Yn unol â’r
Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd
y Cynghorydd Owain Williams yn cynnig fel a ganlyn:-
“Bod y Cyngor
yn gofyn i Gabinet Cyngor Gwynedd ystyried ail-edrych ar eu polisi
ynglŷn â gosod contractau allan i gyflenwyr bwyd yn ein hysgolion
a’r flaenoriaeth a roddir i gwmniau bach lleol.
Y rhesymeg
tu ôl i hyn
yw’r ffaith eu bod yn honni
eu bod yn rhoi blaenoriaeth i gwmnïau bach lleol yn hytrach
na chwmnïau mawr. Mae hyn yn hanfodol
bwysig oherwydd bod rhai cwmnïau yn
cyflenwi bwydydd a fewnforiwyd yn arbennig felly cigoedd. Ni ellir pwysleisio’n ormodol y pwysigrwydd o allu olrhain tarddiad
pob math o gig gan gofio am
helyntion a pheryglon i blant ac oedolion o fwyta cig a heintiwyd e.e. clefyd y gwartheg
gwallgof. Oferedd a sinicrwydd ydyw dadlau fod
pris y cigoedd a gyflenwir gan gwmnïau
mawr yn rhatach
wedyn; pa bris a roddir ar ddiogelwch ac iechyd plant?”
Cofnod:
(a) Cyflwynwyd
y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Owain Williams o dan Adran 4.20 y
Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
“Bod y Cyngor yn gofyn i Gabinet Cyngor Gwynedd ystyried ail-edrych ar
eu polisi ynglŷn â gosod contractau allan i gyflenwyr bwyd yn ein
hysgolion a’r flaenoriaeth a roddir i gwmnïau bach lleol.
Y
rhesymeg tu ôl i hyn yw’r ffaith eu bod yn honni eu bod yn rhoi blaenoriaeth i gwmnïau
bach lleol yn hytrach na chwmnïau mawr.
Mae hyn yn hanfodol bwysig oherwydd bod rhai cwmnïau yn cyflenwi bwydydd
a fewnforiwyd yn arbennig felly cigoedd.
Ni ellir pwysleisio’n ormodol y pwysigrwydd o allu olrhain tarddiad pob
math o gig gan gofio am helyntion a pheryglon i blant
ac oedolion o fwyta cig a heintiwyd e.e. clefyd y gwartheg gwallgof. Oferedd a sinicrwydd
ydyw dadlau fod pris y cigoedd a gyflenwir gan gwmnïau mawr yn rhatach wedyn;
pa bris a roddir ar ddiogelwch ac iechyd plant?”
Galwodd aelod ar y cynigydd i ddileu ail
baragraff ei gynnig ar y sail:-
·
Bod
y cynnwys yn ffeithiol anghywir gan fod gwybodaeth glir ynglŷn â tharddiad
pob cig ar y labeli y dyddiau hyn.
·
Bod
gwneud haeriad bod modd i’r Cyngor fynd heibio’r holl
reoliadau tynn ynglŷn â gwerthu cig yn gwbl afresymol.
Nododd y cynigydd nad oedd yn fodlon dileu’r ail baragraff.
Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i ddileu’r ail baragraff ac i ddiwygio’r
paragraff cyntaf i ddarllen fel a ganlyn:-
“Bod y Cyngor yn gofyn i Gabinet Cyngor Gwynedd ddwysau yn eu hymdrechion
i gadw’r budd yn lleol gan gydweithio hefo, a grymuso cwmnïau bach lleol i allu
cystadlu am y tendrau.”
Yn ystod y drafodaeth ar y gwelliant, nododd yr Aelod Cabinet Economi:-
·
Nad mater o ddewis oedd hyn, eithr proses fusnes
gyfreithiol, ac er y byddai wedi bod yn ddewis hawdd i Wynedd
bwrcasu ar lefel Gogledd Cymru, ‘roedd y Cyngor wedi llwyddo yn eu hachos
busnes i symud oddi wrth hynny gan nad oedd y drefn yn gweddu i fusnesau llai
eu maint yn y sir.
·
Ymhellach i hyn, y rhannwyd y sir yn dalpiau llai er
mwyn rhoi cyfle i fusnesau dendro a chafwyd sesiynau cyfarfod y prynwyr, ac
ati, i godi ymwybyddiaeth, a bu cryn dipyn o waith gan swyddogion y Cyngor hwn
i rymuso’r busnesau.
·
Nad oedd yn bosib’ yn gyfreithiol i’r Cyngor roi
mewn cytundeb bod cwmni yn cael y gwaith oherwydd ei fod yn gwmni lleol, ond
‘roedd modd gwyro’r drefn tuag at roi amodau ffafriol iddynt.
·
Bod ail baragraff y cynnig gwreiddiol yn anghyfiawn
ac yn codi bygythion ymhlith rhieni plant yn yr ysgolion.
·
Er bod rhai cwmnïau bychain wedi colli contractau,
bod yna gwmni lleol yng Ngwynedd hefyd wedi ennill y
contract a bod y math yma o ddatganiad mewn dogfen gyhoeddus gan y Cyngor yn
sarhad i’w proffesiynoldeb hwy a’u cyfle i dyfu o fewn y sir hon.
Codwyd rhai pwyntiau gan aelodau eraill hefyd, megis:-
·
Bod modd olrhain tarddiad pob cig yn y wlad hon ac y
dylid rhoi pob anogaeth a chefnogaeth i fusnesau lleol i’w galluogi i dendro yn
llwyddiannus am fusnes lleol.
·
Bod modd i’r Cyngor roi mwy o bwyntiau i fusnes
lleol ond nad oedd ymrwymiad cadarn wedi’i roi bod y cynnyrch fydd yn cael ei
ddefnyddio yn cael ei wireddu yn lleol.
·
Bod angen cadw a chefnogi busnesau bach drwy
flaenoriaethau’r cymorth sydd ei angen arnynt.
·
Bod angen edrych ar ba gytundebau sydd wedi’u rhoi i
gwmnïau y tu allan i’r sir gan sicrhau yn y dyfodol bod cyflenwr o fewn y sir â’r gallu a’r ymroddiad i wneud y gwaith.
·
Na
ddylai’r Cyngor roi’r gwaith allan i unrhyw gyflenwyr heb weld y pasbortau priodol.
·
Bod angen cefnogi cwmnïau bach ac oni fyddai’n
decach rhannu’r gacen yn hytrach na gosod y contract yn ei gyfanrwydd i un
cwmni?
·
Bod dyletswydd ar y Cyngor i weithredu yn
rhagweithiol a sicrhau ein bod yn prynu’n lleol.
·
Y dylid cadw at yr egwyddor o gefnogi busnesau lleol
cyn belled ag y gellir gan
hefyd sicrhau bod y bwydydd sy’n cyrraedd yr ysgolion yn deilwng ar gyfer y
plant.
·
Y golygai rheoliadau bwyd yn y wlad hon fod y bwyd o
ansawdd arbennig o dda.
·
Bod y Cyngor hwn ymhlith y gorau yng Nghymru o ran
prynu’n lleol ac yn awyddus i sicrhau hyd yn oed gwell perfformiad.
Pleidleisiwyd ar y gwelliant ac fe gariodd.
Cynigiodd cynigydd y rhybudd o gynnig gwreiddiol welliant i ychwanegu at
y cynnig bod y Cabinet yn edrych i mewn i darddiad cigoedd ac yn monitro’r
tarddiad hwnnw.
Eiliwyd y gwelliant.
Mewn ymateb, nododd aelodau fod trefniadau manwl eisoes yn eu lle i
fonitro tarddiad cigoedd.
Pleidleisiwyd ar y gwelliant ac fe ddisgynnodd.
Pleidleisiwyd ar y cynnig gwreiddiol ac fe gariodd.
PENDERFYNWYD bod y
Cyngor yn gofyn i Gabinet Cyngor Gwynedd ddwysau yn eu hymdrechion i gadw’r
budd yn lleol gan gydweithio hefo, a grymuso cwmnïau bach lleol i allu cystadlu
am y tendrau.