Agenda item

I ystyried adroddiad Cadeirydd yr Ymchwiliad Craffu Gofal, Y Cynghorydd Peter Read, ar yr uchod.

Cofnod:

(a)  Bu i’r Is-gadeirydd gadeirio’r eitem uchod er mwyn i’r Cadeirydd, Y Cynghorydd Peter Read, gyflwyno'r  adroddiad uchod a chroesawyd Meinir Williams a Ffion Johnstone o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i’r cyfarfod i ymateb i ymholiadau / sylwadau’r Pwyllgor Craffu.

 

(b)  Cyflwynwyd adroddiad terfynol drafft gan y Cynghorydd Peter Read, Cadeirydd yr Ymchwiliad Craffu O’r Ysbyty i’r Cartref, a oedd yn canolbwyntio ar drefniadau rhyddhau a throsglwyddo cleifion o’r ysbyty i’r cartref.  Diolchodd y Cadeirydd am y cydweithrediad ardderchog gyda staff y Bwrdd Iechyd ynghyd â swyddogion gwahanol Adrannau’r Cyngor a oedd wedi ychwanegu gwerth at ganlyniadau ac argymhellion yr Ymchwiliad.

 

(c)  Nododd y Rheolwr Aelodau – Cefnogi a Chraffu bod yr adroddiad drafft gerbron  yn ffrwyth llafur yr Ymchwiliad Craffu a gomisiynwyd gan y Pwyllgor Craffu hwn a thynnwyd sylw at y pwyntiau canlynol:

 

·         Bod natur yr adroddiad yn wahanol i’r arferol oherwydd yn bennaf dau adroddiad  ynglŷn â darpariaeth a gwaith craffu diffygiol a ddaeth yn amlwg yn Lloegr.   Derbyniwyd  arweiniad i dreialu ffyrdd gwahanol o gynnal ymchwiliadau craffu i geisio uchafu llais pobl sydd yn y gwasanaeth ac fe welir o’r adroddiad bod mwy o ddadansoddi a dehongli gwahanol ddata sydd yn arwain at y prif argymhellion i’w cyflwyno i’r Aelod Cabinet Oedolion, ac Iechyd ac i’r Bwrdd Iechyd.

·         Ymddiheurwyd am hepgor cyfeiriad yn yr adroddiad at ymweliad dau aelod o’r Ymchwiliad i  Ganolfan Heneiddio’n Dda yng Nghricieth

 

(ch)      Croesawyd unrhyw sylwadau gan y Pwyllgor Craffu ar y prif ganfyddiadau amlinellir yn yr adroddiad ac fe nodwyd y pwyntiau isod:

 

1.         Tra’n derbyn bod Gwynedd yn perfformio’n dda ar y cyfan o ran cymhariaeth genedlaethol ar y mesurydd trosglwyddo cleifion yn amserol o’r ysbyty i’r gymuned nodwyd bod problemau yn amlygu yn ystod y penwythnosau.

 

Mewn ymateb, eglurodd cynrychiolydd o’r Bwrdd Iechyd bod y penwythnosau yn profi’n anodd o ran trosglwyddo cleifion yn ystod cyfnod yr haf oherwydd diffyg Gweithwyr Cymdeithasol yn yr ysbyty dros y penwythnos ond ei fod wedi gweithio’n dda yn ystod y gaeaf. Nodwyd ymhellach bod gwaith yn mynd rhagddo ar yr uchod ond bod gan y Bwrdd Iechyd fwy o sialensiau yn ymwneud â chartrefi yn methu derbyn cleifion yn ôl dros y penwythnosau oherwydd lefelau staffio ynghyd â throsglwyddo cleifion i’r ysbytai cymunedol. 

 

2. Cydnabuwyd gan gynrychiolydd y Bwrdd Iechyd bod llunio cynllun gofal yn flaenoriaeth ganddi'r flwyddyn yma. 

 

1.    Yr angen am gydweithio gyda’r Trydydd Sector yn enwedig yn ardaloedd Dwyfor / Meirionnydd.

 

2.    Cytunwyd  bod lle i wella o safbwynt rhyddhau claf ar y penwythnosau.

 

3.    Bod angen cysoni’r trefniadau a chael cynllun o safbwynt rhyddhau claf, a phecynnau iddynt fynd adref  o Ysbyty Bronglais i Dde Gwynedd

 

4.    O safbwynt prinder meddygon teulu a nyrsys, mynegwyd:

 

·         anfodlonrwydd nad oedd cydymffurfiaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o’r polisïau ysgrifenedig i’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad. Darganfuwyd bod protocol newydd lle rhyddheir y claf o’r ysbyty ac os yw’r claf angen gofal nyrsio mae’n ofynnol i’r unigolion sy’n gofalu chwilio, o fewn 5 diwrnod,  am gartref gofal nyrsio i’r claf hefo o leiaf un gwely gwag yn un o’r cartrefi er efallai nad yw yn gartref o ddewis cyntaf y claf. 

·         Beth ydoedd criteria a chymwysterau'r staff nyrsio o safbwynt gofal canolradd mewn cartrefi preswyl?

·         Pryder nad yw staff yn yr ysbytai yn ymwybodol o’r polisi rhyddhau.

·         Pryder nad oedd nyrsys yn mynd i gartrefi preswyl mewn rhai ardaloedd ac nad oedd meddygon ar gael ychwaith ac yn ddibynnol ar   locwm sydd ddim yn adnabod y cleifion. 

·         A yw’r Bwrdd Iechyd yn cydweithio gyda’r Colegau ar gyfer recriwtio meddygon teulu / nyrsys

·         Bod yr awdurdod wedi cefnogi i gael Uned Hyfforddi Meddygon yn y Brifysgol ond fe ddargyfeiriwyd yr arian a oedd wedi ei glustnodi gan Lywodraeth Cymru

·         Pwysigrwydd yr Iaith Gymraeg o safbwynt bod claf yn cael dewis yr iaith maent yn hyderus ynddo 

 

   

Ymatebodd cynrychiolydd y Bwrdd Iechyd i’r uchod drwy esbonio:

 

·         bod y polisi rhyddhau yn un cenedlaethol a bod y Bwrdd Iechyd yn cael amser caled i sicrhau bod claf yn cael y gofal iawn unwaith maent allan o’r ysbyty.  Nodwyd dros Ogledd Cymru bod  gwelyau cartrefi preswyl a nyrsio  yn cau yn wythnosol a bod y sefyllfa yn argyfyngus. Noda’r polisi os yw’r claf yn awyddus i fynd i gartref nyrsio am dymor hir mae’n ofynnol iddynt fynd i ysbyty cymunedol. Cydnabuwyd nad oedd yn hawdd ymateb i’r sefyllfa ond dymunir bod claf yn cael y ddarpariaeth o’u dewis. 

·         bod asesiad o’r claf yn cael ei gwblhau o safbwynt anghenion nyrsio neu ofal preswyl. Mewn rhai achlysuron lle nad oes angen cymaint o ofal nyrsio, gall nyrsys y gymuned fod o gymorth ond yn sicr rhaid cael cynllun i gwrdd ag anghenion gofal y claf. 

·         Bod y Bwrdd Iechyd wedi cwrdd â  meddygon Dwyfor / Meirionnydd ac wedi penderfynu  defnyddio ychydig o arian ar gyfer recriwtio mewn dull gwahanol i geisio denu meddygon ifanc gyda’r addewid i’w datblygu i arbenigo mewn gwahanol feysydd boed hyn yn arbenigedd gofal a / neu gweithio hefo ymgynghorwyr arbenigol.  Ar gyfer nyrsys, hyderir y gallent weithio ar y cyd gyda rhai yn yr ardal ac eraill  yn y feddygfa teulu.  Sicrhawyd bod y mater uchod yn flaenoriaeth i geisio denu mwy o rhai ifanc i’r ardal.

 

5.    Cytunwyd bod gormod o fiwrocratiaeth ond ychwanegodd cynrychiolydd y Bwrdd Iechyd bod cydweithio da yn lleol gyda Gwasanaethau Cymdeithasol a bod y ddau gorff yn herio ei gilydd.  Hyderir drwy “Ffordd Gwynedd” y gellir gwaredu’r fiwrocratiaeth a rhoi'r claf yn ganolog. 

 

 

(d)  Tynnwyd sylw at brif argymhellion yr Ymchwiliad Craffu fel amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe nodwyd y sylw ychwanegol canlynol:

 

·         Bod angen cryfhau’r argymhelliad yn ymwneud â phrinder meddygon a nyrsys oherwydd bod y sefyllfa’n argyfyngus a phryderwyd  bod myfyrwyr yn tueddol i astudio meddygaeth yn Lloegr ac o ganlyniad yn aros yno wedi cymhwyso   

 

(dd)      Gofynnwyd i’r Aelod Cabinet Oedolion, ac Iechyd a Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr weithredu ar yr argymhellion drwy lunio Cynllun Gweithredu ar y cyd erbyn mis Gorffennaf 2015 gyda disgwyliad am adroddiad cynnydd ym mis Ionawr 2016.

 

(e)  Mewn ymateb, diolchodd yr Aelod Cabinet Oedolion, ac Iechyd am yr adroddiad gan nodi mai’r ffordd orau ymlaen ydoedd i’w gyfeirio at y Fforwm Sirol i gael sylw.  Ychwanegodd cynrychiolydd y Bwrdd Iechyd y byddir yn anodd darparu Cynllun Gweithredu erbyn Gorffennaf oherwydd nad oedd y Fforwm Sirol yn cwrdd yn fuan.  Byddir yn trafod amserlen gytunedig o safbwynt y Cynllun Gweithredu yn y Fforwm Sirol.  Cadarnhawyd yn ogystal y byddir yn gwahodd y Cynghorydd Peter Read, Cadeirydd yr Ymchwiliad Craffu, ynghyd â’r Rheolwr Aelodau - Cefnogi a Chraffu i’r cyfarfodydd.  Mewn ymateb i ymholiad ynglyn ag aelodaeth y Fforwm Sirol, esboniwyd ei fod wedi ei gyfyngu o ran niferoedd rhag iddo fynd yn anferth o faint ac ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar drawsnewid y gwasanaeth pobl hŷn ond sicrhawyd petai eitemau penodol ynglyn ag iechyd meddwl / anabledd dysgu fe wahoddir aelodau ac arbenigwyr yn ôl y galw.  

 

(f)   Er gwybodaeth bellach, nododd:

 

·         y Cyfarwyddwr Corfforaethol a Chyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod ynghyd â’r Aelod Cabinet Oedolion, ac Iechyd yn gwasanaethu ar Fwrdd Iechyd Canolbarth Cymru ac y byddai modd ymateb rhai o’r argymhellion drwy gydweithrediad y Bwrdd hwnnw.

·         Y Rheolwr Aelodau – Cefnogi a Chraffu bod trefniadau yn mynd rhagddynt i gynnal cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu hwn ym mis Gorffennaf i drafod ymgysylltu ac ymgynghori gyda’r Bwrdd Iechyd

 

Diolchwyd i’r Ymchwiliad Craffu am ei gwaith ac yn benodol i’r Cynghorydd Peter Read a’r Rheolwr Aelodau – Cefnogi a Chraffu a’i dim am arwain yr ymchwiliad.

 

 

Penderfynwyd:                      (a)        Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad.

 

(b)       Cymeradwyo:

 

(i)            Yr argymhellion amlinellir yn adroddiad yr Ymchwiliad Craffu o’r Ysbyty i’r Cartref ynghyd â’r sylwadau wnaed yn (ch) a (d) uchod.

(ii)          I gyflwyno adroddiad terfynol i’r Aelod Cabinet Oedolion, ac Iechyd, Oedolion ac Iechyd a Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer gweithredu’r argymhellion drwy lunio Cynllun Gweithredu ar y cyd erbyn amserlen i’w gytuno gan y Fforwm Sirol.  

 

Dogfennau ategol: