skip to main content

Agenda item

Addasu rhan o’r adeilad amaethyddol presennol ar gyfer 11 cybiau cwn ynghyd â lleoli tanc storio cathion gerllaw 

 

 

AELOD LLEOL:  Y Cynghorydd Ioan Ceredig Thomas

 

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais o addasu rhan o’r adeilad amaethyddol presennol ar gyfer 11 cybiau cwn ynghyd a lleoli tanc storio carthion gerllaw, ac yn cynnwys creu uned arwahanu i gadw cwn pe byddent yn dioddef o haint neu salwch ynghyd a lolfa/swyddfa ac ystafell paratoi bwyd.  Lleolir y safle ar gyrion gorllewinol Caernarfon mewn ardal rhannol wledig sy’n cynnwys anheddau preswyl wedi eu lleoli ar wasgar i’r gogledd, gorllewin ac i’r de-ddwyrain o safle’r cais.  Cyfeiriwyd at y polisïau cynllunio perthnasol a’r ymgynghoriadau cyhoeddus.  Nodwyd bod yr egwyddor yn seiliedig ar bolisi D10 o CDUG i greu amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth yn lleol drwy drosi adeiladau ar gyfer defnyddiau masnachol a diwydiannol.  Ymhelaethwyd ar y bwriad o safbwynt mwynderau gweledol, mwynderau cyffredinol a phreswyl ac yn benodol effaith sŵn ac aflonyddwch ar fwynderau trigolion cyfagos,  ynghyd a materion trafnidiaeth a mynediad. Tynnwyd sylw bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth ychwanegol gyda’r cais i liniaru unrhyw effaith trafnidiaeth gyda’r bwriad o gasglu’r cwn i leihau cynnydd yn y drafnidiaeth i mewn ac allan o’r safle.  Byddai unrhyw fynediad i’r safle gan y cyhoedd / perchnogion yn eithriad a thrwy wahoddiad yn unig (rhwng 3.00 a 6.00 p.m. ar ddydd Sul. Mewn ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus a’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd am nifer o resymau, ystyrir nad oedd unrhyw fater yn gorbwyso’r ystyriaethau polisi a bod y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio a’r polisïau a chanllawiau cynllunio lleol a chenedlaethol perthnasol.  Argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd caniatáu’r cais yn unol ag amodau fel amlinellir yn yr adroddiad.

 

(b)     Nododd yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn)

 

·         cydnabyddai bod angen i arall gyfeirio ac edrych am opsiynau eraill gyda’r weledigaeth yn cynnig darpariaeth newydd o safon uchel

·         bod y safle yn agored ar gyrion Caernarfon ac yn denu cryn dipyn o fywyd gwyllt a’i fod yn encil tawel

·         cyfeiriwyd at y gwrthwynebiadau gan berchnogion y tai cyfagos a oedd yn cynnwys yn bennaf bryderon am y sŵn, ac nad oedd canllawiau ar ofynion trwyddedu cybiau  masnachol

·         bod y lleoliad yn agos i dai a’r risg o greu aflonyddwch i’r trigolion cyfagos

·         ansicrwydd am y nifer o gwn ar y safle a phryder o gwn yn dianc

·         yr effaith ar gynaladwyedd llety gwely a brecwast  cyfagos

·         dim son am eiddo o’r enw ‘Stablau o fewn yr adroddiad

·         awgrymwyd i’r Pwyllgor ymweld â’r safle a rhoi ystyriaeth bryd hynny i bryderon y gwrthwynebwyr sef yn benodol sŵn a mwynderau, y fynedfa, peipen cyflenwad dwr, llifogydd, a thrwyddedu cybiau llety masnachol.         

 

(a)       Cynigwyd ac eiliwyd i’r Pwyllgor Cynllunio ymweld â’r safle.

 

(ch)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan aelodau unigol:

                                     

·         Cytunwyd a phryderon y gwrthwynebwyr a phe byddai’r fenter yn llwyddiannus efallai y byddai cais pellach i gadw mwy o gwn a fyddai yn ei dro yn creu mwy o sŵn ac aflonyddwch i’r tai cyfagos

·         Y byddai’n fanteisiol i’r cybiau wynebu’r de yn hytrach na’r gogledd i liniaru’r sŵn

·         Pryder ynglŷn â’r amod a gynigir gan yr ymgeisydd o gasglu’r cwn a gwahardd ymwelwyr o ystyried efallai y byddai perchnogion cwn angen ymweld â’r safle cyn ymrwymo i’w cwn fynd yno

·         Pryder ynglŷn â’r fynedfa o ystyried cynnydd yn y drafnidiaeth i’r safle

·         Y byddai’n fanteisiol i wahodd swyddog priodol o Adran Gwarchod y Cyhoedd i’r Pwyllgor Cynllunio pan drafodir y cais i ymateb i bryderon ynglŷn â swn ac aflonyddwch i drigolion cyfagos

 

          PENDERFYNWYD:     Gohirio gwneud penderfyniad ar y cais a gofyn i’r Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio drefnu:

 

(i)            i’r Pwyllgor Cynllunio ymweld â’r safle

(ii)          gwahodd swyddog priodol o Adran Gwarchod y Cyhoedd i’r Pwyllgor Cynllunio pan drafodir y cais i ymateb i bryderon ynglŷn â swn. 

 

 

Dogfennau ategol: