Agenda item

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn rhoi diweddariad ar y prosiect pwlio buddsoddiadau ar gyfer cronfeydd pensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yng Nghymru.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod cynnig am Pŵl Cymru wedi ei  gyflwyno i’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (ACLlL) (Department for Communities and Local Government (DCLG) yn Chwefror 2016. Nodwyd bod y cynnig hwnnw yn ymateb i’r meini prawf ag eithrio maint, gan fod y DCLG wedi nodi y byddent yn rhagweld pwls gydag isafswm o £25bn o asedau (cyfanswm asedau cronfeydd Cymru oedd tua £12-13bn ym mis Mawrth 2015). Ychwanegwyd bod y cynnig hefyd yn pwysleisio'r gwaith sylweddol a wnaed hyd yma ynghyd a chreu sefyllfa unigryw o gydweithio ledled Cymru.

 

Adroddwyd bod ymateb DCLG i’r cynnig yn rhoi cefnogaeth gref i'r defnydd arfaethedig o gerbyd rheoleiddio ffurfiol ac yn cydnabod nodweddion unigryw  Pŵl Cymru. Anogwyd y cronfeydd i weithio ymhellach ar fanylion y cynnig a chyflwyno cynnig manylach ym mis Gorffennaf.

 

Nodwyd bod y Cynghorydd Stephen Churchman a’r Pennaeth Cyllid wedi mynychu  cyfarfod o Gadeiryddion Pŵl Cymru yng Nghaerdydd ar 13 Mai. Rhoddwyd diweddariad cryno ar rai o’r materion a drafodwyd.

 

·         Cadarnhau’r bwriad i symud ymlaen i ddefnyddio gweithredwr trydydd parti ar gyfer cyd-fuddsoddi

·         Cadarnhawyd y byddai cronfeydd unigol yn parhau gyda rheolaeth dros eu strategaethau buddsoddi eu hunain (dyrannu i gategorïau o asedau)

·         Trafodaethau trosglwyddo buddsoddiadau angen eu cynnal i ystyried trefniadau  a gweithredu

·         Bod angen ymgysylltu ynglŷn â rôl Byrddau Pensiwn, ac os bydd angen Bwrdd Pensiwn i Gymru

·         Bydd Cyd-bwyllgor (yn cynnwys Cadeiryddion Pwyllgorau Pensiwn a Phrif Swyddogion Cyllid) yn cael ei sefydlu i fonitro a herio gwaith y gweithredwr

·         Ni fydd cyfarwyddyd gan y Llywodraeth o ran % o’r gronfa i’w fuddsoddi mewn isadeiledd - disgwylir i’r Pŵl wneud datganiad o uchelgais (5% - 10%).

·         Anodd adnabod arbedion o’r broses - ni fydd y Llywodraeth yn mynnu bod y Pŵl yn cadw at ei amcangyfrif o arbediad

 

Adroddwyd y byddai Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd, gyda dau swyddog arall o Pŵl Cymru a chefnogaeth Hymans, yn cyflwyno i Panel y Llywodraeth yn Swyddfa Trysorlys EM yn Llundain, ar y 16eg o Fehefin. 

 

Nodwyd hefyd byddai Cadeirydd Pwyllgor Pensiynau Gwynedd a’r Pennaeth Cyllid yn mynychu cyfarfod nesaf Cadeiryddion Pŵl Cymru yng Nghaerdydd ar 27 Mehefin i gytuno’r ffordd ymlaen, ac yn mynychu cyfarfod o’r Bwrdd Pensiwn Gwynedd ar 29 Mehefin i adrodd ar gynnydd perthnasol.

 

b)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â beth fydd costau ‘tynnu allan’ o fuddsoddiadau cyfredol y Gronfa, adroddwyd y byddai hyn yn ddibynnol ar y gweithredwr, y rheolwyr buddsoddi, a’u portffolio buddsoddiadau.

 

c)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phwy fydd yn dewis rheolwyr y Pŵl, (fund managers), adroddwyd mai'r gweithredwr fydd yn dethol a dewis y rheolwyr, gyda’r cyd-bwyllgor yn dylanwadu wrth fonitro a herio gwaith y gweithredwr.

 

ch)   Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â beth fydd y canran tebygol o arian y dylid ei fuddsoddi mewn isadeiledd, ac i sylw y dylid ystyried manteision a chyfleoedd lleol, nodwyd bod disgwyliad i’r Gronfa nodi canran bwriadol i’r isadeiledd yn y cyflwyniad i’r DCLG ym mis Gorffennaf. Yn rhesymegol, bydd canran tymor-canol o 5% yn cael ei ystyried, gyda chynnydd graddol hir-dymor tuag at 10%. O ran ystyried cyfleodd buddsoddi lleol, bydd rhaid ceisio'r gorau i’r gronfa er mwyn uchafu’r disgwyliadau.

 

Yng nghyd-destun buddsoddi mewn isadeiledd lleol, amlygwyd bod angen sicrhau bod Gogledd Cymru yn cael eu siâr o fuddsoddiadau, ac awgrymwyd rhoi cyfarwyddyd bod pob cyfle sydd yn codi yn y gogledd yn cael ei archwilio - hyn yn fater o egwyddor.

 

d)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r arbedion posib o uno cronfeydd Cymru, amlygodd y Pennaeth Cyllid bod angen cynnwys amcangyfrif o’r arbedion posib o gostau trosglwyddo yn y cyflwyniad ym mis Gorffennaf, ond bod hyn at bwrpas engreifftiol.

 

dd)   Adroddwyd y byddai rhaid i bob cronfa yng Nghymru gyfaddawdu i sicrhau un drefn gan annog cydweithio ac addasu i fod yn un.

 

Ategwyd bod  Cronfa Bensiwn Gwynedd yn un o’r goreuon yn y wlad ac nad oedd angen i berfformiad eraill effeithio ar hyn. Bydd rhaid sicrhau bod gwerth y Gronfa yn parhau yn faes blaenoriaeth.

 

Penderfynwyd derbyn y wybodaeth a dirprwyo’r grym i’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda Chadeirydd y Pwyllgor, i gytuno ar gynnwys  cyflwyniad Pŵl Cymru i’r DCLG ym mis Gorffennaf 2016.

 

 

 

Dogfennau ategol: