyfrannu at
hyn wrth i ddysgwyr feithrin mwy o ddealltwriaeth o arwyddocâd crefydd a’i
bwysigrwydd i bobl.
(2) Beth yw eich barn
am y pedwar diben cyffredinol sy’n cael eu disgrifio yn yr Adroddiad? Yn gyffredinol, ydych chi’n credu mai’r rhain
yw’r sail briodol i’r cwricwlwm i blant a phobl ifanc Cymru yn y dyfodol? Ac, os nad ydynt, pam hynny?
Bod CYSAG Gwynedd yn cefnogi’r pedwar diben
cyffredinol sy’n cael eu disgrifio yn yr adroddiad. Mae addysg grefyddol eisoes yn “ysgogi
dysgwyr i feddwl drostynt eu hunain er mwyn datblygu dealltwriaeth o fywyd, y
byd a chwilio am ystyr sy’n eu hysbrydoli i drawsffurfio eu hunain yn bersonol,
yn gymdeithasol ac yn fyd-eang” (Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer
cyflwyno Addysg Grefyddol i ddysgwyr 3-19 oed yng Nghymru, 2008)
(3) Fframwaith
newydd: 6 maes dysgu a phrofiad. Ym mha ffyrdd rydych chi’n cytuno neu’n
anghytuno â’r dull hwn o weithredu?
Bod CYSAG Gwynedd yn croesawu’r sylw penodol a
theilwng a roddir i Addysg Grefyddol yn yr adroddiad a’u bod yn ymwybodol o
gyfraniad gwerthfawr addysg grefyddol i’r chwe maes dysgu a phrofiad. Fodd bynnag erys rhai cwestiynau:
·
Sut gellir sicrhau
na fydd addysg grefyddol yn “mynd ar goll” o fewn y Dyniaethau a’r meysydd
dysgu a phrofiad eraill?
·
I ba raddau gellir
bod yn hyderus bod ysgolion yn deall hanfodion addysg grefyddol yn yr unfed
ganrif ar hugain?
·
Sut gall ysgolion gyflwyno gofynion y Maes Llafur
Cytûn o fewn y Dyniaethau a’r meysydd dysgu a phrofiad arall a pharhau i
ganiatáu i rieni i dynnu eu plant o’r gwersi addysg grefyddol pe dymunent wneud
hynny?
(4) Asesu sy’n cefnogi
dilyniant addysgol? Ym mha ffyrdd rydych
chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r dull hwn o weithredu?
Bod CYSAG Gwynedd yn credu mai pwrpas asesu yw
cynorthwyo dysgwyr i wneud cynnydd. Mae
arferion da “asesu ar gyfer dysgu” wedi cynorthwyo dysgwyr yng Ngwynedd i wneud
cynnydd da mewn addysg grefyddol. Mae
meithrin dealltwriaeth dysgwyr ac athrawon o’r “camau dilyniant” yn gymorth
wrth gynllunio profiadau dysgu gwerthfawr i ddisgyblion.
Ar hyn o bryd mae CYSAG Gwynedd yn monitro safonau
addysg grefyddol yn y sector uwchradd trwy graffu ar asesiadau athrawon CA3 a
chanlyniadau arholiadau allanol CA4 a CA5.
Mae’n debygol y bydd trefn asesu newydd yn codi heriau newydd:
·
Sut bydd CYSAG
Gwynedd yn diwallu eu cyfrifoldebau statudol i fonitro safonau addysg
grefyddol?
·
Pwy fydd yn
llunio’r “camau dilyniant”? A fydd y
llinynnau “Addysg grefyddol” yn amlwg? A
fydd CYSAG Gwynedd yn gallu cyfrannu at y broses o lunio’r “camau dilyniant”?
·
Pwy fydd yn
hyfforddi’r athrawon i ddefnyddio’r “camau dilyniant” er mwyn helpu’r dysgwyr i
wneud cynnydd mewn addysg grefyddol?
·
Pwy fydd yn
gyfrifol am “samplo” safonau addysg grefyddol?
Pa mor aml? A fydd CYSAG Gwynedd
yn gallu cyfrannu at y broses samplo? A
fydd CYSAG Gwynedd yn cael mynediad i ganfyddiadau’r proses samplo?
(5) Beth yw’ch ymateb
cyntaf i’r egwyddorion addysgeg sydd wedi’u disgrifio yn Adroddiad yr Athro
Donaldson?
Bod CYSAG Gwynedd
yn croesawu’r sylw a roddir i egwyddorion addysgeg yn yr adroddiad. Mae llawer o’r egwyddorion eisoes yn
greiddiol i’r arweiniad a rhoddwyd i athrawon sy’n addysgu addysg grefyddol yn
ysgolion Gwynedd. Fodd bynnag, rydym yn
annog yr athrawon i fyfyrio are u hymarferion er mwyn sicrhau bod eu
strategaethau dysgu ac addysgu yn cael effaith gadarnhaol ar gynnydd dysgwyr.
(6) Ysgolion ac
athrawon yn chwarae rhan yn siapio’r cwricwlwm.
Ym mha ffyrdd rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno bod hyn yn ddymunol?
Bod Aelodau CYSAG
Gwynedd yn gwybod o brofiad am gyfraniad allweddol athrawon ac Aelodau i’r
proses o ddatblygu a chymeradwyo maes llafur Cytûn ac unrhyw ganllawiau
atodol. Teimlir bod athrawon eisoes yn
rhydd i ddatblygu ymchwiliadau sy’n berthnasol i’w ddisgyblion o fewn
“fframwaith” o “ystod” penagored a “sgiliau pwnc”. Rydym yn awyddus bod athrawon yn darparu
profiadau addysg grefyddol sy’n ysgogol ac yn berthnasol i’w disgyblion. Fodd bynnag, credir y dylai plant a phobl
ifanc ddysgu am y cymunedau crefyddol lleol a chenedlaethol sydd yn, ac wedi
cyfrannu at fywyd Cymru. Erys rhai
cwestiynau:
·
Mewn cyfnod o
doriadau, a fydd gan ysgolion arbenigwyr addysg grefyddol sy’n gallu arwain y
broses o ddatblygu’r cwricwlwm?
·
Sut gellir sicrhau
na fydd disgyblion yn ailadrodd testunau neu themâu addysg grefyddol?
·
A fydd gan
athrawon mewn ysgolion uwchradd gwledig yr egni a’r amser i ddatblygu cwricwlwm
newydd ac ymateb i ofynion arholiadau allanol newydd?
(7) Beth yw’r ffordd
orau o barhau â’r broses hon o gyfranogi a sut y byddai’ch ysgol / lleoliad
chi’n hoffi cymryd rhan?
Bod CYSAG Gwynedd yn awyddus i barhau i gyfrannu at
y broses o ddatblygu cwricwlwm cenedlaethol newydd trwy ymateb i holiaduron a
gweithdai. Mae addysg grefyddol o’r
safon uchaf eisoes yn flaenoriaeth i’r Aelodau etholedig, cynrychiolwyr
crefyddol ac athrawon sy’n mynychu Cyfarfodydd CYSAG yn rheolaidd.
Cynrychiolir CYSAG
Gwynedd ar y Panel Ymgynghorol Cenedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol (PYCAG)
ac ar Gymdeithas CYSAGau Cymru ac mae Gwynedd yn cyfrannu at waith Mudiad
Addysg Grefyddol Cymru a gobeithiwn y bydd Llywodraeth Cymru yn cydnabod
profiad, gwybodaeth ac arweiniad y cyrff hyn.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol amlygodd
cynrychiolydd yr athrawon bod Undeb UCAC yn croesawu mwyafrif cynnwys adroddiad
Yr Athro Donaldson, ond mynegwyd pryder ganddynt am weithrediad y cwricwlwm yn
yr hinsawdd ariannol sydd ohoni sy’n golygu llawer iawn o newidiadau sydd yn
eithaf costus.
Penderfynwyd: Derbyn, nodi a chymeradwyo’r
ymatebion a gyflwynwyd ar ran CYSAG Gwynedd i adroddiad yr Athro Donaldson.