Agenda item

Codi estyniad tri llawr blaen er mwyn darparu 2 sgrin sinema, derbynfa, swyddfeydd a cyfleusterau manwerthu. 

 

 

AELOD LLEOL:   Y Cynghorydd Ioan Ceredig Thomas

 

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

 

Codi estyniad tri llawr blaen er mwyn darparu 2 sgrin sinema, derbynfa, swyddfeydd a chyfleusterau manwerthu.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y byddai edrychiadau allanol yr estyniad yn gymysg o ddeunyddiau gydag edrychiad diwydiannol iddynt ac wedi eu dewis gan gymryd i ystyriaeth lleoliad agored y safle i heli’r môr ynghyd a’r amcan i greu adeilad sy’n adlewyrchu hanes diwydiannol y rhan yma o’r dref.  Cyfeiriwyd at y polisïau cynllunio perthnasol.  Ystyrir bod y bwriad o ymestyn yr adeilad presennol yn dderbyniol mewn egwyddor ac o safbwynt mwynderau gweledol ni chredir y byddai'n creu strwythur anghydnaws yn y strydlun.  Ni fyddai ychwaith yn cael ardrawiad sylweddol nac arwyddocaol ar fwynderau’r trigolion / defnyddwyr cyfagos.  O safbwynt materion trafnidiaeth cyflwynwyd cynllun diwygiedig parthed yr encilfa a chyfeiriwyd at ddatganiad gan yr Uned Drafnidiaeth ar y ffurflen sylwadau hwyr nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r cynllun diwygiedig sy’n lleihau’r encilfa ar gyfer un bws yn unig.  Tynnwyd sylw bod Polisi CH36 yn datgan gwrthod datblygiadau os na ddarperir lle i barcio cerbydau oddi ar y stryd ond yr achos hwn credir (er gwaethaf bod 4 llecyn parcio yn cael eu colli) bod hygyrchedd y safle parthed gwasanaeth cludiant cyhoeddus a pha mor rhwydd yw hi i gerdded ac i feicio i’r safle ynghyd a pha mor agos ydyw at fannau parcio cyhoeddus yn digolledu’r 4 man parcio.  Yn seiliedig ar yr holl ystyriaethau roedd y swyddogion cynllunio o’r farn bod y bwriad yn dderbyniol ar sail egwyddor, graddfa, lleoliad, dyluniad, ffurf, deunyddiau, diogelwch ffyrdd, mwynderau gweledol a phreswyl ac yn sgil hyn yn argymell caniatáu’r bwriad.

 

(b)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

(c)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan aelodau unigol:

 

·         tra’n gefnogol i’r cais, hyderir y byddai’r ddarpariaeth yn cael fwy o ddefnydd na’r sinema sydd yn bodoli’n barod yn yr adeilad ac na fydd yn segur o ystyried bod pobl yn teithio i Landudno i’r sinema

·         bod siawns i achub y blaen ar drefi eraill ac y dylid bod yn flaengar mewn hysbysebu a gwerthu’r diwydiant ffilmiau yn effeithiol

·         bod y parcio yn peri pryder yn enwedig yn dilyn dyfodiad syrjeri’r meddygon i’r cyffiniau ac efallai y byddai modd i’r Cyngor fedru agor maes parcio aml-lawr staff y Cyngor sydd wedi ei leoli gerllaw at ddefnydd parcio pan nad mewn defnydd gan aelodau staff y Cyngor

·         nad oedd 4 llecyn parcio yn hyfyw ac y dylid cael o leiaf 100 o fannau parcio i ddatblygiad o’r fath

·         teimlwyd nad oedd y deunyddiau a ddefnyddir yn gynaliadwy o ystyried lleoliad yr adeilad

·         croesawyd y dyluniad fel un gwahanol a chyffrous a’i fod yn gweddu i Doc Victoria o ystyried yr hanes diwydiannol i’r ardal

·         nad oedd cilfan i un bws yn ddigonol ac oni ddylid lleihau mannau parcio eraill

·         pryder ynglyn a nifer o lefydd parcio i’r anabl a gofynnwyd bod mannau digonol yn cael eu darparu

·         y dylid bod yn ymwybodol o anghenion unigolion sy’n dioddef o ddementia o safbwynt gorffeniad y lloriau tu fewn i’r adeilad

·         pryder bod yr adeilad yn amddifadu’r golygfeydd

 

(ch)    Mewn ymateb i’r pryderon amlygwyd uchod, esboniodd y swyddogion fel a ganlyn:

         

·         o safbwynt parcio, bod tri maes parcio cyhoeddus o fewn pellter cerdded i’r adeilad a bod potensial i agor maes parcio staff y Cyngor ar ôl 6.00 p.m.

·         y byddai 2 gilfan bws yn amharu ar welededd y fynedfa

·         bod y cynllun yn dangos 2 safle parcio i’r anabl ond byddai modd i’r Uwch Beiriannydd Rheolaeth Datblygu drafod ymhellach gyda’r ymgeisydd ar gyfer mwy o ddarpariaeth parcio i’r anabl wrth y drws ffrynt

·         mai ar yr ochr ddwyreiniol fyddai’r datblygiad ac felly ddim yn amharu ar y golygfeydd

         

            PENDERFYNWYD:   Yn unfrydol, caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau perthnasol yn ymwneud â:-

 

            1. 5 mlynedd.

            2. Yn unol â’r cynlluniau.

            3. Amod Dwr Cymru parthed gwaredu dŵr hwyneb o’r safle.

            4. Amodau priffyrdd.

            5. Deunyddiau allanol i’w cytuno.

 

Dogfennau ategol: