Agenda item

 

(a)         Adroddiad ar Gynllun Rheoli Pwynt PenrhynCyngor Cymuned Arthog 

 

(b)          Cynllun Busnes (Cynllun Datblygu’r Harbwr)  Cyng. Rob Triggs

 

(c)           Polyn a sbigyn peryg yn Harbwr Aberamffra 

 

(ch)      Diweddariad ynglyn a sefyllfa tywod

 

(d)          Bagiau Tywod / Giat ar frig y llithrfa

 

(dd)      Gorsaf Danwydd Petrol

 

(e)        Angorfeydd

 

(f)            Bysedd y Pontwn

 

(ff)       Pysgod Marw

 

(Copi o fanylion (dd) i (ff) yn amgaeedig)

 

 

 

 

 

 

 

Cofnod:

(a)  Cynllun rheoli Pwynt Penrhyn

 

Diolchodd y Cyng. Julian Kirkham, Cyngor Cymuned Arthog, i’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig am ei gymorth a’i gefnogaeth mewn goresgyn rhai o broblemau parcio ym Mhwynt Penrhyn.

 

Fodd bynnag, roedd faniau campio o bob maint yn anwybyddu’r arwydd “Dim Parcio Dros Nos”.  Nodwyd bod rhywun wedi troi'r arwydd fel nad ydyw yn weledol a gofynnwyd a fyddai modd i’r Gwasanaeth Morwrol ail-osod yr arwydd.   Nodwyd ymhellach  bod faniau campio yn enwedig y rhai mwy wedi cymryd i barcio yn yr ardal uwchben y llithrfa ac yn anwybyddu’r arwydd ac awgrymwyd y gall arwydd arall “Dim Parcio Dros Nos” gael ei osod lle mae’r cylch bwi achub bywyd.

 

Deallir hefyd bod Adran Trafnidiaeth yn bwriadu rhoi arwyddion 30 m.y.a. ar y ffordd i’r pwynt. A oedd hyn yn golygu y gallai cerbydau sydd wedi parcio dros nos ar y briffordd fod yn destun erlyniad.  Ychwanegwyd nad oedd mannau parcio ar y cylch troi.  Roedd un o aelodau’r Cyngor Cymuned wedi ymchwilio i is-ddeddfau ynglyn a “gwersylla gwyllt”.

 

Gwnaed cais i’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig am bwynt cyswllt yn yr Adran Gyfreithiol fel bo Clerc Cyngor Cymuned Arthog yn gallu cysylltu i wneud cais am gyfarfod ac i archwilio’r posibilrwydd i Bwynt Penrhyn fod ynbwynt arbrawf”.

 

Nodwyd bod Rheilffordd Fairbourne yn cytuno y gellid gosod giât i stopio faniau campio ddefnyddio’r ardal uwchben y llithrfa;  amcan cyntaf y Cyngor Cymuned fyddai gosod y giât a  gosod clo gyda chod pwrpasol, lle y gellir ei roi i ddeiliad “bona fide” am drwydded ddi-dâl i lansio eu cwch, ar ôl gwneud cais i Gyngor Cymuned Arthog am drwydded.   

 

Mewn ymateb, adroddodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig:

 

·         Bod y Gwasanaeth Morwrol wedi buddsoddi mewn arwyddion a chytunwyd i roi giât yma ond derbyniwyd gwrthwynebiad a bu’n rhaid ail-ystyried oherwydd bod y ffordd yr unig fynediad i safle lansio cychod Pwynt Penrhyn

·         Croesawyd bod Adran Trafnidiaeth wedi cytuno i roi arwyddion 30 m.y.a. ar y ffordd i’r pwynt

·         Bod problemau parcio dros nos yn bodoli ledled y Sir a’i fod yn anodd ei reoli

·         Cytunwyd y byddai’r Harbwr Feistr yn gosod arwyddion ychwanegol ar y safle cyn diwedd mis Mawrth 2017 ac yn trwsio’r arwydd a fu wedi ei ddifrodi cyn diwedd 2016

 

Penderfynwyd:    Derbyn a nodi’r uchod.

 

 

 

(b)          Cynllun Busnes (Cynllun Datblygu’r harbwr)

 

(i)            Mewn ymateb i ymholiad ynglyn a chynllun i ddatblygu’r harbwr, esboniodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig nad oedd gan y Gwasanaeth Morwrol y gyllideb a’r adnoddau i arwain ar ddatblygiadau. 

 

Nododd y Cadeirydd ymhellach bod y Grŵp Llywio Cymunedol yn ystyried prosiect ehangach a’i fod yn gynamserol i drafod cynllun datblygu’r harbwr hyd nes y gwelir beth fydd adwaith datblygiad y Grŵp Llywio dros y flwyddyn nesaf.

 

(ii)         Yng nghyd-destun ymholiad ynglyn a’r tir tu ol i swyddfa’r Harbwr Feistr, gofynnwyd i’r Uwch Swyddog Harbyrau a’r Harbwr Feistr edrych ar y posibilrwydd ar gyfer datblygu’r tir yn fannau parcio, ac adrodd yn ol i Gyng. Rob Triggs.

 

(iii)          Nododd y Cyng. Rob Triggs bod gofod sylweddol ar y cei yn Aberamffra  y gellir gwneud defnydd ohono.

 

Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod yr unedau yn Aberamffra bellach wedi eu gwerthu ac y byddai’n rhaid ymgynghori gydag Uned Amddiffyn yr Arfordir ynglyn a chyflwr y wal.  Awgrymwyd trafod syniadau’r Cyng. Triggs (unedau o fodurdai) yn uniongyrchol gyda’r Uwch Swyddog Harbyrau a’r Harbwr Feistr mewn ymgynghoriad a’r Uned Amddiffyn yr Arfordir.

 

 

(c)        Polyn peryglus yng ngwaelod y llithrfa yn Harbwr Aberamffra

 

Nodwyd y gwnaed ymdrech i dynnu’r polyn ond nid oedd yn bosibl i’w dorri.

 

 

(ch)    Diweddariad ynglyn a sefyllfa tywod

 

Nododd y Cadeirydd bod adroddiad drafft ar gael ac y bydd ar gael i’r cyhoedd unwaith y bydd wedi ei gadarnhau.

 

(d)        Bagiau Tywod / Giât ar frig y llithrfa

 

Gofynnwyd a oedd modd cau’r giât ar frig y llithrfa yn enwedig ar lanw uchel.

 

O safbwynt y bagiau tywod, deallir nad yw’r Cyngor yn cyflenwi bagiau tywod ac amlygwyd pryder bod rhannau o Abermaw yn dioddef o lifogydd ac y dylid ail-ystyried darparu bagiau tywod.  Cyflwynwyd llythyr i’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ar ran perchennog y Last Inn yn mynegi pryder am yr uchod i’w gyflwyno ymhellach i Uned Amddiffyn yr Arfordir.

 

Mewn ymateb i’r uchod, sicrhaodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig na fyddai unrhyw anhawster ynglyn a chloi’r giât ar frig y llithrfa yn ystod y gaeaf ac ar lanw uchel. Bydd yr Harbwr Feistr yn sicrhau fod y giat ar glo dros gyfnod llanw uchel (Springs) ac yn cael ei agor pan bydd y llanw yn lleihau (Neaps)

 

(dd)     Gorsaf Danwydd Petrol

 

Gofynnodd cynrychiolydd Grŵp Defnyddwyr Harbwr Abermaw a fyddai modd ystyried cael cyfleuster tanwydd petrol i’r harbwr.  Tra’n derbyn bod elfennau iechyd a diogelwch i’w hystyried, gwelwyd y cyfleuster yn fodd o greu incwm ychwanegol.

 

Mewn ymateb, addawodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ystyried y mater ymhellach

yn nhermau risgiau a rheoliadau perthnasol ac y byddir yn adrodd ar ei ganfyddiadau i gyfarfod nesaf y pwyllgor ymgynghorol hwn ym mis Mawrth 2017.

 

(e)          Angorfeydd

 

(i)            Taliadau Blynyddol - pe na fyddai angorfa wedi ei ddefnyddio a oedd polisi i godi tal is neu ffi cadw?  Os nad oedd, a fedrai’r Cyngor ystyried polisi o’r fath?

 

Mewn ymateb, esboniodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig pe byddai unigolyn yn awyddus i gadw angorfa, byddai’n rhaid talu’r ffi.  Os nad yw unigolyn yn gallu lansio oherwydd rhesymau dilys, fe fyddai’r Harbwr Feistr yn hyblyg ynglyn a thaliadau.

 

(ii)           Cadarnhad o fanyleb offer gwely’r môr.  A oes unrhyw amodau ar gyfer offer gwely’r môr, a yw hyn yn gymwys i’r holl angorfeydd neu a yw’r rhai ar gyfer angorfeydd dros dro yn wahanol i angorfeydd parhaol?  Pwy sy’n gyfrifol am angorfeydd, dros dro a pharhaol, pe byddent yn llusgo ac yn achosi niwed i drydydd parti?

 

Mewn ymateb, cadarnhaodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod yn rhaid i’r angorfeydd cydymffurfio a manyleb berthnasol sy’n cynnwys maint y cadwyni ac angor.  Rhaid i berchennog pob angorfa gyflwyno tystysgrif cymwys briodol i’r Harbwr Feistr cyn angori cwch ar yr angorfa.  Ni fydd yr Harbwr Feistr yn archwilio pob un angorfa gan nad yw hyn yn gyfrifoldeb y Gwasanaeth Morwrol ond o safbwynt angorfeydd y Cyngor, bydd yr Uwch Swyddog Harbyrau a’r Harbwr Feistr yn eu harchwilio.

 

O safbwynt math yr angorfa, nodwyd bydd y Gwasanaeth yn ystyried hyn ac yn cadarnhau eu penderfyniad yn y cyfarfod nesaf.

 

Awgrymwyd y byddai’r Harbwr Feistr yn anfon polisi angorfeydd allan i’r aelodau.

 

(iii)          O safbwynt poeni am ddiogelwch, gofynnir bod angorfeydd y Tri Chopa yn y fynedfa i’r harbwr yn cael eu marcio gyda bwi goleuedig.

 

Mewn ymateb, yn wyneb y ffaith ei bod yn annhebygol y byddai’r cychod yn hwylio i mewn yn ystod y nos, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y byddai modd rhoi rhybudd i forwyr yn hytrach na rhoi bwi goleuedig. 

 

(f)            Pysgod Marw

 

Mynegwyd pryder am faterion amgylcheddol yn sgil y ffaith y gwelwyd gweddillion dros 270 o hyrddiaid wedi eu ffiledu yn llanast yn yr harbwr.

 

Mewn ymateb, gwerthfawrogwyd derbyn y wybodaeth gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.  Ychwanegwyd, bod dyletswydd ar unigolion i ddatgelu pwy sydd yn gyfrifol, os ydynt yn ymwybodol o’r achos ac yn ymwybodol pwy sydd yn gyfrifol am bysgota yn anghyfreithlon yn yr harbwr.

 

(g)          Mewn ymateb i ymholiad ychwanegol ynglyn a gwelliant mewn derbyn tystysgrifau angorfeydd, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod angen tynhau gweithrediadau’r tystysgrifau ac fe fyddir yn trafod ymhellach gyda’r Uwch Swyddog Harbyrau  a’r Harbwr Feistr. 

 

Penderfynwyd:          Gofyn i’r swyddogion perthnasol weithredu yn unol a’r awgrymiadau wnaed uchod.

 

 

Dogfennau ategol: