Adeiladu 8 tŷ annedd newydd a fydd yn cynnwys 2 annedd fforddiadwy ynghyd a ffurfio ffordd fynediad fewnol a llwybr cerdded mewnol.
AELOD
LLEOL: Cynghorydd
Peter Read
Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Adeiladu 8 tŷ
annedd newydd a fydd yn cynnwys 2 annedd fforddiadwy ynghyd a ffurfio ffordd
fynediad fewnol a llwybr cerdded mewnol.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y
cais wedi bod gerbron y Pwyllgor ar 11 Ionawr 2016, 22 Chwefror 2016 a
chyfarfod 14 Mawrth 2016 lle gohiriwyd y cais er mwyn derbyn sylwadau’r Uned
Polisi Cynllunio ar y Cyd ar y Datganiad Cymunedol ac Ieithyddol.
Nodwyd bod y cais wedi ei ddiwygio ers cyflwynwyd yn wreiddiol i fod yn
gais llawn am 8 tŷ yn hytrach na 9 ar safle o fewn ffin datblygu Abererch
ac a ddynodwyd yng Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd (CDUG) ar gyfer tai newydd
ar gyfer marchnad gyffredin. Ychwanegwyd yn dilyn lleihau’r nifer o dai sy’n
rhan o’r bwriad bod y nifer o dai fforddiadwy a gynigir wedi eu lleihau o 3 i
2.
Ystyrir bod y cais yn ei ffurf ddiwygiedig yn dderbyniol ar gyfer y safle a
byddai defnydd addas (ar sail dwysedd) yn cael ei wneud o’r tir.
Adroddwyd y derbyniwyd sylwadau gan yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd ar y
Datganiad Cymunedol ac Ieithyddol ac yn sgil y sylwadau ystyrir fod y bwriad yn
dderbyniol ac na fyddai’n cael ardrawiad ar yr Iaith Gymraeg.
Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.
(b) Cynigwyd ac eiliwyd i
ganiatáu’r cais.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol:
·
Pryder yr aelod lleol o ran gosodiad y tai;
·
Bod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yn nodi yn eu
sylwadau bod y gyfran o dai fforddiadwy a gynigir sef 25% yn is na’r gyfran
ddangosol yn y CDUG o 35%;
·
Pryder y caniateir ceisiadau gyda llai o dai
fforddiadwy na’r gyfran ddangosol;
·
Y dylid gosod amod bod y ffordd yn cael ei gwblhau
cyn y meddiannir y tai;
·
Bod lleoliad y cais tu mewn i’r ffin datblygu;
·
Bod cefnogaeth yn lleol;
·
Bod y cynlluniau wedi eu diwygio i oresgyn
pryderon.
(c) Mewn ymateb i’r sylwadau
uchod, nododd y swyddogion:-
·
Bod y cais yn ei ffurf
ddiwygiedig yn ymateb i bryder o ran gosodiad y tai a’r effaith ar fwynderau
cyfagos;
·
Bod y swyddogion o’r farn gan
fod yr ymgeisydd wedi lleihau’r nifer o dai o 9 i 8 mewn ymateb i bryderon o
ran gosodiad y tai bod y gyfran o dai fforddiadwy a gynigir yn rhesymol. Nodwyd
bod lleoliad a natur y tai yn debygol o reoli fforddiadwyedd a’u bod yn
ddeniadol i’r boblogaeth leol;
·
Y byddai cynnwys 3 tŷ
fforddiadwy yn y bwriad yn golygu 40% o’r datblygiad ac o ystyried mai’r Cyngor
sydd wedi gofyn i’r ymgeisydd ddiwygio’r cynllunio ei fod yn dderbyniol;
·
Yr argymhellir gosod amod o
ran cwblhau’r ffordd.
PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r
Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i arwyddo cytundeb
106 yn clymu 2 o’r unedau fel tai fforddiadwy.
Amodau:
1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd.
2. Unol
gyda chynlluniau diwygiedig.
3. Cytuno gorffeniad waliau allanol a tho’r tai.
4. Tynnu hawliau datblygiad a ganiateir ar gyfer estyniadau ac
adeiladau cwrtil ar gyfer y 2 uned fforddiadwy.
5. Rhaid i lwybr cyhoeddus Rhif 7 Llannor sydd yn cael ei effeithio
gan y datblygiad yma gael ei wyro o dan Adran 257 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref
1990 cyn i unrhyw waith arall gael ei ddechrau ar y safle.
6. Lefel llawr daear i fod o leiaf 4.6m AOD.
7. Cyflwyno a derbyn cymeradwyaeth i gynllun gwaredu dŵr
wyneb.
8. Tirlunio.
9. Wal / gwrych / ffens derfyn gyda ffordd stad ddim i fod yn uwch
na 1 medr.
10. Cwblhau’r ffordd stad a cherrig sadio wedi’u cywasgu a’u sefydlogi
a chwblhau system dwr wyneb.
11. Cwblhau ffordd a phalmentydd i’r cwrs sylfaen a goleuadau’n
gweithio cyn meddiannu’r tai.
12. Gosod cyrbiau wrth ochrau’r ffordd stad,
cwblhau wyneb y gerbydlon a’r droedffordd a’u goleuo cyn i’r annedd olaf ar y
stad gael ei feddiannu.
13. Dwr aflan a dŵr wyneb i’w gwaredu ar wahân o’r safle.
14. Dim dŵr wyneb i gysylltu yn uniongyrchol nag yn
anuniongyrchol i’r system garthffos gyhoeddus.
15. Draeniad tir ddim i gysylltu yn uniongyrchol
nag yn anuniongyrchol i’r system garthffos gyhoeddus.
Dogfennau ategol: