Agenda item

Adeiladu estyniad unllawr a porth i'r , trosi modurdy presennol yn uned wyliau hunangynhaliol ac adeiladu stablau.

 

AELOD LLEOL:  Cynghorydd Gruffydd Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

Adeiladu estyniad unllawr a phorth i'r tŷ, trosi modurdy presennol yn uned wyliau hunangynhaliol ac adeiladu stablau.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 4 Ebrill 2016 er mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod.

 

          Nodwyd bod y safle yng nghefn gwlad agored ac oddi mewn i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn (AHNE). Ystyrir na fyddai’r bwriad yn ei gyfanrwydd yn achosi niwed arwyddocaol i dirwedd yr AHNE a bod ymgais bositif wedi ei wneud gan yr ymgeisydd i ymateb i bryderon gwreiddiol am faint y stablau (drwy gyflwyno cynllun diwygiedig ar gyfer y stablau) a'i fod felly bellach yn dderbyniol i’r Uned AHNE ac yn dderbyniol o ran Polisi B8 CDUG.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

Cyfeiriwyd at hanes cynllunio’r safle gan nodi bod yr hyn a leolir ar y safle yn bresennol yn gwbl gywir a derbyniol gyda’r caniatâd cynllunio angenrheidiol mewn lle a bod y caniatâd yma wedi dilyn apêl a wrthodwyd yn flaenorol am ddatblygiadau eraill ar y safle.

 

          Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(a)       Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Ei fod yn or-ddatblygiad a bod effaith gronnol datblygiadau ym Mynydd Nefyn yn niweidiol i’r AHNE;

·         Bod dyletswydd statudol i warchod yr AHNE a dylid blaenoriaethu cadwraeth a gwarchod rhinweddau arbennig;

·         Bod yr Uned AHNE yn mynegi pryder o ran effaith y bwriad ar osodiad yr AHNE;

·         Y dylid ystyried sylwadau’r Arolygydd o ran gwrthodiad apêl cais cynllunio C09D/0039/42/LL.

 

(c)     Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu

·         Bod yr asesiad yn yr adroddiad yn rhoi ystyriaeth lawn i’r AHNE;

·         Bod yr ymgeisydd yn dilyn derbyn pryderon yr Uned AHNE wedi cyflwyno cynlluniau diwygiedig o ran y stablau gyda’r Uned yn nodi ei fod yn gwneud y cais yn fwy derbyniol o ran yr AHNE;

·         Bod yr amgylchiadau yn wahanol ers gwrthodwyd yr apêl gyda chais cynllunio wedi ei ganiatáu ar ôl yr apêl i gysoni’r sefyllfa.

 

(ch)   Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol:

 

·         Bod yr amod a argymhellir i waredu’r garafán sefydlog yn golygu gwelliant i’r safle;

·         Y dylid ystyried sylwadau’r arolygydd gan nad oedd y sefyllfa polisi wedi newid. A fyddai swyddogion yn hyderus pe byddai apêl y gallent dystiolaethu bod eu hargymhelliad yn unol â’r polisïau?

·         Bod datblygiadau sy’n cael eu caniatáu yn newid nodweddion cefn gwlad ac mai un pwrpas dynodiad yr AHNE oedd cadw nodweddion traddodiadol;

·         Bod y tŷ wedi ei ddatblygu dros y blynyddoedd felly nid oedd y tŷ yn ei ffurf wreiddiol;

·         Bod y stablau yn angenrheidiol er mwyn darparu lloches i geffylau’r ymgeisydd dros y gaeaf.

 

(d)     Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:-

·         Bod y sefyllfa yn wahanol gan fod yr apêl yn 2011 yn gysylltiedig â datblygiadau anawdurdodedig. Dylid ystyried effaith y bwriad ar y sefyllfa bresennol felly rhaid bod yn ofalus wrth ddibynnu ar y dyfarniad apêl;

·         Bod yr adroddiad yn gytbwys, cynhwysfawr ac yn cynnwys asesiad o effaith y bwriad ar yr AHNE.

 

          PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

1.     Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.     Unol gyda’r cynlluniau.

3.     Llechi to’r estyniadau, porth ac unrhyw addasiadau i do’r uned wyliau i gydweddu gyda’r llechi presennol.

4.     Cytuno lliw to’r stablau.

5.     Cytuno lliw ar gyfer y rendr i’r estyniadau a waliau allanol yr uned wyliau.

6.     Cytuno ar garreg leol naturiol ar gyfer waliau allanol y porth.

7.     Y byrddau coed ar waliau allanol y stabl i gael eu gadael i hindreulio yn naturiol.

8.     Dim defnydd busnes o’r stabl.

9.     Y garafán sefydlog bresennol ar y safle i’w symud yn gyfan gwbl oddi ar y safle o fewn 2 fis o gwblhau’r estyniad yn sylweddol neu cyn i’r uned wyliau gael ei meddiannu am y tro cyntaf pa un bynnag ddigwydd gyntaf. Yn dilyn hyn, ni chaniateir lleoli carafán o fewn cwrtil yr eiddo.

10.   Tynnu hawliau datblygu caniataol ar gyfer yr uned wyliau.

11.   Yr uned wyliau i’w defnyddio ar gyfer defnydd gwyliau yn unig a dim defnydd fel uned breswyl ar wahân. Angen cadw cofrestr o’r ymwelwyr.

12.   Cynllun tirweddu/cloddiau

 

 

Dogfennau ategol: