Codi 4 tþ tri ystafell wely, un ohonynt i fod
yn dþ
fforddiadwy.
AELOD LLEOL: Y Cynghorydd Sian Gwenllian
Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Codi 4 tŷ tair ystafell wely, un ohonynt
i fod yn dy fforddiadwy.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle wedi ei leoli o fewn
ffin datblygu’r pentref gyda 2 eiddo ar wahân eisoes wedi eu caniatáu ar ran
blaen o’r safle. Nodwyd bod y safle yn hir a chul gyda llwybr Lôn Las Menai yn
rhedeg ar hyd ochr y safle. Tynnwyd sylw at y polisïau perthnasol ynghyd a’r
sylwadau hwyr a dderbyniwyd yn datgan yr angen am gynllun diwygiedig o’r man
troi siâp “T” ar ben y stad. Yn
wreiddiol ystyriwyd bod angen i 2 o’r tai fod ar gyfer angen fforddiadwy ynghyd
a chyfraniad addysgol ar gyfer 2 ddisgybl ychwanegol yn yr ysgol leol. Fodd bynnag, yn dilyn derbyn barn Uned Polisi
Cynllunio ar y Cyd o hyfywdra darparu cyfraniad addysgol a chynnig 2 uned
fforddiadwy, ystyrir y byddai’r risg o’r datblygiad yn anhyfyw. Yn seiliedig ar yr uchod, ystyrir bod
darpariaeth o un tŷ fforddiadwy fel rhan o’r cynllun yn dderbyniol er mwyn
sicrhau elfen fforddiadwy a bod y datblygiad yn hyfyw. Ni ystyrir bod y bwriad yn debygol o achosi goredrych sylweddol nac ychwaith ei fod yn anghyson gyda
phatrwm datblygu’r ardal ac yn addas o ran ei leoliad, ei ddyluniad a’i faint.
O safbwynt materion bioamrywiaeth, yn dilyn trafodaethau ac yn seiliedig ar
leihau’r nifer o dai oedd yn destun y cais gwreiddiol o 5 i 4 a thrwy newid eu
lleoliadau, ystyrir bod y bwriad yn cydymffurfio a pholisïau perthnasol.
Argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd dirprwyo’r hawl i ganiatáu’r cais yn
ddarostyngedig i gwblhau Cyrundeb 106 er mwyn sicrhau
fod un ty yn fforddiadwy ar gyfer angen lleol ac yn
unol â’r amodau a nodir yn yr adroddiad.
(b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y
prif bwyntiau isod:
·
bod y broses wedi bod yn
hir gyda'r cais wedi ei gyflwyno ers bron i ddwy flynedd
·
bod y dyluniad
gwreiddiol yn golygu 5 tŷ tri llawr fel y rhai sydd eisoes wedi eu
caniatáu i aelodau o’r teulu
·
derbyniwyd sylwadau gan
y Swyddog Bioamrywiaeth ynglŷn â phryder am y coetir cyfagos ac yn dilyn
trafodaethau pellach bu’n rhaid lleihau’r nifer o dai i 4 a newid eu lleoliad i
warchod y coed ynghyd ag amod bod coed i’w plannu ar blot rhif 5 yn wreiddiol
·
golygai hyn bod y drws
wedi cau ar unrhyw obaith i adeiladu pumed tŷ er cynigiwyd i blannu coed
ar safle arall
·
oherwydd yr angen i
symud y tai nid oedd tai tri llawr yn gweddu i’r lleoliad ac fe ail-ddyluniwyd
y cais yn unol â’r gofynion drwy wario’n sylweddol ar
gynlluniau diwygiedig er mwyn bodloni’r angen am dai fforddiadwy
·
apeliwyd ar y pwyllgor i
gefnogi’r cais
(c)
Nododd y Cynghorydd John
Wyn Williams (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn ac yn cynrychioli’r
aelod lleol gan ei bod wedi datgan diddordeb) ei fod yn gefnogol i’r cais ac yn
derbyn bod llawer o drafodaethau wedi digwydd a bellach wedi cyrraedd at
gyfaddawd a oedd orau i bawb o safbwynt hyfywdra’r datblygiad a thai
fforddiadwy.
(ch) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.
(d)
Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, nodwyd y pwyntiau canlynol:
(i)
Mewn ymateb i ymholiad o
safbwynt cyfraniad ariannol i’r ysgol, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu bod
fformiwla penodol wedi ei nodi yn y CCA perthnasol ac fod ffigwr cenedlaethol o
oddeutu £12,000 wedi cael ei osod fel cyfraniad addysgol ar gyfer pob plentyn
fyddai’n debygol o ddeillio o ddatblygiad a ble nad oes capasiti
ar gael o fewn yr ysgol ar eu cyfer. Yng
nghyswllt y cais gerbron, esboniwyd y byddai’r datblygiad yn golygu 2 ddisgybl
ychwanegol i’r ysgol leol ac yn unol â Chanllaw Cynllunio Atodol: Ymrwymiad
Cynllunio sy’n datgan bod y Cyngor yn awyddus i beidio peryglu hyfywdra
cynlluniau datblygu trwy anelu am ormod o gyfraniadau gan ddatblygwyr. Yn yr
achos hwn felly daethpwyd i gytundeb mai darpariaeth o 1 uned fforddiadwy
ddylid cael blaenoriaeth. Yng nghyd-destun ardaloedd eraill, byddai’n
angenrheidiol asesu os oes lle ar gael yn yr ysgol sy’n lleol i’r
datblygiadau. Ychwanegodd yr Uwch Gyfreithiwr,
bod yn rhaid ymdrin â’r cyfraniadau addysgol i’r
ysgol lle mae effaith uniongyrchol y datblygiadau ar yr ysgol leol ac ni fyddai’n bosibl, yn gyfreithiol, i ofyn
am gyfraniad yn seiliedig ar ganran gwerth unrhyw ddatblygiadau.
(ii)
Pryder gan aelod bod
tueddiad gan swyddogion cynllunio i wrthod ceisiadau a gyflwynir gan ymgeiswyr
yn fuan yn y trafodaethau yn hytrach nag esbonio bod cais yn groes i ganllawiau
ac yn sgil hyn bod prosesu ceisiadau yn mynd yn hir ac yn creu rhwystredigaeth
i ymgeiswyr. Roedd yr aelod yn synhwyro
o’r cais gerbron y byddai caniatâd i 5 ty wedi gweddu
hefo patrwm tai eraill a adeiladwyd ac yn caniatáu mwy o dai fforddiadwy.
(iii) Mewn ymateb i’r uchod, esboniodd yr Uwch
Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod y swyddogion cynllunio yn cynnig barn
broffesiynol gorau bosibl i ymgeiswyr yn seiliedig ar y polisïau cynllunio
perthnasol. O safbwynt y cais gerbron, roedd trafodaethau yn seiliedig ar safle
anodd yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth, a.y.b. a chyrhaeddwyd yn y pen
draw ar benderfyniad i’w ganiatáu yn unol â thrafodaeth gyda’r ymgeisydd.
Eglurwyd ymhellach mai mater i ymgeiswyr yw cyflwyno ceisiadau ond bod
swyddogion cynllunio yn ceisio rhoi'r cyngor proffesiynol gorau fel bo
ymgeiswyr ddim yn gwastraffu arian ac mewn gwell sefyllfa i fedru ymdrin â’r cais.
PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i
ganiatáu’r cais yn
ddarostyngedig i
arwyddo Cytundeb 106 i sicrhau fod un o’r tai yn dy fforddiadwy ar
gyfer angen lleol,
derbyn cynllun diwygiedig o’r man troi siâp “T” ar ben y stad, ac i amodau
perthnasol yn ymwneud â:
1. 5 mlynedd
2. Unol a chynlluniau
3. To llechi
4. Dwr Cymru
5. Priffyrdd (parcio a
datganiad dull adeiladu)
6. Cynllun plannu/gwella
bioamrywiaeth i ddigolledu ac i sicrhau fod y man yma yn cael ei gadw ar gyfer
gwerth Bioamrywiaeth.
7. Diogelu llwybr cyhoeddus
8. Tynnu hawliau
dirprwyedig
9. deunyddiau i’w cytuno
Dogfennau ategol: