Agenda item

Newid defnydd o siop (A1) I fwyd a diod (A3) ynghyd ag estyniad uned echdynnu a newidiadau i gefn yr eiddo 

 

AELODAU LLEOL:               Y Cynghorydd  Anne Lloyd Jones

                                                Y Cynghorydd  Mike Stevens

 

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

 

Cofnod:

Bu i’r Is-gadeirydd cymryd y gadair ar gyfer y cais hwn er mwyn caniatáu i’r Cadeirydd annerch y Pwyllgor fel Aelod lleol.

 

Newid defnydd o siop (A1) i fwyd a diod (A3) ynghyd ag estyniad uned echdynnu a

newidiadau i gefn yr eiddo.  

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai’r bwriad ydoedd newid defnydd o siop sydd wedi bod yn wag ers peth amser i ddefnydd gwerthu bwyd a diod. Noda’r cais mai bwyty fydd y bwriad gyda’r bwriad o werthu bwyd poeth i’w gario allan yn ogystal. Golyga’r cais newidiadau allanol i gynnwys estyniad ar gyfer darpariaeth toiledau cwsmeriaid. Yn ogystal, bwriedir gosod ffliw echdynnu ar ddrychiad cefn yr eiddo, a blaen siop newydd ar y drychiad blaen.  Tynnwyd sylw bod y safle o fewn ffin datblygu Tywyn ac o fewn ardal gyda chymysgedd o ddefnyddiau sydd yn cynnwys tai preswyl, siopau, llefydd bwyta, tafarn a busnesau eraill.  Cyfeiriwyd at grynodeb o’r polisïau perthnasol o fewn yr adroddiad a derbyniwyd sylwadau hwyr gan Uned Gwarchod y Cyhoedd am fwy o wybodaeth ynglyn a’r uned echdynnu. Derbyniwyd deiseb gan fusnesau a thrigolion lleol yn gwrthwynebu’r cais am ‘run  rhesymau a gyfeirir atynt yn yr adroddiad.  Noda’r adroddiad gyflwr gwael yr adeilad a’r cyfnod a fu yn wag.   O ystyried bod yr ardal o fewn canol tref ddiffiniedig Tywyn mor hir a bod y safle ar y cyrion ni ystyrir y byddai’r bwriad yn tanseilio swyddogaethau manwerthu'r dref.  Ni ystyrir ychwaith y byddai’r bwriad yn arwain at effaith annerbyniol ychwanegol o safbwynt swn, arogl nac ysbwriel.  Nodwyd y dylid cytuno ar fanylion yr uned echdynnu a’i gweithredu cyn i’r defnydd gychwyn.  Cyfeiriwyd at apeliadau diweddar a’r farn gan yr Arolygydd bod well cael defnydd o eiddo na siop wag sy’n dirywio ac o ganlyniad yn cael effaith o fewn tref.  O safbwynt mwynderau cyffredinol a phreswyl ni ystyrir y byddai’r bwriad yn ychwanegu at neu greu crynhoad annerbyniol o’r math yma o ddefnydd a’i fod yn achosi effaith andwyol ar yr ardal.  Ni ystyrir y byddai’r estyniad unllawr bychan i gefn yr eiddo yn cael effaith andwyol ar fwynderau trigolion eiddo cyfagos ac felly ystyrir bod y bwriad yn cydymffurfio a holl ofynion y polisi perthnasol. Fe fyddir yn gosod amodau ynglyn ag oriau agor yn ogystal ag uned echdynnu pe caniateir y cais.  Argymhellir i ddirprwyo’r hawl i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn mwy o wybodaeth gan Uned Gwarchod y Cyhoedd ynglyn a’r offer echdynnu ac yn unol â’r amodau a nodir yn yr adroddiad.

 

(b)       Nododd yr Aelod lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) nad oedd yn gwrthwynebu’r cais ac nad oedd cystadleuaeth gyda busnesau eraill o fewn yr ardal dan sylw yn rheswm i wrthod y cais.  Fodd bynnag, amlygwyd pryderon gan y cymdogion cyfagos ond hyderir y byddai’r pryderon ynglyn ag arogl yn cael ei liniaru gan y sustem echdynnu,  Ni ragwelai y gellir ei wrthod a bod defnydd o’r eiddo i’w groesawu yn hytrach na’i fod yn wag ac yn dirywio. 

             

(c)       Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

(ch)   Mewn ymateb i ymholiadau gan Aelodau unigol, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu:

 

·         Bod yr Adran Gynllunio yn nodi’r amodau ar gyfer oriau agor er mwyn gwarchod mwynderau lleol

·         Tra’n derbyn bod rhai busnesau o’r fath sydd wedi eu sefydlu ers blynyddoedd yn gweithredu heb amodau ond ceisir bod yn gyson gydag oriau agor ar geisiadau newydd

·         Y byddai hawl gan y perchnogion i roi cais i’r Uned Drwyddedu i ddiwygio’r amod

·         Hyderir y byddai’r sustem echdynnu yn lliniaru unrhyw arogl 

 

PENDERFYNWYD:   Yn unfrydol, dirprwyo’r hawl i Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio, Amgylchedd a Gwarchod y Cyhoedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn manylion derbyniol am yr uned echdynnu ac i dderbyn sylwadau ffafriol gan Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd ar y manylion hynny ac i amodau canlynol:–

 

1.    Y datblygiad i gychwyn o fewn 5 mlynedd i ddyddiad y caniatâd;

2.    Un ôl a’r cynlluniau a gyflwynwyd;

3.    Cyflwyno manylion uned echdynnu er cymeradwyaeth ysgrifenedig cyn cychwyn y defnydd, rhaid i’r system echdynnu a gytunir fod yn weithredol cyn cychwyn y defnydd;

4.    Gorffeniadau i gydweddu a’r adeilad presennol;

5.    Ni fydd y safle yn agored i gwsmeriaid y tu hwnt i oriau 9:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod penodol;

6.    Dim dŵr wyneb ychwanegol i’w waredu i’r garthffos gyhoeddus;

7.    Unrhyw amod cynllunio perthnasol a argymhellir gan Uned Gwarchod y Cyhoedd.

 

 

Dogfennau ategol: