Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cyng. Gareth Roberts

 

I dderbyn adroddiad yr Aelod Cabinet Gofal ar yr uchod.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Oedolion, ac Iechyd yn amlinellu gweledigaeth a chyfeiriad newydd ar gyfer y Gwasanaeth Oedolion gan ganolbwyntio’n benodol ar faes gofal pobl hŷn. 

 

Amlinellodd yr Aelod Cabinet Oedolion, ac Iechyd y cefndir gan nodi bod newid enfawr i ddigwydd nid yn unig yng Ngwynedd ond drwy Gymru gyfan.  Nododd bod newid cyfeiriad yn hynod bwysig ac mai  gyrrwr allweddol y newidiadau ydoedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ynghyd â barn pobl hŷn am y math o wasanaethau a darpariaethau maent am eu gweld ar gyfer cyfnod eu henaint hwy.  Bydd angen cynnal gwaith cynhwysfawr gyda’r defnyddwyr ac yr un pryd ni ellir anwybyddu’r toriadau cyllidol ac os am geisio amddiffyn y sefyllfa bresennol golygai arbedion ariannol mewn meysydd eraill.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

 

(a)  Trafodwyd cofrestriad deublyg yn y gorffennol ar sawl achlysur a mynegwyd pryder ynglŷn â’r drefn bresennol gyda chleifion yn cael eu rhyddhau o’r ysbytai i gartrefi preswyl ar gyfer gofal canolradd a’r staff heb gymwysterau priodol i warchod anghenion y cleifion.  Teimlwyd ymhellach bod hyn yn fodd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gael cleifion allan o’r ysbytai ynghynt.

(b)  Anfodlonrwydd bod unigolion sydd wedi gweithio a chyfrannu yn ariannol ar hyd eu bywydau yn gorfod talu am ofal a rhai eraill yn ei dderbyn yn rhad ac am ddim.

(c)  Bod pobl hŷn yn awyddus i fod yn annibynnol am gyn hired â phosibl a bod eu hiechyd yn dirywio erbyn y diwedd.

(d)  Cytunwyd â’r sylw uchod gan ychwanegu nad oedd yr isadeiledd yn gywir a bod unigolion yn dod at y gwasanaeth pan fyddent mewn argyfwng.

(e)  Awgrymwyd y byddai o fudd i Aelodau’r Pwyllgor hwn dderbyn copi o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ynghyd â hyfforddiant ar oblygiadau’r ddeddf.

(f)   Bod cynnwys yr adroddiad yn ddiystyriol ac mewn rhai rhannau yn gwamalu o safbwynt anghenion pobl hŷn 

(g)  Tra’n cydnabod bod egwyddorion o’r weledigaeth yn wych, rhannwyd pryder ar sut y byddir yn ei weithredu ar lawr gwlad a sut y byddir yn sicrhau atebolrwydd

(h)  Tra’n cytuno bod unigolion yn awyddus i fyw yn annibynnol rhaid cydnabod bod cyfrifoldeb ar y gwasanaeth os ydynt yn dioddef hefyd ac yn y pen draw yn fwy costus

(i)    Pryder nad yw meddygon ifanc yn awyddus i weithio fel meddygon teulu yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. 

(j)    Mynegwyd bod yr angen am ddarpariaeth gofal yn cynyddu ar gyfer mewnfudwyr sy’n symud i gefn gwlad ac angen darpariaeth gofal oherwydd nad oes ganddynt gefnogaeth deuluol yn byw yn agos

(k)  Bod gwasanaeth teleofal yn hanfodol i lawer o bobl hŷn  

(l)    Nad oedd darpariaeth gofal ysbaid digonol yn ardal Arfon a bod gwir angen darpariaeth o’r fath ar gyfer y gofalwyr

(m) Pwysigrwydd i gydweithio gyda’r trydydd sector a chyfeiriwyd at gynlluniau megis “Cynllun Ffrindiau” sydd yn ddarpariaeth lwyddiannus

 

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet Oedolion, ac Iechyd a’r swyddogion i’r sylwadau uchod fel a ganlyn:

 

(i)            Cydymdeimlir bod unigolion sydd wedi cynilo ar hyd eu hoes yn gorfod talu am ddarpariaeth ond rhaid cydymffurfio â rheoliadau deddf gwlad yn hyn o beth.

(ii)           ceisir peidio gwarchod oedolion yn ormodol gyda’r canlyniad iddynt waethygu a’r syniad sydd gerbron fel rhan o’r newidiadau ydyw i oedolion fod yn fwy bywiog  yn gorfforol a meddyliol / cadw’n iach ac o ganlyniad yn lleihau dirywiad i’r ymennydd

(iii)          rhaid parchu dymuniadau pobl hŷn sydd yn awyddus i aros yn eu cartrefi

(iv)         mai darlun o’r math o wybodaeth a gasglwyd a gyflwynir yn yr atodiadau i’r adroddiad fel enghreifftiau a cheisir pwysleisio bod rhaid ymdrin hefo achosion mewn ffurf wahanol yn sgil y newidiadau ac y byddai’r newid yn effeithio nid yn unig ar staff ond ar fudiadau’r trydydd sector 

(v)          bod safle gwefan Llywodraeth Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd i roi sylw i ddymuniad yr unigolyn a bod hyn yn cydymffurfio â strategaeth “Ffordd Gwynedd”

(vi)         Bod y Ddeddf yn creu newid pellgyrhaeddol a mynegwyd pwysigrwydd i warchod yr unigolion mwyaf bregus. Nodwyd ymhellach bod perygl i warchod rhai sydd ddim angen y ddarpariaeth a’i bod yn bwysig gwrando ar unigolion a darparu yn unol â’u hanghenion.  Ni ellir cael unigolion yn derbyn gwasanaeth statudol cyn iddynt fod ei angen ac felly nodwyd pwysigrwydd i gael yr hafaliad yn gywir drwy warchod y rhai mwyaf bregus gyda chyfres o wasanaethau ataliol. Pwysleisiwyd  pwysigrwydd i bawb chwarae rôl yn Aelodau etholedig a swyddogion ac i gydweithio er mwyn llwyddo.

(vii)        Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod ynglŷn ag union ffigwr o safbwynt niferoedd gwelyau yng Nghartrefi Preswyl Gwynedd, addawyd anfon manylion yn uniongyrchol i’r Aelod ynghyd â gwybodaeth am restr aros.

(viii)       Nad oedd cynllun penodol ar gyfer darpariaeth gofal ysbaid ac y byddir yn edrych ar sut gall y datblygiad gyfrannu at hyn.   

(ix)         Y cam cyntaf ydoedd cwblhau darn o waith “Dechrau i’r Diwedd” ac y byddir mewn sefyllfa i gyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Craffu hwn ym mis Medi      

 

 

 

Penderfynwyd:          (a)    Gofyn i’r Pennaeth Dros Dro Oedolion, Iechyd a Llesiant drefnu mewn ymgynghoriad â’r Uned Hyfforddiant bod aelodau’r Pwyllgor Craffu hwn yn derbyn hyfforddiant ar y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

                                    (b)       Gofyn i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol a Chyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno:

 

(i) manylion ynglŷn â’r cynlluniau sydd wedi eu paratoi o fewn y Cynllun Strategol i gyfarfod paratoi'r Pwyllgor Craffu hwn i’w gynnal ar 28 Gorffennaf 2015.

(ii) adroddiad ar y cynllun “Dechrau i’r Diwedd” i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu hwn i’w gynnal ar 22 Medi 2015.